Thomas A. Dorsey
Thomas A. Dorsey | |
---|---|
Ffugenw | Georgia Tom, Memphis Mose |
Ganwyd | Thomas Andrew Dorsey 1 Gorffennaf 1899 Villa Rica |
Bu farw | 23 Ionawr 1993 Chicago |
Label recordio | Gennett |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | cerddor jazz, pianydd, cyfansoddwr caneuon, gospel musician |
Arddull | jazz |
Gwobr/au | Gwobr Ymddiriedolwyr Grammy |
Cyfansoddwr caneuon, canwr, a phianydd Americanaidd oedd Thomas Andrew Dorsey (1 Gorffennaf 1899 – 23 Ionawr 1993) a elwir "Tad Cerddoriaeth yr Efengyl".[1] Priodolir iddo arloesi'r genre honno drwy gyfuno'r hen emynau Negroaidd a chanu'r tabernaclau efengylaidd ag arddulliau'r felan-gân.[2] Dywed iddo gyfansoddi cannoedd o ganeuon y felan a thros mil o ganeuon yr efengyl, gan gynnwys yr emynau "Precious Lord, Take My Hand" a "Peace in the Valley". Yn ystod ei yrfa, perfformiodd dan sawl ffugenw, gan gynnwys "Barrelhouse Tommy", "Georgia Tom", "Memphis Jim", "Memphis Mose", "Railroad Bill", "Smokehouse Charley", a "Texas Tommy".[3]
Teulu a bywyd cynnar (1899–1916)
[golygu | golygu cod]Ganed Thomas Andrew Dorsey ar 1 Gorffennaf 1899 i deulu o Americanwyr Affricanaidd yn Villa Rica, Georgia, Unol Daleithiau America, yn fab i'r pregethwr efengylaidd Thomas Madison Dorsey a'i wraig, yr organyddes eglwys Etta Plant.[3] Symudodd y teulu i Atlanta—prifddinas a dinas fwyaf y dalaith—pan oedd Thomas yn blentyn, a fe ganodd mewn corau'r eglwysi lleol ers 5 oed.[3] Gweithiodd yn fynych i'r syrcas leol, a gwerthodd ddiodydd ysgafn yn yr 81 Theater, un o brif ganolfannau cerddorol Atlanta.[3] Dylanwadwyd arno gan bianyddion a cherddorion eraill y felan-gân a glywodd yn yr 81, sîn a elwid "blŵs Atlanta". Cychwynnodd ar ei yrfa gerddorol yn ifanc, tua 11 oed, gan ddysgu ar liwt ei hun yr arddull barrelhouse o ganu'r piano, a pherfformiodd dan yr enw "Barrelhouse Tommy" mewn neuaddau dawns, partïon preifat, a gwirotai yn Atlanta a'r cyrion.[3] Serch ei fagwraeth dduwiol, amgylchfyd anweddus a phechadurus ydoedd, ac am ddeunaw mlynedd gyntaf ei yrfa byddai'n ganwr, pianydd, cyfansoddwr, a threfnydd mewn cerddoriaeth seciwlar, gan gynnwys hocwm—caneuon digrif, yn aml o natur rywiol—a jazz y putendai.[3][1]
Ei yrfa yn y felan (1916–28)
[golygu | golygu cod]Symudodd Dorsey i Chicago, Illinois, ym 1916—yn nechrau'r Ymfudiad Mawr gan bobl dduon o daleithiau gwledig De'r Unol Daleithiau i'r dinasoedd ac ardaloedd diwydiannol yn y Gogledd a'r Gorllewin Canol—ac yno astudiodd yn y Coleg Cyfansoddi a Threfnu.[1] Dechreuodd weithio â bandiau jazz, a blaenodd grŵp ei hun, y Wildcats Jazz Band, a aeth ar daith gyda'r gantores Ma Rainey ar draws taleithiau'r Gorllewin Canol a'r De rhwng 1924 a 1928.[3] Byddai hefyd yn arddangos offerynnau mewn siopau cerdd lleol am dâl ychwanegol, ac felly magodd gysylltiadau â'r diwydiant cyhoeddi cerddoriaeth, a chafodd waith trefnu i'r cwmnïau Chicago Music Publishing a Vocalion Records.[3] Ym 1926 cyfansoddodd un o'i ganeuon crefyddol cyntaf, "If You See My Savior".[2] Ym 1928 ffurfiodd Dorsey bartneriaeth â'r gitarydd llithr o nod Tampa Red, gyda Dorsey yn defnyddio'r enw "Georgia Tom", a recordiasant y gân "It's Tight Like That", a lwyddodd i werthu miliwn o gopïau.[3]
Ei yrfa yn yr efengyl (1929–34)
[golygu | golygu cod]Gweithiodd Dorsey i Vocalion Records fel chwilotwr am dalent, ac ym 1929 dechreuodd weithio fel cynghorwr recordio i Brunswick Records. Recordiodd sawl cân yn nechrau'r 1930au, gan gydweithio â grwpiau megis y Hokum Boys a'r gantores Memphis Minnie.[3] Yn y cyfnod hwn, penderfynodd ganolbwyntio ar gerddoriaeth grefyddol yn unig, a sefydlodd gwmni ei hun—Thomas Dorsey Gospel Songs Music Publishing Company—i gyhoeddi gerddoriaeth ddalen a geiriau ei hun. Cyfansoddodd fil a rhagor o ganeuon defosiynol, gan gyfuno alawon a rhythmau'r felan â themâu ysbrydol ac efenyglaidd. Yn ogystal â chyfansoddiadau gwreiddiol ei hun, addasodd sawl emyn Negroaidd poblogaidd at dempo cyflym y felan. Ym 1931, bu farw ei wraig gyntaf wrth esgor ar eu baban, yr hwn a fu farw hefyd y diwrnod wedyn. Ysbrydolwyd Dorsey gan ei alar a'i ffydd i ysgrifennu un o'i ganeuon enwocaf, "Precious Lord, Take My Hand".[3] Daeth yn gyfarwyddwr corawl Eglwys y Bedyddwyr Pererin yn Chicago ym 1932.[1] Dorsey oedd un o sefydlwyr Cynhadledd Genedlaethol Corau a Chorysau'r Efengyl ym 1932, gyda'i phencadlys yn Chicago, ac efe oedd llywydd yr honno am 40 mlynedd. Gwnaeth ei record olaf ym 1934.
Gweddill ei oes (1934–93)
[golygu | golygu cod]Er iddo roi'r gorau i recordio, parhaodd Dorsey i deithio a pherfformio yn y 1940au. Priododd â'i ail wraig, Kathryn Mosley, ym 1941.[2] Wedi hynny, treuliodd ail hanner ei oes yn ysgrifennu, ac yn darlithio i ysgolion, clybiau, a gorsafoedd radio. Gwasanaethodd yn weinidog cynorthwyol Eglwys y Bedyddwyr Pererin trwy gydol y 1960au a'r 1970au.[3] Rhoddwyd iddo ddoethuriaeth er anrhydedd gan Sefydliad Simmons, De Carolina, ym 1946 a Gwobr Gerddoriaeth Genedlaethol y Gynhadledd Gerddoriaeth Americanaidd ym 1976.[3] Dioddefodd o glefyd Alzheimer ar ddiwedd ei oes, a bu farw Thomas Dorsey ar 23 Ionawr 1993 yn ei gartref yn Chicago yn 93 oed.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) Thomas Andrew Dorsey. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 17 Tachwedd 2022.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 (Saesneg) Eric Pace, "Thomas A. Dorsey Is Dead at 93; Known as Father of Gospel Music", The New York Times (25 Ionawr 1993). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 17 Tachwedd 2022.
- ↑ 3.00 3.01 3.02 3.03 3.04 3.05 3.06 3.07 3.08 3.09 3.10 3.11 3.12 (Saesneg) Laurence Staig, "Obituary: Thomas Dorsey", The Independent (26 Ionawr 1993). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 20 Ebrill 2013.
- Genedigaethau 1899
- Marwolaethau 1993
- Cantorion yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Cantorion Affricanaidd-Americanaidd
- Cantorion Saesneg o'r Unol Daleithiau
- Cantorion y felan
- Cyfansoddwyr yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Emynwyr o'r Unol Daleithiau
- Pianyddion yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Pianyddion y felan
- Pobl o Atlanta, Georgia
- Pobl o Chicago
- Pobl fu farw yn Chicago
- Pobl fu farw o glefyd Alzheimer