Stadiwm Al Bayt
Math | stadiwm, association football pitch |
---|---|
Agoriad swyddogol | 30 Tachwedd 2021 |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Al Khor |
Sir | Al Khor (dinas) |
Gwlad | Qatar |
Cyfesurynnau | 25.652222°N 51.487778°E |
Stadiwm pêl-droed â tho y gellir ei dynnu'n ôl yn Al Khor, Qatar, yw Stadiwm Al-Bayt (Arabeg: استاد البيت).[1] Mae wedi'i leoli tua 35 km o Doha.[2] Bydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gemau Cwpan y Byd FIFA 2022,[3] a fydd yn dechrau 20 Tachwedd 2022.[2] Dyfarnwyd cytundeb adeiladu'r stadiwm i Webuild Sp A. a Cimolai yn 2015.[4] Ym mis Ionawr 2020, derbyniodd y stadiwm dystysgrifau cynaliadwyedd dylunio ac effeithlonrwydd ynni.[5]
Cynlluniau
[golygu | golygu cod]Bydd gêm agoriadol Cwpan y Byd Pêl-droed 2022 yn cael ei chynnal yn Stadiwm Al Bayt, 20 Tachwedd 2022.[6][7] Cafodd y dyluniad pensaernïol ei ysbrydoli gan bebyll traddodiadol pobl nomadig Qatar.[8] Bydd yn cynnwys to, y gellir ei dynnu'n ôl ac hefyd yn cynnwys ystafelloedd gwesty moethus ac ystafelloedd gyda golygfeydd balconi o'r cae pêl-droed.[9] Bydd y parcio ar y safle i 6,000 o geir ac o safbwynt trafnidiaeth gyhoeddus, bydd 350 o fysiau'n mynd a dod o'r safle a 150 o fysiau/gwennol cyhoeddus, yn ogystal â 1,000 o dacsis a thacsis dŵr. Bydd y stadiwm yn gallu dal tua 60,000 o gefnogwyr Cwpan y Byd 2022,[9] gan gynnwys 1,000 o seddi i'r wasg.
Adeiladu ar gyfer Cwpan y Byd FIFA Qatar 2022
[golygu | golygu cod]Mae Stadiwm Al Bayt yn Qatar yn un o saith stadiwm sy'n cael eu trosi ar gyfer Cwpan y Byd FIFA Qatar 2022[10] a dyma'r ail stadiwm fwyaf ar ôl Stadiwm Eiconig Lusail.[11] Dyluniwyd y stadiwm gan Dar Al-Handasah.[12] Yn dilyn Cwpan y Byd 2022, disgwylir iddo gael ei addasu'n stadiwm â 32,000 o seddi yn ogystal â gwesty pum seren, canolfan siopa a chyfleusterau chwaraeon eraill.[13][14]
Datgelodd ymchwiliad yn 2021 gan The Guardian fod dros 6500 o weithwyr mudol o Bangladesh, India, Pacistan, Nepal a Sri Lanca wedi marw rhwng 2010 a 2020 wrth adeiladu lleoliadau Cwpan y Byd 2022 yn Qatar.[15] Nid oedd y ffigurau a ddefnyddiwyd gan The Guardian yn cynnwys galwedigaeth na man gwaith y gweithwyr felly ni ellid cysylltu marwolaethau yn bendant â'r gwaith adeiladu ar gyfer Cwpan y Byd 2022, ond mai “yr unig reswm roedd cyfran sylweddol iawn o’r gweithwyr mudol sydd wedi marw ers 2011 yn y wlad oherwydd i Qatar ennill yr hawl i gynnal Cwpan y Byd."
Hanes
[golygu | golygu cod]Cynhaliwyd y gêm gyntaf yn Stadiwm Al Bayt yn ystod Cwpan Arabaidd FIFA 2021, gan gynnwys rownd derfynol y twrnamaint ar 18 Rhagfyr 2021.[16][17]
Dyddiad | Tîm #1 | Canlyniad | Tîm #2 | Rownd |
---|---|---|---|---|
30 Tachwedd 2021 | Qatar | 1–0 | Bahrain | Grŵp A |
3 Rhagfyr 2021 | Syria | 2–0 | Tiwnisia | Grŵp B |
6 Rhagfyr 2021 | Qatar | 3–0 | Irac | Grŵp A |
10 Rhagfyr 2021 | Qatar | 5–0 | Emiradau Arabaidd Unedig | Rownd yr wyth olaf |
Cwpan y Byd FIFA 2022
[golygu | golygu cod]Bydd Stadiwm Al Bayt yn cynnal naw gêm yn ystod Cwpan y Byd FIFA 2022.
Dyddiad | Tîm #1 | Canlyniad | Tîm #2 | Rownd | Presenoldeb |
---|---|---|---|---|---|
20 Tachwedd 2022 | Qatar | - | Ecwador | Grŵp A | |
23 Tachwedd 2022 | Moroco | - | Croatia | Grŵp F | |
25 Tachwedd 2022 | Lloegr | - | Unol Daleithiau America | Grŵp B | |
27 Tachwedd 2022 | Sbaen | - | Yr Almaen | Grŵp E | |
29 Tachwedd 2022 | Yr Iseldiroedd | - | Qatar | Grŵp A | |
1 Rhagfyr 2022 | Costa Rica | - | Yr Almaen | Grŵp E | |
4 Rhagfyr 2022 | Enillwyr Grŵp B | - | Grŵp A ail safle | Rownd 16 | |
10 Rhagfyr 2022 | Gêm Enillwyr 51 | - | Gêm Enillwyr 52 | Chwarter-derfynol | |
14 Rhagfyr 2022 | Gêm Enillwyr 59 | - | Gêm Enillwyr 60 | Rowndiau Cynderfynol |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Courtney". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-10-01. Cyrchwyd 2022-11-01.
- ↑ 2.0 2.1 "Al Bayt Stadium: All you need to know about Qatar's new 2022 World Cup venue". goal.com. 1 Rhagfyr 2021. Cyrchwyd 2 Mawrth 2022.
- ↑ Neha Bhatia (13 Awst 2015). "Revealed: The firms behind the construction Qatar's World Cup stadiums". Arabian Business. Cyrchwyd 13 Awst 2015.
- ↑ "Salini Cimolai JV - News". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Chwefror 2017. Cyrchwyd 5 Chwefror 2019.
- ↑ "Education City Stadium awarded prestigious sustainability certificates". FIFA. 16 Ionawr 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Ionawr 2020. Cyrchwyd 18 Mai 2020.
- ↑ "Qatar World Cup to start at Al Bayt Stadium as schedule announced". thejakartapost.com. 16 Gorffennaf 2020. Cyrchwyd 7 Ionawr 2021.
- ↑ "A 5-star view of the World Cup: Qatar's Al Bayt stadium set to unveil jaw-dropping Sky Boxes". goal.com. 18 Tachwedd 2019. Cyrchwyd 2 Awst 2021.
- ↑ "Al Bayt Stadium achieves outstanding sustainability rating". thepeninsulaqatar.com. 27 Gorffennaf 2020. Cyrchwyd 7 Ionawr 2021.
- ↑ 9.0 9.1 "World Cup 2022: A room with a view at Qatar's Al Bayt Stadium". aljazeera.com. 18 Medi 2019. Cyrchwyd 7 Mawrth 2022.
- ↑ "Qatar unveils Al Bayt Stadium design". arabianbusiness.com. 22 Mehefin 2014. Cyrchwyd 2 Awst 2021.
- ↑ "New images of Al-Bayt World Cup stadium confirm completion". en.as.com. 19 Hydref 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-12-25. Cyrchwyd 2 Awst 2021.
- ↑ "Qatar 2022 stadiums continue to take shape despite pandemic". thepeninsulaqatar.com. 4 Ionawr 2021. Cyrchwyd 4 Awst 2021.
- ↑ "Al Bayt Stadium achieves outstanding sustainability rating". fifa.com. Cyrchwyd 10 Awst 2021.
- ↑ "Al-Bayt Stadium in Al Khor, Qatar for FIFA World Cup 2022". footballcoal.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-11-01. Cyrchwyd 1 Ebrill 2022.
- ↑ "Revealed: 6,500 migrant workers have died in Qatar since World Cup awarded". TheGuardian.com. 23 Chwefror 2021.
- ↑ "Amir attends FIFA Arab Cup final match,closing ceremony". gulf-times.com. 18 Rhagfyr 2021. Cyrchwyd 10 Mawrth 2022.
- ↑ "2021 FIFA Arab Cup: Participating teams, fixtures and all you need to know". goal.com. 18 Rhagfyr 2021. Cyrchwyd 10 Mawrth 2022.