Ofn llwyfan
Pryder, ofn, neu ffobia parhaus mewn unigolyn sy'n mynd i berfformio o flaen cynulleidfa, neu'n wynebu'r posibilrwydd o hynny, yw ofn llwyfan neu bryder perfformio. Yng nghyd-destun siarad cyhoeddus, gall hyn ysgogi neu ddod law yn llaw a chymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd sy'n cynnwys cyflwyno eich hun yn gyhoeddus. Mewn rhai achosion gall ofn fod yn rhan o batrwm ehangach o ffobia cymdeithasol (anhwylder pryder cymdeithasol), ond mae nifer o bobl yn cael y profiado ofn llwyfan heb unrhyw broblemau ehangach. Yn ddigon aml, mae ofn llwyfan yn codi o ddim mwy na'r disgwyliad i berfformio, yn aml ymhell o flaen llaw. Mae'n amlygu ei hun mewn nifer o wahanol ffyrddː atal dweud, chwimguriad, cryndod yn y dwylo a'r coesau, dwylo chwyslyd, gwingo nerfau'r wyneb, ceg sych, a phendro.