Index Librorum Prohibitorum
Tudalen teitl agraffiad 1564 | |
Enghraifft o'r canlynol | catalog, rhestr o gyhoeddiadau gwaharddedig |
---|---|
Math | sensoriaeth |
Cyhoeddwr | yr Eglwys Gatholig Rufeinig, Cynulleidfa'r Indecs |
Iaith | Lladin Eglwysig |
Dyddiad cyhoeddi | 1559 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Rhestr o lyfrau a ystyriai yr Eglwys Gatholig yn hereticaidd neu'n groes i foesoldeb oedd Index Librorum Prohibitorum ("Rhestr o Lyfrau Gwaharddedig"). Gwaherddid i aelodau'r eglwys eu darllen.
Crëwyd yr Index yn 1559 gan y Pab Pawl IV. Fe'i diweddarwyd yn barhaus nes i'r 20fed argraffiad ymddangos yn 1948. Fe'i diddymwyd yn ffurfiol yn 1988 gan y Pab Pawl VI.
Condemniodd y rhestr destunau crefyddol a seciwlar fel ei gilydd, gan ddosbarthu llyfrau i'r graddau yr oeddent yn wrthun i'r eglwys. Gwaharddwyd gwaith nifer o wyddonwyr enwog (Nicolaus Copernicus, Galileo Galilei ac Johannes Kepler), ond codwyd y gwaharddiadau hyn yn 1835. Ymhlith awduron eraill, gan gynnwys athronwyr, haneswyr, nofelwyr a beirdd, y gwaharddwyd rhai neu’r cyfan o’u gweithiau oedd: Francis Bacon, Honoré de Balzac, Jeremy Bentham, Henri Bergson, George Berkeley, Thomas Browne, René Descartes, D'Alembert, Simone de Beauvoir, John Calvin, Erasmus Darwin, Daniel Defoe, Denis Diderot, Alexandre Dumas, Gustave Flaubert, Edward Gibbon, André Gide, Thomas Hobbes, Victor Hugo, David Hume, Immanuel Kant, John Locke, John Stuart Mill, John Milton, Michel de Montaigne, Montesquieu, Blaise Pascal, Jean-Jacques Rousseau, George Sand, Jean-Paul Sartre, Baruch Spinoza, Stendhal, Voltaire, ac Émile Zola.
Ni roddwyd ar y rhestr sawl awdur roedd eu barn yn annerbyniol i’r Eglwys, e.e. Karl Marx a Charles Darwin (er fod ei daid, Erasmus Darwin yn ymddanos arni).