Jean-Jacques Rousseau
Jean-Jacques Rousseau | |
---|---|
Ganwyd | 28 Mehefin 1712 Genefa |
Bu farw | 2 Gorffennaf 1778 o ataliad y galon Ermenonville |
Man preswyl | Torino, Swydd Stafford |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Genefa, Ffrainc |
Galwedigaeth | athronydd, llenor, cyfansoddwr clasurol, cerddolegydd, nofelydd, hunangofiannydd, addysgwr, naturiaethydd, dramodydd, gwyddoniadurwr, gohebydd, gwyddonydd gwleidyddol, awdur ysgrifau, beirniad cerdd, botanegydd |
Adnabyddus am | Emile, The Social Contract, Julie, ou la Nouvelle Héloïse, Confessions |
Mudiad | social contract, cerddoriaeth faróc |
Tad | Isaac Rousseau |
Priod | Thérèse Levasseur |
Partner | Françoise-Louise de Warens |
llofnod | |
Athronydd ac awdur yn yr iaith Ffrangeg oedd Jean-Jacques Rousseau (28 Mehefin 1712 - 2 Gorffennaf 1778).
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Cafodd ei eni yn Geneva i rieni Ffrengig. Daeth yn ffrind i Denis Diderot ac ymunodd â'r Gwyddoniadwyr. Credai fod natur y bod dynol yn berffaith ynddi ei hun ond ei bod wedi'i llygru gan gymdeithas amherffaith; amlygir hyn yn bennaf yn ei nofel ar addysg, Émile (1762). Cafodd syniadau gwleidyddol Rousseau ddylanwad sylweddol ar ei gyfoeswyr yn Ffrainc a gweddill Ewrop ac, yn ddiweddarach, ar arweinwyr a damcaniaethwyr y Chwyldro Ffrengig (er na chredai J.-J. ei hun mewn chwyldro). Fel llenor cafodd ei arddull cain a syniadaeth Ramantaidd ddylanwad ar lenorion fel Goethe, Shelley, Byron a Wordsworth. Ceir ei ysgrifeniadau mwyaf personol yn Les Confessions a Rêveries du promeneur solitaire, a gyhoedwyd ar ôl ei farwolaeth. Mewn cyferbyniad â Voltaire ac eraill o'r Rhesymegwyr, roedd Rousseau yn Gristion rhyddfrydol a gredai fod Natur yn allwedd i ddeall y Duwdod. Mae haneswyr yn cytuno i waith Rousseau achosi chwyldro mewn agweddau tuag at y naturiol a'r cyntefig drwy Ewrop; efallai mai ei nofel Julie ou la Nouvelle Héloïse a fu'n bennaf gyfrifol am hyn. Ym 1766, ac yntau wedi cilio i Lundain yng nghwmni'r athrnoydd o'r Alban David Hume, roedd Rousseau yn awyddus i ymgartrefu yng Nghymru. Cynigodd yr Aedol Seneddol Chase Price lety iddo yng Nghymru, ond fe'i perswadiwyd gan David Hume i fynd i Swydd Stafford yn lle. Trafodir hyn mewn erthygl gan Heather Williams, 'Cymru trwy lygaid Rousseau (ac eraill)', Y Traethodydd Hydref 2013.
Gwaith Rousseau
[golygu | golygu cod]Yr argraffiad safonol o holl waith Rousseau yn Ffrangeg yw'r Œuvres complètes, 5 cyfrol, Paris, Gallimard, Bibliothèque de la Pléiade (1959-95).
- Projet concernant de nouveaux signes pour la musique (1742)
- Dissertation sur la musique moderne (1743)
- Discours sur les sciences et les arts (1750)
- Cyfrannodd Rousseau i'r Encyclopédie a olygwyd gan Diderot a d'Alembert. Cyfrannodd y rhan fwyaf o'r erthyglau ar gerddoriaeth ond ei gyfraniad pwysicaf oedd Économie politique ('Economeg wleidyddol', 1755, a adnabyddir heddiw dan y teitl Discours sur l'économie politique.
- Le Devin du village (1752). Opera.
- Narcisse ou l’amant de lui-même Archifwyd 2007-02-14 yn y Peiriant Wayback (1752). Drama.
- Discours sur l'origine et les fondements de l'inégalité parmi les hommes (1755)
- Examen de deux principes avancés par M. Rameau (rhwng 1754 a 1756 yn ôl pob tebyg)
- Lettre à d'Alembert sur les spectacles (1757)
- Jugement du Projet de paix perpétuelle de Monsieur l'Abbé de Saint-Pierre (1756)
- Lettres morales (1757-1758)
- Julie ou la Nouvelle Héloïse (1761)
- Du contrat social (1762)
- Émile ou De l'éducation (1762)
- Essai sur l'origine des langues (cyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth)
- Projet de constitution pour la Corse (cyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth, ysgrifennwyd yn 1765 efallai)
- Dictionnaire de musique (1755 ymlaen; cyhoeddwyd 1767)
- Les Confessions (cyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth)
- Dialogues de Rousseau juge de Jean-Jacques (cyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth)
- Rêveries du promeneur solitaire (cyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Du contrat social (MetaLibri)
- Jean-Jacques Rousseau
- Genedigaethau 1712
- Marwolaethau 1778
- Athronwyr y 18fed ganrif o Ffrainc
- Athronwyr y 18fed ganrif o'r Swistir
- Athronwyr gwleidyddol o Ffrainc
- Athronwyr gwleidyddol o'r Swistir
- Llenorion gwleidyddol o Ffrainc
- Llenorion gwleidyddol o'r Swistir
- Nofelwyr y 18fed ganrif o Ffrainc
- Nofelwyr y 18fed ganrif o'r Swistir
- Nofelwyr Ffrangeg o Ffrainc
- Nofelwyr Ffrangeg o'r Swistir
- Pobl a aned yng Ngenefa
- Pobl fu farw yn Ffrainc