Aldus Manutius
Aldus Manutius | |
---|---|
Ganwyd | 1449, 1450 Bassiano |
Bu farw | 6 Chwefror 1515 Fenis |
Man preswyl | Casa Manuzio, Ferrara, Casa Manuzio |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Fenis, Taleithiau'r Babaeth |
Alma mater | |
Galwedigaeth | dylunydd math, cyhoeddwr, tiwtor, teipograffydd, argraffydd, golygydd |
Cyflogwr | |
Prif ddylanwad | Giovanni Pico della Mirandola, Andrea Torresano |
Priod | Maria Torresano |
Plant | Paulus Manutius, Marco Manuzio, Antonio Manuzio, Alda Manuzio |
llofnod | |
Argraffwr, cyhoeddwr, a theipograffwr Eidalaidd yng nghyfnod y Dadeni Dysg oedd Aldus Manutius neu Aldo Manuzio (Teobaldo Manucci; 1449 – 6 Chwefror 1515) sydd yn nodedig am sefydlu gwasg Aldina.[1] Cyhoeddodd Manutius nifer o'r argraffiadau cyntaf o glasuron llenyddiaeth Hen Roeg a Lladin.
Ganed yn Bassiano, Taleithiau'r Babaeth, ac astudiodd yn Rhufain ac yn Ferrara. Aeth i Fenis ym 1490 a bu'n cysylltu ag ysgolheigion a chysodwyr Groegaidd. Ym Mawrth 1495 cyhoeddodd ei lyfr cyntaf a chanddo ddyddiad: Erotemata gan Constantinos Lascaris. Cyhoeddodd pum cyfrol o waith Aristoteles ym 1495–98; eidylau Theocritos a De Aetna gan Pietro Bembo ym 1495; a gweithiau gan Aristoffanes a Poliziano ym 1498. Y llyfr enwocaf a gyhoeddwyd ganddo oedd Hypnerotomachia Poliphili (1499) gan Francesco Colonna, a ddarluniwyd gyda thorluniau pren gan arlunydd anhysbys. Cyhoeddodd argraffiadau o Fyrsil, Juvenalis, Martialis, a Petrarca ym 1501; a Catullus, Lucanus, Thucydides, Soffocles, a Herodotus ym 1502. Yn yr argraffiad hwnnw o Soffocles, sonir y tro cyntaf am Aldina, academi o ysgolheigion a drefnwyd gan Manutius i olygu testunau clasurol er mwyn eu cyhoeddi ar ffurf llyfrau. Ymddangosodd coloffon enwog Aldina, angor a dolffin, am y tro cyntaf yn argraffiad Awst 1502 o La divina commedia gan Dante. O 1503 i 1514, cynhyrchwyd testunau gan Xenophon, Euripides, Homeros, Esop, Platon, Pindar, ac Horas, yn ogystal â Desiderius Erasmus.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ David S. Zeidberg; Fiorella Gioffredi Superbi (1998). Aldus Manutius and Renaissance Culture: Essays in Memory of Franklin D. Murphy : Acts of an International Conference, Venice and Florence, 14-17 June 1994 (yn Saesneg). L.S. Olschki. t. 318. ISBN 978-88-222-4575-5.
- ↑ (Saesneg) Aldus Manutius. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 7 Awst 2020.