Thucydides
Thucydides | |
---|---|
Penddelw Thucydides; copi Helenistaidd diweddar o wreiddiol 4g CC (Amgueddfa Frenhinol Ontario) | |
Ganwyd | 460s CC Alimos Municipality |
Bu farw | Athen |
Dinasyddiaeth | Athen yr henfyd |
Galwedigaeth | hanesydd, llenor |
Swydd | Athenian strategos |
Adnabyddus am | History of the Peloponnesian War |
Prif ddylanwad | Homeros |
Tad | Oloroso |
Hanesydd a chadfridog Groegaidd oedd Thucydides (Hen Roeg: Θουκυδίδης, Thoukydídēs) (c. 460 CC – c. 400 CC. Mae'n enwog fel awdur Hanes Rhyfel y Peloponnesos, sy'n rhoi hanes Rhyfel y Peloponnesos rhwng Athen a Sparta yn rhan olaf y 5 CC. Ystyrir mai ef oedd yr hanesydd cyntaf i gasglu tystiolaeth yn fanwl ac yn feirniadol.
Nid oes llawer o wybodaeth am ei fywyd; ceir y rhan fwyaf o'i waith ef ei hun. Roedd yn Atheniad, yn fab i Olorus. Gyrrwyd ef fel cadfridog i Thasos yn 424 CC oherwydd ei ddylanwad yn Thrace. Yn ystod gaeaf 424-423 CC, ymosododd Brasidas o Sparta ar Amphipolis, hanner diwrnod o hwylio o Thasos. Gyrroedd Eucles, yr arweinydd Athenaidd yn Amphipolis, at Thucydides am gymorth, ond erbyn i Thucydides gyrraedd, roedd y ddinas eisoes wedi ildio. Cyhuddwyd Thucydides o fod yn gyfrifol am fod y ddinas wedi ei cholli, ac alltudiwyd ef.
Ymddengys iddo fynd i fyw ar ei stad yn Thrace, a defnyddio ei amser ar gyfer ymchwilio ac ysgrifennu ei hanes. Mae yr hanes yn gorffen yn sydyn yn 411 CC, cyn diwedd y rhyfel, efallai am fod Thucydides wedi marw, ond cynigiwyd rhesymau eraill hefyd.