Ysgol Tregarth
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | ysgol Gymraeg |
---|---|
Lleoliad | Bangor |
Rhanbarth | Gwynedd |
Ysgol gynradd yn Nhregarth ger Bethesda, Gwynedd ydy Ysgol Tregarth, sydd rhyw bum milltir i’r de-ddwyrain o ddinas Bangor. Mae'n ysgol Gymraeg wirfoddol yr Eglwys yng Nghymru o dan reolaeth, ar gyfer plant 3-11 oed. Mae yn nhalgylch Ysgol Dyffryn Ogwen.
Sefydlwyd yr ysgol ym 1897, a cyhoeddodd yr ysgol lyfryn i ddathlu eu canmlwythiant ym 1997.[1] Daw tua 50% o'r plant o gartrefi lle mae Cymraeg yn brif iaith. Trefnir y disgyblion i bum dosbarth. Mae’r ysgol erbyn hyn wedi clystyru gydag Ysgol Bodfeurig ac mae gan y brifathrawes gyfrifoldeb rheoli dros y ddwy.
Roedd 125 o blant ar gofrestr yr ysgol yn 2007; mae hyn yn gynnyd o 30% ers yr adolygaid ddiwethaf yn 2001. Roedd pymtheg y cant o’r disgyblion yn derbyn cinio am ddim.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (1997) Ysgol Tregarth 1897-1997: cerrig milltir yn hanes yr ysgol: milestones in the school's history. Ysgol Tregarth. AISN B001AHROX8
- ↑ Adroddiad Adolygiad ESTYN 2007. ESTYN (22 Hydref 2013).