William Bowen Rowlands
William Bowen Rowlands | |
---|---|
Ganwyd | 1837 Hwlffordd |
Bu farw | 4 Medi 1906, 1906 |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, cyfreithiwr, bargyfreithiwr |
Swydd | Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Roedd Y Barnwr William Bowen Rowlands KC (1836 – 4 Medi 1906) yn athro, clerigwr, cyfreithiwr ac yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Ceredigion[1]
Bywyd Personol
[golygu | golygu cod]Ganwyd Rowlands yn Hwlffordd ym 1836 yn fab hynaf i Thomas Rowlands, Pensaer ac adeiladwr ac Anne Bowen ei wraig. Fei bedyddwyd ar 4 Chwefror 1836 yn Eglwys St Thomas Hwlffordd [2]
Cafodd ei addysgu mewn ysgol breifat o'r enw Gough House yn Chelsea cyn mynd ymlaen i Goleg yr Iesu, Rhydychen lle graddiodd BA ym 1859 ac MA ym 1865 Ym 1864 priododd Adeline Morgan merch y Dr J D Brown, Hwlffordd
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ym 1864 cafodd Rowlands ei ordeinio'n diacon yn Eglwys Loegr a'i benodi'n giwrad Eglwys Hwlffordd ac yn brifathro Ysgol Ramadeg Hwlffordd. Ar ôl cyfnod o bedair blynedd yn y swyddi ymddiswyddodd gan fynd i astudio'r gyfraith yn Gray's Inn gan gael ei alw i'r Bar ym 1871. Cychwynnodd ei yrfa gyfreithiol fel bargyfreithiwr ar gylchdaith De Cymru. Ym 1882 daeth y Gwnsler y Frenhines ac yn feinciwr. Ym 1889 fe'i penodwyd yn drysorydd Gray's Inn ac yn aelod o'r Cyngor Addysg yn y Gyfraith. Ym 1893 fe'i penodwyd yn Gofiadur Abertawe. Ym 1898 fe'i penodwyd yn arweinydd Cylchdaith De Cymru ac ym 1900 fe'i penodwyd yn farnwr llysoedd sirol cylchdaith Penbedw.
Gyrfa Wleidyddol
[golygu | golygu cod]Yn Etholiad Cyffredinol 1885 cynigiodd ei enw ar gyfer ymgeisyddiaeth y Blaid Ryddfrydol yn Nwyrain Morgannwg gan golli i Alfred Thomas. Ym 1886 bu rwyg yn y Blaid Ryddfrydol ar achos ymreolaeth i'r Iwerddon; yr oedd y Prif Weinidog William Gladstone am ganiatáu lefel o hunan lywodraeth i'r wlad, ond roedd nifer yn ei blaid yn wrthwynebus i'r syniad. Dymchwelwyd y llywodraeth ar yr achos a bu'n rhaid cynnal etholiad arall ym 1886 gyda'r aelodau oedd yn erbyn ymreolaeth yn sefyll fel Rhyddfrydwyr Unoliaethol a oedd yn datgan nad oeddynt am gefnogi llywodraeth newydd a arweiniwyd gan Gladstone nac unrhyw lywodraeth Ryddfrydol oedd am barhau i fygwth dyfodol Undod y Deyrnas Gyfunol. Ymysg yr Unoliaethwyr oedd David Davies, Llandinam Aelod Rhyddfrydol Ceredigion. Gwahoddwyd Rowlands i sefyll dros adain Gladstone o'r Blaid Ryddfrydol[3]. Gan ei fod yn ddyn gweddol anadnabyddus, yn di Gymraeg ac yn aelod o Eglwys Loegr ystyriwyd ei obeithion o ennill yn erbyn ei wrthwynebydd, a oedd yn un o hoelion wyth y byd anghydffurfiol Gymraeg; ond fe lwyddodd i gipio'r sedd o drwch y blewyn.
Parhaodd i gynrychioli'r etholaeth hyd 1895 pan safodd i lawr gan ei fod wedi cael tröedigaeth i achos yr Eglwys Gatholig ac mi fyddai wedi bod bron yn amhosibl i Babydd cael ei ethol yng Nghymru wledig y cyfnod.
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw Rowlands yn ei gartref yn Kensington Llundain ym 1906[4] yn 69 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Mortlake
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Death of Judge Bowen Rowlands Pembrokeshire Herald and General Advertiser 7 Medi 1906 [1] adalwyd 13 Ebrill 2015
- ↑ "Wales Births and Baptisms, 1541-1907," index, FamilySearch [2] : (adalwyd 13 Ebrill 2015), William Bowen Rowlands, 04 Feb 1836; citing SAINT THOMAS,HAVERFORDWEST,PEMBROKE,WALES, reference ; FHL microfilm 105,143.
- ↑ Death of Judge Bowen Rowlands. A Famous Parliamentary Fight Recalled Welsh Gazette and West Wales Advertiser - 13 Medi 1906 [3] adalwyd 13 Ebrill 2015
- ↑ Carmarthen Weekly Reporter 7 Medi 1906 Newyddion t2 [4] adalwyd 13 Ebrill 2015
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: David Davies |
Aelod Seneddol Ceredigion 1886 – 1895 |
Olynydd: Matthew Vaughn-Davies |