Neidio i'r cynnwys

Vladimir Mayakovsky

Oddi ar Wicipedia
Vladimir Mayakovsky
LlaisВ.Маяковский - Необычайное приключение (1920 г.).ogg Edit this on Wikidata
GanwydВлади́мир Влади́мирович Маяко́вский Edit this on Wikidata
19 Gorffennaf 1893 Edit this on Wikidata
Baghdati Edit this on Wikidata
Bu farw14 Ebrill 1930 Edit this on Wikidata
o anaf balistig Edit this on Wikidata
Moscfa Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYmerodraeth Rwsia, Yr Undeb Sofietaidd Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Russian State University of Design and Applied Arts (Stroganov University)
  • Ysgol Cerflunio, Paentio a Phensaerniaeth, Moscfa
  • School № 91 (Moscow) Edit this on Wikidata
Galwedigaethartist posteri, bardd, actor, dramodydd, llenor, arlunydd, newyddiadurwr, actor llwyfan, actor ffilm, cyfarwyddwr, cyfarwyddwr theatr, gwneuthurwr printiau, cyfarwyddwr ffilm, artist, sgriptiwr Edit this on Wikidata
Arddullpennill, barddoniaeth naratif, agitprop, drama Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Lafur Democrataidd-Sosialaidd Rwsia Edit this on Wikidata
MudiadRussian Futurism, Dyfodoliaeth Edit this on Wikidata
PartnerLilya Brik, Tatiana Yacovleff, Elli Jones, Veronika Polonskaya, Natalya Bryukhanenko Edit this on Wikidata
PlantHelen Patricia Thompson Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Lenin Komsomol, Medal "For Diligence" (1801) Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://v-v-mayakovsky.ru/ Edit this on Wikidata
llofnod

Roedd Vladimir Vladimirovich Mayakovsky (Rwsieg: Влади́мир Влади́мирович Маяко́вский (19 Gorffennaf 189314 Ebrill 1930)) yn fardd, dramodydd, arlunydd ac actor Rwsiaidd.[1] Roedd yn un o brif ffigyrau celfyddydau avant garde Rwsia yr 20g.

Bywyd cynnar

[golygu | golygu cod]

Fe'i ganed yn Baghdati, Ymerodraeth Rwsia, (sydd bellach yn Georgia). Roedd ei dad yn goedwigwr ac yn Gosac Zaporozhian a'i fam o dras Cosac Kuban.[2] Er i Mayakovsky siarad Georgeg yn yr ysgol a gyda'i ffrindiau, ei famiaith oedd Rwsieg. Yn 14 oed fe gymerodd ran ym mhrotest sosialaidd Kutaisi, y dref ble fynychai'r ysgol uwchradd leol. Yn dilyn marwolaeth ei dad yn 1906, symudodd i Fosgow gyda'i fam a'i ddwy chwaer.

Ym Moscow fe ddatblygodd ddiddordeb mawr mewn llenyddiaeth Farcsaidd ac ymunodd â Phlaid Lafur Cymdeithasol Democrataidd Rwsia ac yna yn ddiweddarach ymunodd â'r RSDLP, fel Bolsiefic. Ym 1908, bu rhaid iddo adael ei ysgol ramadeg am nad oedd ei fam yn gallu talu'r ffïoedd.

Yn llanc ifanc, fe'i carcharwyd deirgwaith am weithgaredd gwleidyddol gwrth-sefydliadol, ond fe lwyddodd osgoi cael ei alltudio ymhell o Foscfa oherwydd ei oedran. Yn ystod ei gyfnod yng Ngharchar Butyrka ym 1909 fe ddechreuodd ysgrifennu barddoniaeth ond cafodd y cerddi eu cymryd oddi wrtho gan yr awdurdodau. Ym 1911 ymunodd â Choleg Celf Moscow ble cyfarfu ag aelodau mudiad Dyfodoliaeth (Saesneg: Futurism) Rwsia gan ddod yn llefarydd i'r grŵp Gileas (Гилея) a chyfarfu â David Burliuk a fu'n ddylanwad mawr arno.

Bywyd llenyddol

[golygu | golygu cod]

Ym 1912 ymddangosodd ei gerddi cyntaf yn y cyhoeddiad Dyfodoliaethol Cernod yn wyneb chwaeth gyhoeddus [3], Nos (Ночь) a Bore (Утро). Ym 1914 cafodd Burlyuk a Mayakovsky eu diarddel o Ysgol Gelf Moscow am eu gweithgaredd gwleidyddol.

Delwedd o Как делать стихи (Sut i wneud barddoniaeth) gan Mayakovsky'.

Ym 1914 dechreuodd ymbellau o arddull Dyfodoliaeth. Sefydlodd ei hun fel llenor o fri gyda'i gerddi a gyhoeddwyd yn union cyn Chwyldro Rwsia ym 1917.

Roedd Cwmwl Mewn Trowsus (1915) [4] yn gerdd sylweddol cyntaf Mayakovsky. Yn ymdrin â chariad, chwyldro, crefydd a chelfyddyd ac fe'i ysgrifennwyd o safbwynt cariad a wrthodwyd gan ddefnyddio iaith gyffredin. Aeth Mayakovsky i gryn drafferth wrth herio syniadaeth ddelfrydol a rhamantaidd am farddoniaeth a beirdd.

Dy feddyliau
breuddwydio ar ymennydd meddal
fel gwas bach ysglyfaethus ar soffa seimllyd
Tynnu coes diferion deilchion fy nghalon
yn maethu dirmyg brathog, byddaf yn dilorni nes gorlifo

Dim gwallt llwyd yn fy enaid
dim tynerwch gwegian
Yn taranu'r byd gyda nerth fy llais
cerdded, yn hardd
dau ddeg dau

Вашу мысль
мечтающую на размягченном мозгу,
как выжиревший лакей на засаленной кушетке,
буду дразнить об окровавленный сердца лоскут:
досыта изъиздеваюсь, нахальный и едкий.

У меня в душе ни одного седого волоса,
и старческой нежности нет в ней!
Мир огромив мощью голоса,
иду – красивый,
двадцатидвухлетний.

(O Cwmwl Mewn Trowsus.) Gallwch helpu Wicipedia drwy wella'r cyfieithiad uchod
Vladimir Mayakovsky a Lilya Brik.

Yn haf 1915, fe syrthiodd Mayakovsky mewn cariad â merch briod, Lilya Brik, gwraig y cyhoeddwr Osip Brik. Fe gyflwynwyd gan Mayakovsky y gerdd Ffliwt Asgwrn Cefn (1916) iddi. Roedd ei gariad cudd gyda Lilya, ei argraffiadau o'r Rhyfel Byd Cyntaf a sosialaeth yn dylanwadu’n gryf arno yn ystod y cyfnod hwn. Mae'r cerddi Rhyfel a'r Byd (1916) yn ymwneud ag erchylltra rhyfel a Dyn (1917) yn ymdrin â phoen cariad.

Fe wrthodwyd Mayakovsky pan wirfoddolodd ar ddechau'r Rhyfel Byd Cyntaf, ac yn ystod 1915–1917 gweithiodd fel drafftiwr yn Ysgol Cerbydau Milwrol Petrograd. Ym 1917 ar ddechrau Chwyldro Rwsia roedd Mayakovsky ynm Mhetrograd i weld dechrau'r Chwyldro Tachwedd. Darllenodd gerddi fel Gorymdaith Goch! I'r môr-filwyr cochion: 1918 (Левый марш (Матросам) mewn theatrau y llynges i gynulleidfaoedd o forwyr.

Mayakovsky (canol) gyda ffrindiau yn cynnwys Lilya Brik, Eisenstein (trydedd o'r chwith) a Boris Pasternak (ail o'r chwith).

Perfformiwyd ei ddrama ddychanol Mystery-Bouffe ym 1918, ac eto, yn fwy llwyddiannus, ym 1921. Ym 1918 ysgrifennodd a chymerodd ran fel prif actor mewn tri ffilm mud a wnaethpwyd yn St. Petersburg. Yr unig ddarn o ffilm o Mayakovsky sydd wedi goroesi yw Y Fenyw Ifanc a'r Hwligan yn seiliedig ar waith Edmondo De Amicis La maestrina degli operai Tybir bod ei ddau ffilm arall wedi'u colli.[5]

Ar ôl symud yn ôl i Moscow, gweithiodd Mayakovsky i Asiantaeth Telegraff Rwsia yn creu cynlluniau a thestun i bosteri propaganda. Yn 1919 fe gyhoeddodd ei gasgliad cyntaf o gerddi Vladimir Mayakovsky Casgliad 1909–1919 (Все сочиненное Владимиром Маяковским). Yn yr hinsawdd ddiwylliannol yn yr Undeb Sofietaidd cynnar, fe dyfodd ei boblogrwydd yn gyflym. O 1922 i 1928 roedd yn aelod blaengar o'r Ffrynt Celfyddydol Chwith ac fe ddiffiniodd ei waith fel Dyfodoliaeth Gomiwnyddol (комфут). Gyda Sergei Tretyakov ac Osip Brik (gwr ei gariad Lilya) fu'n gyd olygydd y cylchgrawn pwysig LEF.

Rhwyg 1923 a 1925 fe weithiodd hefyd gyda'r dylunydd Alexander Rodchenko i greu cynlluniau ar gyfer hysbysebion i'r llywodraeth a chwmnïau preifat. Roedd Mayakovsky yn ysgrifennu’r testun a Rodchenko yn ei gynllunio. Arwyddwyd y gwaith yn ‘’Mayakovsky-Rodchenko Adeiladwyr Hysbysebion’’ yn ymwybodol o’r paradocs o wneud hysbysebion yn ôl y steil cyfalafol er mwyn hybu comiwnyddiaeth a gwerthu nwyddau traul.[6]

Roedd Mayakovsky yn un o'r ychydig o ysgrifenwyr Sofietaidd gyda chaniatâd i deithio'n rhydd, aeth i Latfia, Gwledydd Prydain, Yr Almaen, Yr Unol Daleithiau, Mecsico a Cuba a bu'r teithiau yn ddylanwad ar waith fel Fy narganfyddiad o'r Unol Daleithiau (Мое открытие Америки, 1925). Hefyd, t eithiodd yn eang trwy'r Undeb Sofietaidd.

Poster propaganda gan Mayakovsky

Ar daith ddarlithio yn yr Unol Daleithiau, cyfarfu ag Elli Jones, a fu esgor ar blentyn yn ddiweddarach i'w ferch. Mynnodd Mayakovsky nid oedd yn gwybod am y babann tan 1929, pan welodd y ddeuddyn ei gilydd yn gudd yn Ne Ffrainc.

Ar ddiwedd y 1920au dechreuodd Mayakovsky golli ffydd mewn trywydd yr Undeb Sofietaidd o dan arweinyddiaeth Joseff Stalin; mae ei ddrama ddychanol Lleuen Gwely (Клоп, 1929) a'r Baddondy (Баня, 1930), yn deilio o fiwrocratiaeth ac agwedd Philistaidd yr awdurdodau.

Ar noson 14 Ebrill, 1930, saethodd Mayakovsky ei hun. Mae ei ferch Yelena Vladimirovna Mayakovskaya, yn wrth-ddweud yr hanes swyddogol.[7]

Fe gladdwyd Mayakovsky ym Mynwent Novodevichy, Moscow.

Etifeddiaeth

[golygu | golygu cod]

Ym 1930, fe ail-enwyd ei dref enedigol Baghdati yn Mayakovsky yn ei anrhydedd (fe newidiwyd yr enw yn ôl i Baghdati ym 1990 pan ganodd Georgia ei annibyniaeth o'r Undeb Sofietaidd).

Ar ôl ei farwolaeth fe feirniadwyd Mayakovsky yn y wasg Sofietaidd. Yn ddewr iawn, ysgrifennodd Lilya Brik i Stalin i gwyno am yr ymosodiadau ar Mayakovsky, Ysgrifennodd Stalin sylw ar lythyr Brik:

Cymrawd Yezhov, a wnewch chi ofalu am lythyr Brik. Mae Mayakovsky yn dal y bardd gorau a mwyaf talentog yn ein hoes Sofietaidd. Mae diffyg parch i'w etifeddiaeth ddiwylliannol yn drosedd. Mae sylwadau Brik, yn fy marn i, yn gyfiawn.[8]

Ym 1938 fe agorwyd Gorsaf Mayakovskaya ar linell rheilffordd danddaearol Moscow ac ym 1974 fe agorwyd Amgueddfa Genedlaethol Mayakovsky yng nghanol Moscow yn yr adeilad be fu'n byw rhwng 1919 i 1930.[9]

Ysgrifennodd Frank O'Hara cerdd ar ei ôl, "Mayakovsky", ynddi mae'r siaradwr yn sefyll mewn bath, mwy na thebyg yn gyfeiriad at ei ddrama Baddondy.

Ym 1986 rhwyddhawyd y canwr Saesneg Billy Bragg y record hir Talking with the Taxman about Poetry, yr enw yn dod o gerdd Mayakovsky.

Ffotograff o Mayakovsky a'i gariad Lilya Brik, 1918 ac isod fersiwn gyda Brik wedi diflannu yn dilyn sensro gan y llywodraeth Sofietaidd

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Sensitive Skin, Mayakovsky - New Translations
  2. "Маяковский Владимир Владимирович. В. Маяковский в воспоминаниях современников" (SHTML) (yn Russian). Lib.ru. Cyrchwyd 7 Ebrill 2010. Unknown parameter |trans_title= ignored (help)CS1 maint: unrecognized language (link)
  3. "A Slap in the Face of Public Taste". Futurism. The Niuean Pop Cultural Archive. Cyrchwyd 7 April 2010.
  4. "A Cloud in Trousers (Part 1) by Vladimir Mayakovsky". vmlinux.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-03-22. Cyrchwyd 7 April 2010.
  5. Petrić, Vlada. Constructivism in Film: The Man With the Movie Camera:A Cinematic Analysis. Cambridge University Press. 1987. Page 32. ISBN 0-521-32174-3
  6. http://www.moma.org/interactives/exhibitions/1998/rodchenko/texts/graphic_design.html
  7. http://rbth.co.uk/arts/2013/07/09/mayakovskys_daughter_speaks_out_on_her_parents_love_story_and_her_own_le_27905.html[dolen farw]
  8. Katanyan, Vasily (1998) Memoirs. p. 112
  9. "Museum". mayakovsky.info. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-08-23. Cyrchwyd 2014-07-13.

Llyfrau

[golygu | golygu cod]
  • Aizlewood, Robin. Verse form and meaning in the poetry of Vladimir Maiakovsky: Tragediia, Oblako v shtanakh, Fleita-pozvonochnik, Chelovek, Liubliu, Pro eto (Modern Humanities Research Association, London, 1989).
  • Brown, E. J. Mayakovsky: a poet in the revolution (Princeton Univ. Press, 1973).
  • Charters, Ann & Samuel. I love : the story of Vladimir Mayakovsky and Lili Brik (Farrar Straus Giroux, NY, 1979).
  • Humesky, Assya. Majakovskiy and his neologisms (Rausen Publishers, NY, 1964).
  • Jangfeldt, Bengt. Majakovsky and futurism 1917-1921 (Almqvist & Wiksell International, Stockholm, 1976).
  • Lavrin, Janko. From Pushkin to Mayakovsky, a study in the evolution of a literature. (Sylvan Press, London, 1948).
  • Mayakovsky, Vladimir (Patricia Blake ed., trans. Max Hayward and George Reavey). The bedbug and selected poetry. (Meridian Books, Cleveland, 1960).
  • Mayakovsky, Vladimir. Mayakovsky: Plays. Trans. Guy Daniels. (Northwestern University Press, Evanston, Il, 1995). ISBN 0-8101-1339-2.
  • Mayakovsky, Vladimir. For the voice (The British Library, London, 2000).
  • Mayakovsky, Vladimir (ed. Bengt Jangfeldt, trans. Julian Graffy). Love is the heart of everything : correspondence between Vladimir Mayakovsky and Lili Brik 1915-1930 (Polygon Books, Edinburgh, 1986).
  • Mayakovsky, Vladimir (comp. and trans. Herbert Marshall). Mayakovsky and his poetry (Current Book House, Bombay, 1955).
  • Mayakovsky, Vladimir. Selected works in three volumes (Raduga, Moscow, 1985).
  • Mayakovsky, Vladimir. Selected poetry. (Foreign Languages, Moscow, 1975).
  • Mayakovsky, Vladimir (ed. Bengt Jangfeldt and Nils Ake Nilsson). Vladimir Majakovsky: Memoirs and essays (Almqvist & Wiksell Int., Stockholm 1975).
  • Mayakovsky, Vladimir. Satira ('Khudozh. lit.,' Moscow, 1969).
  • Mikhailov, Aleksandr Alekseevich. Maiakovskii (Mol. gvardiia, Moscow, 1988).
  • Novatorskoe iskusstvo Vladimira Maiakovskogo (trans. Alex Miller). Vladimir Mayakovsky: Innovator (Progress Publishers, Moscow, 1976).
  • Noyes, George R. Masterpieces of the Russian drama (Dover Pub., NY, 1960).
  • Nyka-Niliūnas, Alfonsas. Keturi vėjai ir keturvėjinikai (The Four Winds literary movement and its members), Aidai, 1949, No. 24. Nodyn:Lt icon
  • Rougle, Charles. Three Russians consider America : America in the works of Maksim Gorkij, Aleksandr Blok, and Vladimir Majakovsky (Almqvist & Wiksell International, Stockholm, 1976).
  • Shklovskii, Viktor Borisovich. (ed. and trans. Lily Feiler). Mayakovsky and his circle (Dodd, Mead, NY, 1972).
  • Stapanian, Juliette. Mayakovsky's cubo-futurist vision (Rice University Press, 1986).
  • Terras, Victor. Vladimir Mayakovsky (Twayne, Boston, 1983).
  • Vallejo, César (trans. Richard Schaaf) The Mayakovsky case (Curbstone Press, Willimantic, CT, 1982).
  • Volk, Craig, "Mayakovsky Takes The Stage" (full-length stage drama), 2006 and "At The Top Of My Voice" (feature-length screeplay), 2002.
  • Wachtel, Michael. The development of Russian verse : meter and its meanings (Cambridge University Press, 1998).

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Wikiquote
Wikiquote
Mae gan Wiciddyfynu gasgliad o ddyfyniadau sy'n berthnasol i:
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: