Tabled cyfrifiadurol
Dyfais symudol, electronig yw'r tabled cyfrifiadurol, neu'n syml: tabled neu llechen. Mae'n defnyddio system weithredu (OS) symudol (fel y ffôn llaw) a sgrin gyffwrdd LCD a batri gwefrol (ailwefradwy) mewn un pecyn tenau, fflat. Gall faint y tabled amrywio, ond ar gyfartaledd maent yn 18 cm (7 modfedd) yn groesgornel, gyda gallu wi-fi yn unig, ar wahân i'r tabledi drytaf sydd a chysylltiad cellog i'r we.[1][2][3]
Mae'r tabled yn fath o gyfrifiadur, ond gyda llai o fewnbwn / allbwn oherwydd ei faint (e.e. dim cysylltiad USB); defnyddir stylws, pensil neu fysedd i fforio o gwmpas y sgrin yn hytrach na'r llygoden arferol. Gellir hefyd ei reoli gydag ystumiau e.e. symudiadau'r dwylo neu'r llaw, neu gydag chyfarwyddiadau lleisiol. Mae rhan fwyaf o'r dyfeisiau yma yn defnyddio rhith-fysellfwrdd ar y sgrîn, ond gellir cysylltu un real drwy Bluetooth diwifr, os oes angen.
Lansiwyd un o'r tabledi cyntaf, sef yr iPad gan Apple Inc. yn 2010,[4] a daeth yn boblogaidd iawn dros nos. Cyrhaeddwyd anterth y gwerthiant yng nghanol y ddegawd honno, gyda'r prisiau rhwng chwarter a hanner y gliniadur.[5][6][7][8]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Editors Dictionary.com, "tablet computer – 1 dictionary result", Dictionary.com, archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Tachwedd 2011, http://dictionary.reference.com/browse/tablet+computer, adalwyd 17 Ebrill 2010
- ↑ What makes a tablet a tablet? (FAQ) Archifwyd 2013-10-14 yn y Peiriant Wayback CNET.com Mai 28, 2010
- ↑ Ulefone U7 review[dolen farw] Every device with diagonal equal 7" or longer is practically tablet PC. Adalwyd 28 Mehefin 2014.
- ↑ "iPad Available in US on April 3" (Press release). Apple. Mawrth 5, 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Gorffennaf 2011. https://www.apple.com/pr/library/2010/03/05iPad-Available-in-US-on-April-3.html. Adalwyd 5 Mawrth 2010.
- ↑ The Dell Venue 8 7000 Series Review Archifwyd 24 Mawrth 2015 yn y Peiriant Wayback. Anandtech. 23 Mawrth 2015. Adalwyd 23 Mawrth 2015.
- ↑ "Tablets Are Dying. Do You Still Need One?".
- ↑ "The tablet is dead, says analyst". 4 Awst 2017.
- ↑ "Where have all the tablets gone?". 10 Ebrill 2016.