Spirited Away
Spirited Away | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Hayao Miyazaki |
Cynhyrchydd | Toshio Suzuki |
Ysgrifennwr | Hayao Miyazaki |
Serennu | * Rumi Hiiragi * Miyu Irino * Mari Natsuki * Takeshi Naito * Yasuko Sawaguchi * Tsunehiko Kamijō * Takehiko Ono * Bunta Sugawara |
Cyfansoddwr y thema | Joe Hisaishi |
Sinematograffeg | Atsushi Okui |
Golygydd | Takeshi Seyama |
Dylunio | |
Dosbarthydd | Toho (Japan) |
Amser rhedeg | 125 munud |
Gwlad | Japan |
Iaith | Japaneaidd |
Cyllideb | * ¥1.9 billion * ($15–19 miliwn) |
Mae Spirited Away (neu 'Hed Fy Ysbryd'; Siapaneg: 千と千尋の神隠し) yn ffilm anime Japaneaidd ffantasïol o 2001 sydd wedi'i hysgrifennu a'i chyfarwyddo gan Hayao Miyazaki a'i chynhyrchu gan Studio Ghibli.[1] Mae'n adrodd stori Chihiro Ogino (Hiiragi), merch weddol sarrug, sy'n treiddio i fyd ysbrydol wrth symyd tŷ. Ar ôl i'w rhieni cael eu trawsffurfio i mewn i foch gan y wrach Yubaba (Natsuki), mae Chihiro yn dechrau gweithio ym maddondy Yubaba, gan geisio dargonfod dull i ryddhau ei hun a'i rhieni a dychwelyd i'r byd dynol.
Ysgrifennodd Miyazaki y script ar ôl iddo benderfynu y byddai'r ffilm yn seiliedig ar ferch 10 mlwydd oed ei ffrind, y cynhyrchydd Seiji Okuda, oedd yn ymweld â'i gartref bob haf. Ar y pryd, roedd Miyazaki yn datblygu dau brosiect personol, ond ni dderbyniwyd arian ar eu cyfer. Gyda chyllideb o $19 miliwn, dechrewyd cynhyrchu Spirited Away yn 2000. Yn ystod y cynhyrchiad, sylweddolodd Miyazaki y byddai'r ffilm dros dair awr o hyd a phenderfynodd dorri nifer o ddarnau o'r stori.
Rhyddhawyd y ffilm yn Japan ar 20 Gorffennaf 2001 gan y dosbarthydd Toho. Daeth i fod y ffilm fwyaf lwyddiannus yn hanes ffilm Japan, gan ddod â refeniw gros o dros $289 miliwn ledled y byd, a derbyn llawer o glod gan feirniaid. Mae Spirited Away yn cael ei gosod yn aml ymhlith rhestrau o'r ffilmiau gorau sydd wedi'u hanimeiddio.[2][3][4] Enillodd wobr Oscar ar gyfer y ffilm orau wedi'i hanimeiddio, yr unig ffilm wedi'i ddylunio â llaw i ennill ffilm orau wedi'i hanimeiddio yn y gwobrau.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Sen To Chihiro No Kamikakushi". http://www.bcdb.com Archifwyd 2012-12-04 yn archive.today, 13 Mai 2012
- ↑ "The 50 Best Movies of the Decade (2000–2009)". Paste Magazine. 3 Tachwedd 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-12-12. Cyrchwyd 14 December 2011.
- ↑ "Film Critics Pick the Best Movies of the Decade". Metacritic. 3 Ionawr 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-08-16. Cyrchwyd 4 Medi 2012.
- ↑ "Top 100 Animation Movies". Rotten Tomatoes. Cyrchwyd 6 Mai 2013.