Scafell Pike
Math | mynydd |
---|---|
Ardal weinyddol | Cumbria |
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Ardal y Llynnoedd |
Rhan o'r canlynol | Southern Fells |
Sir | Cumbria (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Uwch y môr | 978 metr |
Cyfesurynnau | 54.45417°N 3.21153°W |
Cod OS | NY2154107216 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 912 metr |
Cyfnod daearegol | Ordofigaidd |
Rhiant gopa | Yr Wyddfa |
Cadwyn fynydd | Ardal y Llynnoedd, Lloegr |
Deunydd | craig igneaidd |
Mynydd uchaf Lloegr yw Scafell Pike, ac mae'n cyrraedd 978m. Fe'i lleolir yn Ardal y Llynnoedd, Cumbria, Gogledd-orllewin Lloegr. Mae'n un o gadwyn hir o fynyddoedd yng nghanol Ardal y Llynnoedd, wedi'i amgylchynu gyda mynyddoedd fel Great Gable, Kirk Fell, Sca Fell a Broad Crag.
Twristiaeth
[golygu | golygu cod]Mae llawer iawn o dwristiaid yn ogystal â cherddwyr a dringwyr lleol yn cerdded Scafell Pike bob blwyddyn. Yn wir, mae'r mynydd yn cael ei adnabod fel un o ddringfeydd gorau Ardal y Llynnoedd yn un faint ag yw yn daith gerdded. Er ei safle weddol unig, mae pentref cyfagos o'r enw Nether Wasdale ac mae pentrefi eraill yn bellach. Yn Nether Wasdale mae yna hostel ieuenctid, ac mae safleoedd gwersylla yn frith o gwmpas y lle.
Cerdded
[golygu | golygu cod]Mae modd cyrraedd y mynydd o nifer o ddyffrynnoedd gwahanol -
- Eskdale
- Borrowdale
- Great Langdale
- Wasdale Head
Mae ffyrdd Borrowdale ac Eskdale yn hir iawn, ac nid oes golwg o'r mynydd am yn hir. Mae Wasdale Head yn ffordd haws a chyflymach o gyrraedd y mynydd.
Disgrifiodd A. Wainwright Scafell Pike fel mynydd, bob modfedd ohono.
Rhinweddau
[golygu | golygu cod]Mae Scafell Pike cyfan a'i gadwyn yn ardal greigiog iawn ac mae copa Scafell Pike yn wyneb o gerrig sydd yn rhaid dringo drostynt i gyrraedd y gorlan ar y brig.