Sbiral
Mewn mathemateg, mae'r sbiral neu'r sbeiral yn gromlin sy'n tarddu o un pwynt ac yn cynyddu'n anfeidraidd wrth iddi droelli o amgylch y pwynt hwnnw. Caiff ei defnyddio ers cyn cof mewn celfyddyd gweledol, gan gynnwys cerfiadau gan y Celtiaid e.e. ceir carreg sy'n cynnwys y sbiral o flaen y fynediad i'r domen gladdu ym Mryn Celli Ddu. Gall droi'n glocwedd neu'n wrthglocwedd.
Gellir diffinio'r sbiral mewn sawl ffordd, gan gynnwys:
- cromlin ar blân Ewclidaidd (2-ddimensiwn), sy'n cordeddu o amgylch canol llonydd, wrth i'r pellter rhwng y gromlin a'r canol gynyddu. Mae'r rhigolau ar record ffonograff yn enghraifft; sylwer: un rhigol sydd mewn gwirionedd ar un ochr! Ceir hefyd galaethau cyfan gyda'u sbiralau logarithmig.
- cromlin 3-dimensiwn sy'n cordeddu o amgylch echelin gyda phellter cynyddol a chyson, gan symud yn paralel i'r echelin. Enw'r math hwn o sbiral yw'r helics; ceir hefyd helics dwbwl e.e. edefyn o DNA neu ddŵr yn cordeddu i lawr y sinc.
Sbiralau 2-ddimensiwn
[golygu | golygu cod]Gellir defnyddio cyfesurynnau polar i ddisgrifio'r math hwn, ble mae'r radiws r yn ffwythiant parhaus, monotonico'r ongl θ. gellir ystyried y cylch fel achos dirywiedig, ac yn gyson. Gellir cynnwys y canlynol:
- sbiral Archimedes:
- sbiral Euler
- sbiral Fermat:
- y sbiral hyperbolig:
- y lituus:
- y sbiral logarithmig:
- sbiral Fibonacci a'r sbiral aur:
-
sbiral Archimedes
-
sbiral Cornu
-
sbiral Fermat
-
y sbiral hyperbolig
-
y lituus
-
y sbiral logarithmig
-
sbiral Theodorus
-
sbiral Fibonacci (a'r sbiral aur)
-
infolwt y cylch (du) a sbiral Archimedes (coch).
Sbiralau 3-dimensiwn
[golygu | golygu cod]Ar gyfer sbiralau syml 3-d, ceir hefyd uchter h, sydd hefyd yn barhaus, gyda ffwythiant monotonig o θ. Er enghraifft, yr helics conig, a ellir ei ddisgrifio fel sbiral ar arwyneb conig, gyda'r pellter i'r apig yn ffwythiant esbonyddol o θ.
gellir ystyried yr helics a'r fortecs fel amrywiadau ar y sbiral. enghraifft o'r helics yw'r grisiau tro sy'n codi y tu fewn i gastell.