Rygbi Ulster
Llysenw/au | The Ulstermen | ||
---|---|---|---|
Sefydlwyd | 1879 | ||
Lleoliad | Belffast, Gogledd Iwerddon | ||
Maes/ydd | Kingspan Stadium (Nifer fwyaf: 18,196) | ||
Cadeirydd | Shane Logan | ||
Cyfarwyddwr Rygbi | Les Kiss | ||
Capten | Rob Herring Andrew Trimble | ||
Mwyaf o gapiau | Roger Wilson (221) | ||
Sgôr mwyaf | David Humphreys (1,585) | ||
Mwyaf o geisiadau | Andrew Trimble (71) | ||
Cynghrair/au | Pro14 | ||
| |||
Gwefan swyddogol | |||
www.ulsterrugby.com |
Un o bedwar timau Rygbi'r Undeb proffesiynnol ynys Iwerddon yw Rygbi Ulster (Gwyddeleg: Rugbaí Uladh). Maent yn cystadlu yn y Pro14 ac yn cynrychioli cangen Ulster, sef un o bedwar rhanbarth hanesyddol Iwerddon. Yn wahanol i'r tair rhanbarth arall, sydd yn gyfan gwbl o fewn Gweriniaeth Iwerddon, mae Ulster wedi'i rhannu rhwng y Gweriniaeth a Gogledd Iwerddon, er bod y mwyafrif helaeth - gan gynnwys Belffast, lle mae'r tîm yn chwarae yn Stadiwm Kingspan sydd â lle i 18,196 o wylwyr - yn y Gogledd.
Ffurfiwyd tîm i gynrychioli Ulster mor bell yn ôl a 1879, fodd bynnag dim ond ers 1995 bu'r tîm yn broffesiynol. Ymunodd y tîm â'r Gynghrair Geltaidd (bellach y Pro14) pan ffurfiwyd y gystadleuaeth yn 2001. Enillodd Ulster y Gynghrair Geltaidd yn 2006, a Chwpan Heineken (Cwpan Pencampwyr Ewrop bellach) yn 1999.