Rheilffordd Canol Hampshire
Enghraifft o'r canlynol | rheilffordd dreftadaeth, ELR railway line section |
---|---|
Gweithredwr | London and South Western Railway, Southern Railway |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Rhanbarth | Hampshire |
Hyd | 16.575 milltir |
Gwefan | http://www.watercressline.co.uk/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Rheilffordd Canol Hampshire | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
Rheilffordd dreftadaeth yw Rheilffordd Canol Hampshire. Adwaenir y rheilffordd yn well fel y 'Lein Watercress'. Mae'r lein yn un serth, felly defnyddir dim ond locomotifau pŵerus.[1]
Hanes
[golygu | golygu cod]Crëwyd cwmni Rheilffordd Alton, Alresford a Winchester ym Mehefin 1861 er mwyn adeiladu rheilffordd yn cysylltu'r 3 lle ac i gludo berwr y dŵr o Alresford i Lundain. Daeth y cwmni'n Rheilffordd Canol Hampshire (Alton) ym 1865 ac agorodd y lein ym mis Hydref. Prynwyd y lein gan gwmni Rheilffordd Llundain a'r De Orllewin ym 1884. Daeth y rheilffordd yn rhan o'r Rheilffordd Deheuol ym 1923. Trydanwyd y lein o Lundain i Alton ym 1937.[1]
Atgyfodi
[golygu | golygu cod]Ym 1972, cyhoeddwyd y buasai'r lein rhwng Alton a Chaerwynt yn cau ar 4 Chwefror 1973. Felly ffurfiwyd 2 gwmni, Cwmni Rheilffordd Caerwynt ac Alton, a Chymdeithas Gwarchodaeth Rheilffordd Canol Hampshire. Bwriadwyd bod yr un cyntaf yn rhedeg trenau diesel rhwng Caerwynt ac Alton yn ystod yr wythnos, ac yr ail yn defnyddio trenau stêm dros y penwythnos. Ni chodwyd digon o arian, felly penderfynwyd i brynu'r lein rhwng Alresford ac Alton.
Daeth y locomotif stêm cyntaf, o ddosbarth N, ym Mawrth 1974 o Iard Sgrap Dai Woodham, Ynys y Barri, ac atgyweiriwyd y locomotif ym 1975. Aeth y trên gyntaf rhwng Alresford i Ropley ar 30 Ebrill 1977.
Adeiladwyd gweithdy a sied yn Ropley ar gyfer locomotifau ym 1980. Newidiwyd Gorsaf reilffordd Alton i wahanu trenau'r rheilffordd stêm a threnau Rheilffyrdd Prydeinig. Estynnwyd y lein at orsaf reilffordd Medstead a Four Marks erbyn 28 Mai 1983. Estynnwyd y lein i Alton a chyraeddodd y trên gyntaf Alton ar 12 Ebrill 1985.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 Gwefan h2g2
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]-
Gorsaf reilffordd Alresford
-
Gorsaf reilffordd Alton