Queer Palm
Gwedd
Gwobr a noddir yn annibynnol ar gyfer ffilmiau LHDT a gyflwynir yng Ngŵyl Ffilmiau Cannes ydy'r Queer Palm. Sefydlwyd y wobr yn 2010 gan y newyddiadurwr Franck Finance-Madureira sy'n trefnu'r digwyddiad yn flynyddol. Noddir y wobr gan Olivier Ducastel a Jacques Martineau, gwneuthurwyr y ffilmiau Jeanne and the Perfect Guy, The Adventures of Felix, Crustacés et Coquillages, a L'Arbre et la forêt.
Gwobrwyir ffilmiau am eu hymdriniaeth o themâu LHDT ac fe'u dewisir o'r ffilmiau a enwebir neu a gyflwynir yn y Detholiad Swyddogol, Un Certain Regard, Wythnos y Beirniaid Rhyngwladol a Phythefnos y Cyfarwyddwyr.
Enillwyr
[golygu | golygu cod]Blwyddyn | Ffilm fuddugol | Ffilm fer fuddugol | |
---|---|---|---|
2010 | Kaboom by Gregg Araki |
Heb ei gydnabod | |
2011 | Beauty gan Oliver Hermanus |
Heb ei gydnabod | |
2012 | Laurence Anyways gan Xavier Dolan |
It's Not a Cowboy Movie gan Benjamin Parent |
|
2013 | Stranger by the Lake[1] gan Alain Guiraudie |
Heb ei gydnabod | |
2014 | Pride[1] by Matthew Warchus |
Heb ei gydnabod |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 'Hardcore' gay film wins at Cannes. Bangkok Post (26 Mai 2013). Gwall cyfeirio: Tag
<ref>
annilys; mae'r enw "bangkokpost" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol