Plaid Lafur Iwerddon
Labour Party Páirtí an Lucht Oibre | |
---|---|
Arweinydd | Brendan Howlin TD |
Sefydlydd | James Connolly James Larkin William X. O'Brien |
Seanad Leader | Senator Ivana Bacik |
Cadeirydd y blaid seneddol | Willie Penrose TD |
Cadeirydd | Jack O'Connor |
Ysgrifennydd Cyffredinol | Brian McDowell |
Sefydlwyd | 1912 |
Pencadlys | 11 Hume Street, Dulyn 2, D02 T889, Ireland |
Asgell yr ifanc | Labour Youth |
Women's wing | Labour Women |
Rhestr o idiolegau | Social democracy[1][2][3][4] Pro-Europeanism |
Sbectrwm gwleidyddol | chwith i'r canol |
Partner rhyngwladol | Progressive Alliance, Socialist International |
Cysylltiadau Ewropeaidd | Party of European Socialists |
Grŵp yn Senedd Ewrop | Progressive Alliance of Socialists and Democrats |
Lliw | Coch |
Dáil Éireann | 7 / 158
|
Seanad Éireann | 4 / 60
|
European Parliament | 0 / 11
|
Local government | 50 / 949
|
Gwefan | |
labour.ie |
Mae Plaid Lafur Iwerddon (Gwyddeleg: Páirtí an Lucht Oibre; Saesneg: Labour Party) yn blaid sosialaidd-ddemocrataidd yn Ngweriniaeth Iwerddon. Sefydlwyd hi ym 1912 yn nhref Clonmel, Sir Tipperary, gan James Larkin, James Connolly a William X. O'Brien fel adain wleidyddol Cyngres Undebau Llafur Iwerddon.[5]
Yn wahanol i bob un o brif bleidiau eraill y Weriniaeth, ni dyfodd y Blaid Lafur allan o rwyg ymysg rhengoedd plaid Sinn Féin, er i’r blaid lyncu plaid y Chwith Democrataidd Iwerddon yn 1999, oedd â’i gwreiddiau yn Sinn Féin.
Mae’r blaid wedi rheoli fel partneriaid iau mewn clymbleidiau yn llywodraeth Dáil Éireann saith gwaith ers ei sefydlu: chwech gwaith mewn clymblaid gyda Fine Gael ar ben ei hun neu gyda Fine Gael a phleidiau llai eraill, ac unwaith gyda phlaid Fianna Fáil. Mae wedi rheoli felly 19 mlynedd fel rhan o llywodraeth, yr ail hiraf o blith pleidiau’r Weriniaeth ar ôl Fianna Fail. Llafur, yn draddodiadol yw trydydd plaid fwyaf y wladwriaeth. Mae’r Blaid Lafur yn aelod o’r Progressive Alliance, Socialist International, a Phlaid Sosialwyr Ewrop (PES).
Sefydlu
[golygu | golygu cod]Sefydlodd James Connolly, James Larkin and William X. O'Brien Blaid Lafur Iwerddon yn 1912 fel adain wleidyddol Cyngres Undebau Llafur Iwerddon er mwyn cynrychioli eu buddiannau yn Senedd Iwerddon a ddisgwylid ei sefydlu yn dilyn Trydydd Deddf Hunan-lywodraeth Iwerddon 1914. Ond, yn dilyn curo’r undebau llafur yn ‘lock out’ enwog Dulyn yn 1913 gwanhawyd y mudiad ac yn 1914 ymfudodd James Larkin a dienyddiwyd James Connolly wedi Gwrthryfel y Pasg 1916.
Sefydlwyd Byddin Dinasyddion Iwerddon, yr Irish Citizen Army (ICA) yn ystod y lockout,[6] a dyma oedd cangen filwrol anffurfiol y mudiad llafur. Cymerodd yr ICA ran yng Ngwrthryfel 1916[7] a chymrodd y Cynghorydd Richard O'Carroll, aelod Llafur o Gorfforaeth Dulyn (cyngor y ddinas). Saethwyd O'Carroll a bu farw ar 5 Mai 1916.[8] Atgyfodwyd yr ICA yn ystod cyfnod Peadar O'Donnell's a phlaid lled-gomiwnyddol weriniaethol, Republican Congress ond wedi rhwyg yn 1935 ymunodd y rhan fwyaf o’r ICA gyda’r Blaid Lafur. Bu Plaid Lafur Prydain yn weithredol yn yr Iwerddon, ond wedi 1913 penderfynodd Pwyllgor Ganolog y Blaid i gytuno mai Plaid Lafur Iwerddon fyddai â’r hawl i weithredu a threfnu ar draws Iwerddon. Gwrthwynebodd grŵp o undebwyr llafur Belffast i hyn a sefydlwyd y Belfast Labour Party a ddaeth yn gnewyllyn i sefydlu Plaid Lafur Gogledd Iwerddon, a oedd ar wahân i Blaid Lafur Iwerddon.
Annibyniaeth Iwerddon
[golygu | golygu cod]Safodd y Blaid Lafur ddim yn etholiad bwysig 1918 i’r Dáil Éireann gyntaf. Gwnaethpwyd hyn er mwyn i’r etholiad ganolbwyntio ar gwestiwn annibyniaeth Iwerddon ac i Sinn Féin (y blaid weriniaethol dros annibyniaeth) i ennill yr etholiad.[9] Safodd y blaid ddim yn etholiad 1921 i’r Dail chwaith. O ganlyniad, doedd y Blaid Lafur a’i daliadau ddim yn rhan ganolog o sefydlu’r wladwriaeth newydd.
Gwladwriaeth Rydd Iwerddon
[golygu | golygu cod]Fel pob rhan o gymdeithas Iwerddon rhannodd Cytundeb Eingl-Wyddelig Rhagfyr 1921 Blaid Lafur Iwerddon. Ochrodd rhai gyda’r Cytundeb a rhai yn erbyn. Hybodd O’Brien a Johnson i’w haelodau gefnogi’r Cytundeb. Yn Etholiad Gyffredinol gyntaf Gwladwriaeth Rydd Iwerddon yn 1922 fe enillodd y Blaid 17 sedd. Bu sawl streic yn ystod y flwyddyn honno gan arwain I’r Blaid yn colli seddi yn etholiad gyffredinol 1923 gan gwympo i 14 sedd. Bu’r Blaid yn brif wrthwynebwyr plaid asgell dde y llywodraeth, Cumann na nGaedhael nes blaid newydd Eamon de Valera, Fianna Fáil gymryd eu seddi yn 1927. Yn 1932 aeth Llafur i lywodraeth am y tro cyntaf fel y blaid leiaf mewn clymblaid gyda Fianna Fáil.
Roedd y blaid yn llawer mwy gymdeithasol geidwadol na phleidiau sosialaidd eraill Ewrop, a rhwng 1932 ac 1977 roedd ei harweinwyr, (William Norton a’i olynydd, Brendan Corish) yn aelodau o urdd Marchogion Sant Columbanus, urdd Gatholig geidwadol.
Uchafbwyntiau Nodweddiadol
[golygu | golygu cod]Bu i’r Blaid rhai arweinwyr neu aelodau nodweddiadol a bu’n adlewyrchiad ac yn rhan o newid agweddau pobl Gweriniaeth Iwerddon at faterion cymdeithasol a chyfansoddiadol.
Arlywydd Benywaidd Gyntaf Iwerddon
[golygu | golygu cod]Yn 1990 etholwyd Mary Robinson yn Uachtarán na hÉireann, Arlywydd Iwerddon benywaidd cyntaf Iwerddon a’r un cyntaf ers yr Arlywydd gyntaf, Douglas Hyde nad oedd yn aelod o Fianna Fail.
Er i Robinson fod yn aelod o’r Blaid Lafur fe ymddiswyddodd o’r blaid oherwydd ei gwrthwynebiad i safbwynt Llafur ar Gytundeb Eingl-Wyddelig 1985 oherwydd iddi gredu y dylasai Unoliaethwyr Ulster fod wedi cael rhan ar y Cytundeb. Safodd etholiad yr Arlywyddiaeth fel annibynwraig, ond cafodd gefnogaeth y Blaid Lafur. Yn ystod ei chyfnod hyrwyddwyd daliadau cymdeithasol oedd yn fwy rhyddfrydig i’r norm Wyddelig, Gatholig ac yn agosach at ddaliadau’r Blaid Lafur.
Dick Spring
[golygu | golygu cod]Bu’n Tánaiste, Dirprwy Brif Weindiog, mewn dau lywodraeth. Y gyntaf oedd y 23ain Dáil, gyda Fianna Fáil yn 1993 – 1994 ac Albert Reynolds yn Taoiseach (Prif Weindog). Yr ail wedyn oedd, 24ain Dail, gyda Fine Gael a’r Chwith Democrataidd yn 1994-1997. Chwaraeodd rhan yn hyrwyddo cymod a phroses heddwch gyda llywodraeth Prydain ar ddyfodol Gogledd Iwerddon.
Arlywyddiaeth Michael D. Higgins
[golygu | golygu cod]Etholwyd Michael D. Higgins yn 9fed Arlywydd Iwerddon yn 2011. Cyn hynny bu’n Teachta Dála i’r Blaid Lafur ac yn Weinidog Celfyddydau, Diwylliant a’r Gaeltacht 1993-1997. Yn ystod ei gyfnod cafodd wared ar Section 31 o’r Ddeddf Ddarlledu, ail-sefydlodd Bwrdd Ffilm Iwerddon a sefydlodd Teilifís na Gaeilge (a adnebir bellach fel TG4) [10] sef, y sianel deledu Wyddeleg ei hiaith a ysbrydolwyd gan lwyddiant S4C.
Arweinwyr y Blaid
[golygu | golygu cod]- Thomas Johnson (1922–1927)
- Thomas J. O'Connell (1927–1932)
- William Norton (1932–1960)
- Brendan Corish (1960–1977)
- Frank Cluskey (1977–1981)
- Michael O'Leary (1981–1982)
- Dick Spring (1982–1997)
- Ruairi Quinn (1997–2002)
- Pat Rabbitte (2002–2007)
- Eamon Gilmore (2007–)
Dolenni
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Nordsieck, Wolfram (2016). "Ireland". Parties and Elections in Europe.
- ↑ Richard Dunphy (2015). "Ireland". In Donatella M. Viola (gol.). Routledge Handbook of European Elections. Routledge. t. 247. ISBN 978-1-317-50363-7.
- ↑ Dimitri Almeida (2012). The Impact of European Integration on Political Parties: Beyond the Permissive Consensus. CRC Press. t. 61. ISBN 978-1-136-34039-0.
- ↑ Richard Collin; Pamela L. Martin (2012). An Introduction to World Politics: Conflict and Consensus on a Small Planet. Rowman & Littlefield. t. 218. ISBN 978-1-4422-1803-1.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-09-13. Cyrchwyd 2018-09-26.
- ↑ https://web.archive.org/web/20150202164329/http://flag.blackened.net/revolt/cc1913/ica.html
- ↑ http://www.bbc.co.uk/history/british/easterrising/profiles/po14.shtml
- ↑ https://web.archive.org/web/20150518231102/https://richardocarroll1916.wordpress.com/about/
- ↑ https://www.electionsireland.org/results/general/01dail.cfm
- ↑ https://www.bbc.co.uk/news/uk-northern-ireland-15500225