Pietermaritzburg
Gwedd
Math | tref |
---|---|
Enwyd ar ôl | Piet Retief, Gerrit Maritz |
Sefydlwyd | |
Gefeilldref/i | Zhuzhou, Hampton |
Daearyddiaeth | |
Sir | Bwrdeistref Lleol Msunduzi |
Gwlad | De Affrica |
Arwynebedd | 126 km² |
Uwch y môr | 596 ±1 metr |
Cyfesurynnau | 29.6009°S 30.3796°E |
Cod post | 3201, 3200 |
Pietermaritzburg yw prifddinas talaith KwaZulu-Natal yn Ne Affrica, a'r ail ddinas yn y dalaith o ran poblogaeth, ar ôl Durban. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 521,805.
Hanes
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd y ddinas yn 1838 gan y Voortrekkers, wedi iddynt orchfygu Dingane, brenin y Zulu ym Mrwydr Blood River. Daeth yn brifddinas Gweriniaeth Natalia a sefydlwyd gan y Boeriaid. Wedi i'r ddinas ddod yn eiddo Prydain yn 1843, daeth yn ganolfan weinyddol talaith Natal.
Dywedir i'r ddinas gael ei henw o enwau dau o arweinwyr y Voortrekkers, Piet Retief a Gert (Gerrit) Maritz.
Fe wnaeth y hanesydd John David Jenkins (1828-1876) trigo yn Pietermaritzburg rhwng 1852 a 1858.
Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]- Cerflun Mahatma Gandhi
- Neuadd y Ddinas
- Prifysgol Natal
- Stadiwm Harry Gwala
- Tŷ Shuter
- Ysbyty Edendale
- Ysgol Voortrekker
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Alan Paton (1903-1988), nofelydd
- Kevin Pietersen (g. 1980), cricedwr