Peiriant torri gwair
Peiriant sy'n defnyddio un neu ragor o lafnau sy'n troi i dorri arwyneb glaswelltog yw peiriant torri gwair. Gall uchder y glaswellt sy'n cael ei dorri gael ei osod gan ddyluniad y peiriant torri gwair, ond fel arfer gellir ei addasu gan y person sy'n ei ddefnyddio, fel arfer gan ddefnyddio un prif lifer, neu gyda lifer neu nyten a bollt ar bob un o olwynion y peiriant. Gall y llafnau yn gael ei pweru gan rym llaw, gydag olwynion sydd wedi'u cysylltu'n fecanyddol i'r llafnau torri; pan fydd y peiriant yn cael ei wthio ymlaen a bydd y llafnau'n troelli. Gall peiriant hefyd gael ei bweru gan fatri neu fodur trydan. Y ffynhonnell bŵer hunangynhwysol fwyaf cyffredin ar gyfer peiriannau torri gwair yw peiriant tanio mewnol bach (un silindr fel arfer). Yn aml, nid oes gan beiriannau torri gwair llai unrhyw fath o wthiad, sy'n golygu bod angen bŵer dynol er mwyn ei symud dros wyneb; mae peiriannau torri gwair “cerdded y tu ôl” yn hunan-yrru, ac angen person i gerdded y tu ôl iddo a'i arwain. Mae peiriannau torri gwair mwy o faint fel arfer naill ai'n fathau hunan-yrru “cerdded y tu ôl” , neu'n amlach na pheidio, yn beiriannau y gall defnyddiwr reidio arno a'i reoli. Mae peiriant torri gwair robotig ("bot torri gwair", "mowbot", ac ati) wedi'i gynllunio i weithredu naill ai'n gyfan gwbl ar ei ben ei hun, neu'n llai cyffredin gan ddefnyddiwr sy'n ei reoli o bell .
Dyfeisiwyd y peiriant torri gwair cyntaf gan Edwin Budding yn 1830[1] yn Thrupp, ychydig y tu allan i Stroud, yn Swydd Gaerloyw, Lloegr. Roedd peiriant torri gwair Budding wedi ei gynllunio yn bennaf i dorri gwair meysydd chwaraeon a gerddi mawr, fel dewis a fyddai'n rhagori ar y pladur, a rhoddwyd patent Prydeinig iddo ar 31 Awst 1830.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Mower History". oldlawnmowerclub.co.uk.
- ↑ US RE 8560, Nodyn:Citation/authors, "Improvement in Lawn-Mowers", published 23 Chwefror 1869, issued 28 Ionawr 1879; see pg 1, col 2.