Nodiant algebraidd (gwyddbwyll)
Dull o gofnodi a disgrifio'r symudiadau mewn gêmau gwyddbwyll yw nodiant algebraidd. Mae'n cael ei ddefnyddio erbyn hyn gan sefydliadau a chyrff gwyddbwyll ar draws y byd, ac mewn papurau newydd, cylchgronau a llyfrau. Mae nodiant algebraidd Cymraeg yn cael ei gydnabod yn swyddogol gan FIDE, Ffederasiwn Gwyddbwyll y Byd.
Enwi'r sgwariau
[golygu | golygu cod]Mae cyfesuryn unigryw gan bob sgwâr sy'n cynnwys llythyren a rhif.
Rhoddir label llythyren sy'n rhedeg o a i h i bob colofn fertigol (sy'n cael eu galw'n ffeil mewn gwyddbwyll) yn cychwyn gydag a ar ochr chwith Gwyn (ochr y Frenhines), ac yn gorffen gydag h ar ochr dde Gwyn (ochr y Brenin). Nid yw'r wyddor Gymraeg yn cael ei defnyddio mewn nodiant algebraidd hyd yn oed pan yn cofnodi gêm yn y Gymraeg, a defnyddir yr wyddor Saesneg gan chwaraewyr gwyddbwyll ar draws y byd.
Rhoddir label rhif o 1 i 8 i bob rhes lorweddol (sy'n cael eu galw'n rheng mewn gwyddbwyll) yn cychwyn gydag 1 ar ochr Gwyn a gorffen gydag 8 ar ochr Du.
Mae modd adnabod pob sgwâr unigol felly o ddefnyddio cyfesuryn sy'n cynnwys llythyren a rhif. Mae'r Brenin du, er enghraifft, yn dechrau'r gêm ar y sgwâr golau e8.
Enwi'r darnau
[golygu | golygu cod]Gellir adnabod pob math o ddarn heblaw am y Gwerinwr drwy ddefnyddio priflythyren. Defnyddir llythyren gyntaf enw'r darn ble mae hynny'n bosibl. Mewn nodiant algebraidd Cymraeg defnyddir T am y Brenin, B am y Frenhines, C am y Castell, E am yr Esgob, ac M am y Marchog. Defnyddir T o'r gair teyrn am y Brenin gan fod B yn cael ei ddefnyddio ar gyfer Brenhines.
Mae ieithoedd eraill yn defnyddio llythrennau gwahanol, er enghraifft mae chwaraewyr sy'n siarad Ffrangeg yn defnyddio F am Esgob (o'r gair fou), chwaraewyr sy'n siarad Catalaneg yn defnyddio A am Esgob (o'r gair alfil), a chwaraewyr sy'n siarad Saesneg yn defnyddio B am Esgob (o'r gair bishop). Os yw llyfr neu erthygl papur newydd wedi'i anelu at gynulleidfa ryngwladol defnyddir symbolau, ee ♞ am y Marchog.
Does dim priflythyren yn cael ei defnyddio ar gyfer y Gwerinwr, dim ond cyfesurun y sgwâr. Does dim angen gwahaniaethu rhwng Gwerinwyr gan mai dim ond un Gwerinwr all symud i sgwâr penodol.
Nodiant symud darnau
[golygu | golygu cod]I gofnodi symud darn defnyddir priflythyren y darn a chyfesurun y sgwâr ble mae'n glanio. Er enghraifft, Ee5 i gofnodi symud yr Esgob i sgwâr e5, Mf3 i gofnodi symud y Marchog i sgwâr f3, c5 i gofnodi symud Gwerinwr i sgwâr c5. Os yn defnyddio symbolau mae symud y Marchog i f3 yn cael ei gofnodi fel ♞f3.
Nodiant cipio
[golygu | golygu cod]Pan fod darn yn cael ei gipio rhoddir 'x' o flaen y sgwâr ble mae'r darn sy'n cipio'n glanio. Er enghraifft, os yw Esgob yn cipio'r darn ar e5 cofnodir hyn fel Exe5. Os yw Gwerinwr yn cipio defnyddir y ffeil mae'r Gwerinwr yn gadael, er enghraifft, i gofnodi Gwerinwr ar ffeil e yn cipio'r darn ar sgwâr d5 defnyddir exd5.
Gwahaniaethu rhwng darnau
[golygu | golygu cod]Pan fod mwy nag un darn tebyg yn medru symud i'r un sgwâr mae modd dangos pa ddarn sy'n symud drwy gofnodi un o'r canlynol, yn nhrefn blaenoriaeth:
- Y ffeil mae'r darn yn gadael: er enghraifft, os oes Marchogion ar sgwariau g1 a d2 gall y naill neu'r llall symud i sgwâr f3. Os yw'r Marchog ar g1 yn symud i f3 defnyddir Mgf3 i gofnodi hyn, ac os yw'r Marchog ar d2 yn symud i f3 defnyddir Mdf3 i gofnodi hyn.
- Y rheng mae'r darn yn gadael os yw'r ffeiliau yr un peth: er enghraifft, os oes Cestyll ar yr un ffeil ar sgwariau e1 ac e7 gall y naill neu'r llall symud i sgwâr e3. Os yw'r Castell ar e1 yn symud i e3 defnyddir C1e3 i gofnodi hyn, ac os yw'r Castell ar e7 yn symud i e3 defnyddir C7e3 i gofnodi hyn.
Dyrchafu Gwerinwr
[golygu | golygu cod]Pan fod Gwerinwr yn cyrraedd y rheng olaf mae'n cael ei ddyrchafu'n ddarn, a rhoddir llythyren i gynrychioli'r darn ar ôl cyfesuryn y sgwâr. Er enghraifft pan fod Gwerinwr yn symud i sgwâr e8 ac yn cael ei ddyrchafu'n Frenhines defnyddir e8B i gofnodi hyn. Gellir hefyd rhoi hafalnod rhwng cyfesuryn y sgwâr a llythyren y darn, er enghraifft e8=B.
Castellu
[golygu | golygu cod]Pan fod chwaraewr yn castellu cofnodir hynny drwy ddefnyddio O-O (castellu ochr y Brenin) a O-O-O (castellu ochr y Frenhines).
Siach a siachmat
[golygu | golygu cod]Os yw symudiad yn gosod Brenin y gwrthwynebydd mewn siach ychwanegir "+" ar ei ôl, er enghraifft i ddangos symudiad ble mae Esgob yn symud i b5 i roi'r Brenin mewn siach defnyddir Eb5+. I ddangos siachmat defnyddir y symbol "#" (neu weithiau "++"). Er enghraifft, i ddangos symudiad ble mae Brenhines yn symud i d8 i roi Brenin y gwrthwynebydd mewn siachmat defnyddir Bd8#.
Canlyniad y gêm
[golygu | golygu cod]Mae 1–0 ar ôl y symudiadau yn dangos fod Gwyn wedi ennill, 0–1 yn dangos fod Du wedi ennill, a ½–½ yn dangos gêm gyfartal.
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- Iolo Jones a T. Llew Jones, A Chwaraei Di Wyddbwyll? (Gwasg Gomer, 1980).