Martyn Lloyd-Jones
Martyn Lloyd-Jones | |
---|---|
Ganwyd | 20 Rhagfyr 1899 Caerdydd |
Bu farw | 1 Mawrth 1981 Ealing |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | diwinydd, gweinidog yr Efengyl, meddyg |
Plant | Elizabeth Lloyd-Jones |
Gweinidog, meddyg ac awdur oedd David Martyn Lloyd-Jones (20 Rhagfyr 1899 – 1 Mawrth 1981) a oedd yn hynod o ddylanwadol yn y mudiad Efengylaidd yng ngwledydd Prydain yn yr 20g. Bu'n gweinidogaethu mewn capel yn Llundain am bron i 30 mlynedd. Gwrthwynebai Gristnogaeth Ryddfrydol yn gryf iawn a chefnogai Efengylwyr Anglicanaidd a ddymunai adael eu henwad. Credai mai dim ond drwy ddod at ei gilydd oedd gwir gymrodaeth (neu frawdgarwch) Cristnogol yn bosibl.
Y blynyddoedd cynnar
[golygu | golygu cod]Yng Nghaerdydd y ganwyd Lloyd-Jones a chafodd ei fagu yn Llangeitho, Ceredigion. Groser oedd ei dad ac roedd gan Lloyd-Jones ddau frawd. Yn Llangeitho, y bu gweinidogaeth Daniel Rowland, ac roedd y pentref yn fan canolog yn y Diwygiad Methodistaidd. Bu'n ddisgybl mewn ysgol ramadeg yn Llundain rhwng 1914 ac 1917 cyn treulio amser fel myfyriwr meddygol yn Ysbyty Bartholomew. Derbyniodd radd feddygol MD o Brifysgol Llundain, a daeth yn Aelod o Goleg Brenhinol y Ffisegwyr.[1] Am ddwy flynedd teimlodd yr alwad i ddychwelyd i Gymru i bregethu ac ildiodd i'r alwad honno yn 1927 gyda'i briod newydd Bethan (nee Phillips). Yn ddiweddarach cawsant ddau o blant: Elizabeth ac Ann. Derbyniodd wahoddiad i weinidogaethu mewn eglwys yn Aberafon, Porth Talbot.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Eveson 2004, t. 41.