Mantell alarus
Nymphalis antiopa neu Aglais antiopa | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Nymphalidae |
Genws: | Nymphalis |
Rhywogaeth: | N. antiopa |
Enw deuenwol | |
Nymphalis antiopa (Linnaeus, 1758) | |
Cyfystyron | |
Aglais antiopa |
Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw mantell alarus, sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog ydy mentyll galarus; yr enw Saesneg yw Camberwell Beauty (neu Mourning Cloak yn America), a'r enw gwyddonol yw Nymphalis antiopa neu Aglais antiopa.[1][2] Mae'n löyn sydd i'w weld drwy Ewrop - yn enwedig y gwledydd Sgandinafaidd - ac yn ymwelydd prin â dwyrain Lloegr. Ar adegau (1846, 1872, 1947, 1976, 1995 a 2006) gwelwyd myrdd ohonynt. Eu cyfnod yn Lloegr ydy Awst a Medi.
Yr hen enwau arni yn Saesneg ydy: Grand Surprise a White Petticoat. Daw'r enw Saesneg o'r lleoliad (Coldharbour Lane, Camberwell ger Llundain) lle canfyddwyd dau esiampl ohoni yn Awst 1745.
62–75 mm ydy lled ei hadenydd ar ei anterth.
Bwyd
[golygu | golygu cod]Prif fwy y siani flewog ydy coed llwyfen, poplys a helyg. Oherwydd hyn, mae i'w gweld fel arfer mewn coedlannau.
Isrywogaethau
[golygu | golygu cod]- N. a. antiopa (Linnaeus, 1758)
- N. a. hyperborea (Seitz, 1914) (Alaska)
- N. a. asopos (Fruhstorfer, 1909) (Japan)
Cyffredinol
[golygu | golygu cod]Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r fantell alarus yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Hanes yng Nghymru
[golygu | golygu cod]Ddiwedd mis Awst 2010 ymddangosodd yr hanesyn yma yn y newyddion:
- A rare butterfly has been seen in Colwyn Bay for the first time in a decade. The Camberwell Beauty - a migrant which occasionally flies into Britain from Europe - was spotted by Geoff Benfield in his conservatory in Llanelian. "It just suddenly appeared in the conservatory," said Geoff. "From what I read, they live on beech and willow trees - all the things we've got in theimmediate area."[3]
Ond yn ôl Tywyddiadur Llên Natur, nid dyma’r fantell alarus gyntaf i gyrraedd gogledd Cymru:
- 12 Awst 1995: Hefin Jones ar Radio Cymru yn son bod iar fach dramor a Camberwell beauty wedi cyrraedd de Lloegr ar raddfa fawr o'r cyfandir
- 21 Awst 1995: Camberwell beauty yn Nhregarth ond son bod rhywun wedi eu bridio nhw?
- 6 Mai 1996: Coedydd Aber,Abergwyngregyn Camberwell beauty!! i fyny ac i lawr dros Bontnewydd, Aber tua thri o’r gloch y pnawn.
- 19 Mai 1996: Mike Howe yn dweud bod monarch a Queen of Spain Fritillary wedi eu cael yn ddiweddar yn ogystal â Camberwell Beauty yng Ngogledd Ewrop. Dick Squires wedi cael CB ffres yr olwg hefyd yn ddiweddar
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
- ↑ Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
- ↑ BBC Radio Wales