Lewys ab Owain
Lewys ab Owain | |
---|---|
Ganwyd | 16 g Dolgellau |
Bu farw | 11 Hydref 1555, 11 Hydref 1555 |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod o Senedd1547-1552, Member of the March 1553 Parliament, Aelod o Senedd Ebrill 1554, Aelod o Senedd 1554-55 |
Tad | Owain ap Hywel ap Llywelyn ap Gruffudd Ddû |
Mam | Gwenhwyfar ferch Meurig ab Ieuan ab Einion |
Priod | Margaret Puleston |
Plant | Edward Owen, Robert Owen, Elis ferch Lewys Owen, Gruffudd Owen |
Uchelwr o ardal Dolgellau, Meirionnydd, oedd Lewys ab Owain (bu farw 11 Hydref 1555), a adwaenir hefyd fel Y Barwn Lewys ab Owain neu (Barwn) Lewis Owen.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Roedd yn fab i Owain ap Hywel ap Llywelyn o Gwrt Plas-yn-dre, Dolgellau, ac yn ŵr o dras barchus iawn. Priododd Fargred ferch Robert Pilstwn, rheithor Chwitffordd a Gresffordd. Daeth yn Is-Siamberlen Gogledd Cymru a Barwn y Dysorlys i'r ardal. Yn ogystal gwasnaethodd fel Siryf Sir Feirionnydd (1546, 1555) ac fel Aelod Seneddol dros etholaeth y sir yn seneddau 1547, 1552 a 1554.
Yr adeg honno roedd ardal Mawddwy, rhwng Dolgellau a Machynlleth, yn ddrwgenwog iawn fel cartref Gwylliaid Cochion Mawddwy — criw o herwyr a ddaeth yn enwog yn llên gwerin Cymru. Fel siryf ac AS a thirfeddianwr lleol, roedd Lewys eisoes yn un o elynion pennaf y Gwylliaid. Ond pan gafodd ef a John Wyn ap Maredudd (m. 1559) o Wydir eu gwysio i heddychu'r ardal, daliwyd tua 80 o'r herwyr a'u crogi. Roedd gweddill y Gwyllion am eu dial.
Ymosodwyd ar y Barwn gan griw o’r Gwylliad yn Nugoed Mawddwy, ger Dinas Mawddwy, ar 11 Hydref, 1555. Er i'w fab-yng-nghyfraith John Lloyd o'r Ceiswyn, wneud ei orau i'w amddiffyn, saethwyd y Barwn a'i ladd, gyda tua 30 o anafiadau ar ei gorff. Adnabyddir y llecyn byth ers hynny fel 'Llidiart y Barwn'.
Crogwyd amryw o’r gwylliaid am y llofruddiaeth, ac mae marwnadau i Lewys ab Owen gan nifer o feirdd, yn cynnwys Gruffudd Hiraethog. Yn yr achos llys a ddilynodd y llofruddiaeth dywedwyd mai John Goch, neu John Goch ap Gruffudd ap Huw, oedd y gŵr a darawodd yr ergyd farwol.
Cofnodir yr hanes gan Thomas Pennant yn ei gyfrolau Tours in Wales.