Homogeneiddio
Math | techneg labordy, cymysgu |
---|
Mae homogeneiddio[1][2] yn derm a ddefnyddir mewn nifer o feysydd megis cemeg, gwyddoniaeth amaethyddol, technoleg bwyd, cymdeithaseg a bioleg celloedd. Mae'r term yn cyfeirio at broses sy'n creu cymysgedd sydd yn gyson trwy gydol sylwedd.
Cemeg
[golygu | golygu cod]Y broses o gymysgu arddwys dwy wedd sy'n anhydawdd, weithiau wrth ychwanegu gwlychyddion (syrffactyddion) er mwyn creu daliant neu emwlsiwn hydawdd.
Technoleg bwyd
[golygu | golygu cod]Mae prosesu llaeth yn un o'r defnyddiau hynaf o homogeneiddio. Caiff llaeth ei homogeneiddio i atal neu oedi gwahaniad naturiol hufen oddi wrth gweddill yr emwlsiwn. Mae'r braster mewn llaeth fel arfer yn gwahanu oddi wrth y dŵr ac yn casglu ar y top. Mae homogeneiddio'n torri braster i lawr i feintiau llai, fel nad yw'n gwahanu, gan alluogi i laeth cael ei werthu'n gyflawn, neu gyda 1% neu 2% o fraster ynddi. Cwblheir y broses o homogeneiddio llaeth drwy orfodi'r llaeth drwy dyllau bychain dan wasgedd uchel.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Geiriadur yr Academi | The Welsh Academy English-Welsh Dictionary Online". Cyrchwyd 2022-06-28.
homogenization n. homogeneiddio homogenize v.t. homogeneiddio
- ↑ "Geiriadur Prifysgol Cymru". geiriadur.ac.uk. Cyrchwyd 2022-06-28.