Goronwy Moelwyn Hughes
Goronwy Moelwyn Hughes | |
---|---|
Ganwyd | 6 Hydref 1897 Aberteifi |
Bu farw | 1 Tachwedd 1955 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfreithiwr, gwleidydd |
Swydd | Aelod o 39fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 37ain Senedd y Deyrnas Unedig, llywydd corfforaeth |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur, Plaid Ryddfrydol |
Tad | John Gruffydd Moelwyn Hughes |
Priod | Louise Mary Greer |
Roedd Goronwy (Ronw) Moelwyn Hughes (6 Hydref 1897 – 1 Tachwedd 1955), yn gyfreithiwr Cymreig a gwleidydd a safodd etholiadau dros y Blaid Ryddfrydol a'r Blaid Lafur. Gwasanaethodd am ddau dymor byr fel Aelod Seneddol Llafur.
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd Goronwy Moelwyn Hughes yn Llwyn Onn, Ceredigion ar Hydref 6ed 1897. Ei enw bedydd oedd Goronwy ond wrth yr enw bachigol Ronw yr adnabuwyd o gan amlaf. Roedd yr hynaf o chwech o blant y Parchedig Dr John Gruffydd Moelwyn Hughes (1866-1944) ac Anna Maria (Mia) (née Lewis) ei wraig.[1]
Cafodd ei addysg yn Ysgol y Cyngor Aberaeron cyn mynd ymlaen i Brifysgol Aberystwyth. Amharwyd ar ei yrfa academaidd gan doriad y Rhyfel Byd Cyntaf. Ymunodd Catrawd Gorllewin Swydd Efrog a chafodd ei anafu ym 1916. Ym 1917 trosglwyddodd i'r Corfflu Awyr Brenhinol gan wasanaethu fel peilot am weddill y rhyfel.
Byd y gyfraith
[golygu | golygu cod]Wedi'r rhyfel dychwelodd i Aberystwyth gan raddio BA cyn parhau a'i addysg yng Ngholeg Downing Caergrawnt lle raddiodd LLB gydag anrhydedd dosbarth cyntaf. Cafodd ei alw i'r bar yn 1922 yn y Deml Ganol a fu'n gweithio fel bargyfreithiwr ar gylchdaith gogledd Lloegr. Roedd yn arbenigo yn bennaf ym maesydd cyfraith trafnidiaeth a chyfraith fasnachol. Un o'i achosion nodedig oedd cynrychioli Billy Butlin mewn achos yn ymwneud a'r tir lle yr adeiladwyd Camp Butlins Pwllheli.
Roedd yn darlithio ar y gyfraith ryngwladol yn Ysgol Economeg a Gwyddor Gwleidyddiaeth Llundain ac yn darlithio ar Gyfraith Masnachol i Gymdeithas y Gyfraith; roedd o hefyd yn arholwr i'r Cyngor Addysg Gyfreithiol.
Fe ysgrifennodd yn helaeth mewn cylchgronau cyfreithiol a golygodd 7fed argraffiad International Law (1928), a chyfranodd erthyglau i argraffiad 1931-35 o Halsbury's Laws of England Ysgrifennodd, ar y cyd a Dingle Foot, y brif waith safonol ar gyfraith trafnidiaeth News Chronicle Guide to the Road & Rail Traffic Act, 1933
Cafodd ei wneud yn Gwnsler y Brenin ym 1943 ac yn Feinciwr y Deml Ganol ym 1950[2]
Gyrfa wleidyddol
[golygu | golygu cod]Yn etholiad cyffredinol 1929, safodd fel ymgeisydd Rhyddfrydol yn etholaeth ddiogel y Blaid Lafur - Gorllewin y Rhondda gan golli'n drwm i'r AS Llafur William John. Ym mis Hydref 1930 cafodd ei ddewis fel ymgeisydd Rhyddfrydol ar gyfer sedd llawer mwy enilladwy, sef Southport, ond yn yr Etholiad Cyffredinol ym 1931 cafodd ei guro gan yr ymgeisydd y Ceidwadwyr
Ychydig wedi etholiad 1931 ymunodd Hughes a'r Blaid Lafur a safodd yn aflwyddiannus fel ymgeisydd Llafur yn etholaeth Ceredigion yn etholiad cyffredinol 1935.
Cafodd ei ethol i Dŷ'r Cyffredin yn ddiwrthwynebiad mewn isetholiad yn etholaeth Caerfyrddin ym 1941, o dan drefniant rhwng y tair plaid fwyaf i beidio cystadlu isetholiadau yn ystod cyfnod yr Ail Ryfel Byd. Er gwaetha'r ffaith bod Llafur wedi mwynhau tirlithriad enfawr yn etholiad 1945 llwyddodd Hughes i fod yr unig aelod o'r Blaid Lafur i golli sedd yn yr etholiad hwnnw. Cipiwyd y sedd gan yr ymgeisydd Rhyddfrydol Rhys Hopkin Morris.
Dychwelodd Hughes i'r Senedd yn etholiad cyffredinol 1950, pan gafodd ei ethol i sedd Lafur diogel Gogledd Islington yng Ngogledd Llundain. Bu'n cynrychioli'r etholaeth am ddim ond blwyddyn, gan benderfynu peidio ac ail sefyll yn etholiad cyffredinol 1951. Mae bloc o fflatiau yn Hilldrop Crescent, Holloway, Gogledd Islington, wedi ei enwi'n Moelwyn Hughes Court er anrhydedd iddo.
Adroddiad Moelwyn Hughes
[golygu | golygu cod]Ar 9 Mawrth 1946, bu drychineb yn Burnden Park maes chwarae clwb pêl-droed Bolton Wanderers.[3] Yn y trychineb cafodd 33 o bobl eu lladd a chafodd dros 400 arall eu hanafu pan gorwasgwyd dros 85,000 o gefnogwyr i safle gyda chynhwysedd ar gyfer dim ond 60,000 o gefnogwyr.
Penodwyd Moelwyn Hughes i arwain ymchwiliad i'r trychineb. Fe wnaeth adroddiad swyddogol Moelwyn Hughes argymell rheolaeth fwy trwyadl o feintiau dorf, trwyddedu a rheoleiddio meysydd chwaraeon gan awdurdodau lleol ac archwilio rheolaidd ar feysydd dros 10,000 o gapasiti.[4]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Bu'n briod a Louise Mary, merch hynaf barnwr y Llys Apêl Frederick Greer (Barwn Fairfield ). Bu iddynt bedwar o blant dau fab ac un ferch, un o'i feibion oedd yr athro Ifan Moelwyn Hughes o Brifysgol Aberystwyth.[5]
Bu farw yn Golders Green, Middlesex, o drawiad ar y galon, ar 1 Tachwedd 1955.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ HUGHES , JOHN GRUFFYDD MOELWYN yn y Bywgraffiadur arlein adalwyd 20 Chwef 2014
- ↑ (Saesneg) Rubin, G. R. "Hughes, Goronwy Moelwyn (1897–1955)". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/54020.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
- ↑ Burnden Park football disaster remembered 65 years on adalwyd 20 Chwefror 2014
- ↑ Mr. Moelwyn Hughes' report on the Bolton Football Ground disaster yn Archif y Spectator adalwyd 20 Chwefror 2014
- ↑ BMDS Online Ifan Moelwyn Hughes Obituary[dolen farw] adalwyd 20 Chwefror 2014
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Daniel Hopkin |
Aelod Seneddol dros Gaerfyrddin 1941 – 1945 |
Olynydd: Rhys Hopkin Morris |
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
Rhagflaenydd: Leslie Haden-Guest |
Aelod Seneddol dros Gogledd Islington 1905 – 1951 |
Olynydd: Wilfred Fienburgh |