Goring-on-Thames
Gwedd
Math | pentref |
---|---|
Ardal weinyddol | Goring-on-Thames |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Goring and Streatley |
Sir | Swydd Rydychen (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 9.61 km² |
Gerllaw | Afon Tafwys |
Yn ffinio gyda | South Stoke, Whitchurch-on-Thames, Goring Heath, Woodcote |
Cyfesurynnau | 51.523°N 1.135°W |
Cod OS | SU600807 |
Cod post | RG8 |
Pentref a phlwyf sifil yn Swydd Rydychen, De-ddwyrain Lloegr, ydy Goring-on-Thames[1] neu Goring. Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan De Swydd Rydychen.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 3,187.[2]
Saif Goring 13 km (8 mi) i'r gogledd-orllewin o Reading ac 26 km (16 mi) i'r de o Rydychen. Mae'r pentref ar lan chwith Afon Tafwys, ym Mwlch Goring, sy'n gwahanu Twyni Berkshire a Bryniau Chiltern. Ar lan arall yr afon mae pentref Streatley yn Berkshire, ac mae gan y ddau bentrefi cysylltiad agos. Mae Llwybr Tafwys, Stryd Icknield a'r Ridgeway yn croesi Afon Tafwys yma. Mae prif linell Rheilffordd y Great Western yn mynd trwy Goring, sy'n hanner ffordd rhwng Reading a Didcot.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ British Place Names; adalwyd 4 Mehefin 2020
- ↑ City Population; adalwyd 4 Mehefin 2020