Gini
Gwedd
Gweriniaeth Ginil République de Guinée (Ffrangeg) 𞤖𞤢𞤱𞤼𞤢𞥄𞤲𞤣𞤭 𞤘𞤭𞤲𞤫 (Hawtaandi Gine) (Pulareg) | |
Arwyddair | Gwaith, Cyfiawnder, Undod |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, gwlad |
Prifddinas | Conakry |
Poblogaeth | 12,717,176 |
Sefydlwyd | 2 Hydref 1958 (Annibyniaeth oddi wrth Ffrainc) 5 Medi 2021 (Coup d'état) |
Anthem | Liberté |
Pennaeth llywodraeth | Bah Oury |
Cylchfa amser | UTC±00:00, Africa/Conakry |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Ffrangeg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Gorllewin Affrica |
Gwlad | Gini |
Arwynebedd | 245,857 ±1 km² |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd |
Yn ffinio gyda | Y Traeth Ifori, Gini Bisaw, Liberia, Mali, Senegal, Sierra Leone |
Cyfesurynnau | 10°N 11°W |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Cynulliad Cenedlaethol |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Gini |
Pennaeth y wladwriaeth | Mamady Doumbouya |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Gini |
Pennaeth y Llywodraeth | Bah Oury |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $16,092 million, $21,228 million |
Arian | Guinean franc |
Canran y diwaith | 2 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 5.013 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.465 |
Gwlad ganolig ei maint ar arfordir Gorllewin Affrica yw Gini (Ffrangeg: Guinée) (Ffrangeg: République de Guinée). Arferid ei galw'n Gini Ffrengig ond, bellach, cyfeirir ati fel Gini Conacri ar lafar (Guinée-Conakry).
Mae'n ffinio â chwech o wledydd: Gini Bisaw a Senegal yn y gogledd, Mali i'r gogledd a'r gogledd-ddwyrain, Arfordir Ifori i'r de-ddwyrain, Liberia i'r de, a Sierra Leone i'r gorllewin. Mae'r rhan fwyaf o'r wlad yn wastadir arfordirol, corsiog mewn mannau, sy'n codi i ucheldiroedd a mynyddoedd. Pobl Fulani a Mandingo yw'r mwyafrif o'r trigolion. Siaradir Ffrangeg ac wyth iaith frodorol. Y brifddinas yw Conakry.
Roedd ei phoblogaeth yn 2016 oddeutu 10.5 miliwn o drigolion.[1] Daeth yn rhydd oddi wrth Ffrainc ar 2 Hydref 1958.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Central Intelligence Agency (2009). "Guinea". The World Factbook. 2010.