Geographica (Strabo)
Llyfr daearyddiaeth pwysig gan y daearyddwr Groegaidd Strabo (c. 64 CC – c. 19 OC) yw'r Geographica. Mae rhannau o'r testun yn llwgr. Ceir y testun gorau o lyfrau 1–9 yn llawysgrif Paris 1397 (12g) ond mae llawysgrif Paris 1393 (13g–14g) yn well am ran olaf y testun. Mae'r 7fed llyfr yn fylchog iawn.
Cynnwys
[golygu | golygu cod]Yn y Geographica (Groeg: Γεωγραφικά) mae Strabo yn disgrifio gwledydd, pobl, arferion, crefyddau a hanes gwledydd yr Hen Fyd. Mae'n ffynhonnell eithriadol o bwysig am wybodaeth o dopograffi a hanes y cyfnod. Mae Strabo yn amlwg yn tynnu ar ei brofiad personol o rai lleoedd (roedd wedi teithio'n eang) ond mae o'n defnyddio gwaith daearyddwyr a haneswyr eraill hefyd, yn abennig Eratosthenes. Mae ganddo lygad craff am bobl a llefydd ac mae ei arddull yn eglur a deniadol.
Mae'r Geographica yn cael ei rannu yn 17 llyfr (liber).
- Liber 1–2: Beirniadaeth o waith yr hen ddaearyddwyr, o Homer ymlaen, a thraethawd ar seiliau mathemategol daearyddiaeth (adran wanaf y gwaith)
- Liber 3: Sbaen
- Liber 4: Gâl, Prydain, Iwerddon a'r Alpau
- Liber 5–6: Yr Eidal a'r ynysoedd o'i chwmpas
- Liber 7: Gogledd a dwyrain Ewrop hyd Afon Daniwb, yn cynnwys Yr Almaen
- Liber 8–10: Gwlad Groeg a'r ynysoedd Groegaidd
- Liber 11–14: Asia i'r gorllewin o fynyddoedd Taurus
- Liber 15–16: Asia y tu draw i'r Taurus, sef Arabia, Syria, Persia ac India a'i gymdogion
- Liber 17: Yr Aifft, Carthago a rhannau eraill o Ogledd Affrica
Dylanwad
[golygu | golygu cod]Y Geographica yw'r llyfr daearyddiaeth pwysicaf a ysgrifenywd erioed yn y Gorllewin. Am ganrifoedd roedd ysgolheigion o bob rhan o Ewrop a'r Môr Canoldir yn troi ato am wybodaeth ac ysbrydoliaeth ac fe barhaodd i fod y prif lyfr cyfeiriadol ar y bwnc hyd at ddiwedd yr Oesoedd Canol.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Horace L. Jones (gol.), Strabo: Geography, 8 gyfrol (Llundain, 1933). Argraffiad o'r testun Groeg gyda chyfieithiad Saesneg cyferbyn.