Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig 2005 yng Nghymru
| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
All 40 Welsh seats to the House of Commons | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dyma ganlyniadau etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig 2005 yng Nghymru. Cynhaliwyd yr etholiad ar 5 Mai 2005 a chystadlwyd pob un o'r 40 sedd yng Nghymru. Cawsant eu herio ar sail y cyntaf i'r felin.
Canlyniadau
[golygu | golygu cod]Roedd y canlyniadau yn ôl y disgwyl gydag un eithriad. Enillodd aelod Annibynnol o'r Cynulliad fwyafrif mawr ym Mlaenau Gwent. Blaenau Gwent oedd y sedd fwyaf diogel i Lafur yng Nghymru ac felly cafodd ei hystyried yn sioc enfawr. Collodd Llafur 5 sedd, 3 i'r Ceidwadwyr, 1 i'r Democratiaid Rhyddfrydol ac 1 i'r Annibynwyr. Collodd Plaid Cymru 1 sedd i'r Democratiaid Rhyddfrydol. Collodd Plaid Cymru hefyd gyfran o'r bleidlais. Cafodd y blaid Lafur eu canlyniad gwaethaf o ran cyfran o'r bleidlais ers Neil Kinnock yn 1992.
Dywedodd Elfyn Llwyd arweinydd grŵp Plaid Cymru Seneddol bod y canlyniadau'n siomedig. Pe bai Plaid Cymru yn ennill 1400 yn fwy o bleidleisiau fe allen nhw fod wedi ennill 5 sedd. (Ynys Môn a Ceredigion)
Llwyddodd UKIP i gael 1.5%, enillodd y Gwyrddion 0.5%. Dim ond 0.2% wnaeth plaid Cymru Ymlaen Newydd ei ffurfio. Dim ond 0.1% wnaeth Legalise Canabis.
Seddi Targed
[golygu | golygu cod]Llafur
[golygu | golygu cod]1) Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr (6.8% Mwyafrif) (Plaid Cymru)
Canlyniad: (17.6% Mwyafrif) Wedi methu, Plaid Cymru Cadw
2) Caernarfon (12.1% Mwyafrif) (Plaid Cymru)
Canlyniad: (18.6% Mwyafrif) Wedi methu, Plaid Cymru Cadw
3) Brycheiniog a Maesyfed (6.8% Mwyafrif) (Democratiaid Rhyddfrydol)
Canlyniad: (15.5% Mwyafrif) Methu, Rhyddfrydol Demcorat Cadw
Plaid Cymru
[golygu | golygu cod]1) Ynys Môn (2.4% Mwyafrif) (Llafur)
Canlyniad: (3.6% Mwyafrif) Wedi methu, Llafur yn cadw
2) Llanelli (17.7% Mwyafrif) (Llafur)
Canlyniad: (20.4% Mwyafrif) Wedi methu, Llafur yn cadw
3) Caerffili (37.3% Mwyafrif) (Llafur)
Canlyniad: (39.2% Mwyafrif) Wedi methu, Llafur yn cadw
Democratiaid Rhyddfrydol
[golygu | golygu cod]1) Canol Caerdydd (1.9% Mwyafrif) (Llafur)
Canlyniad: (15.5% Mwyafrif) Llwyddiant, Buddugoliaeth y Democratiaid Rhyddfrydol
2) Ceredigion (11.4% Mwyafrif) (Plaid Cymru)
Canlyniad: (0.6% Mwyafrif) Llwyddiant, Buddugoliaeth y Democratiaid Rhyddfrydol
3) Conwy (24.9% Mwyafrif) (Llafur)
Canlyniad: (17.0% Mwyafrif) Wedi methu, Llafur yn cadw
Ceidwadwyr
[golygu | golygu cod]1) Mynwy (0.9% Mwyafrif) (Llafur)
Canlyniad: (9.9% Mwyafrif) Llwyddiant, Ceidwadwyr yn ennill
2) Gorllewin Clwyd (3.2% Mwyafrif) (Llafur)
Canlyniad: (0.3% Mwyafrif) Llwyddiant, Ceidwadwyr yn ennill
3) Preseli Sir Benfro (8.0% Mwyafrif) (Llafur)
Canlyniad: (1.6% Mwyafrif) Llwyddiant, Ceidwadwyr yn ennill
Seddi sydd wedi newid dwylo
[golygu | golygu cod]Blaenau Gwent (Llafur yn colli i Annibynnol)
Canol Caerdydd (Llafur yn colli i'r Democratiaid Rhyddfrydol)
Ceredigion (Plaid Cymru yn colli i'r Democratiaid Rhyddfrydol)
Gorllewin Clwyd (Llafur yn colli i'r Ceidwadwyr)
Mynwy (Llafur yn colli i'r Ceidwadwyr)
Preseli Sir Benfro (Llafur yn colli i'r Ceidwadwyr)