Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2019
| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Pob un o'r 650 sedd yn y Tŷ'r Cyffredin 326 sedd sydd angen i gael mwyafrif | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Nifer a bleidleisiodd | 67.3% (1.6pp)[1] | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Map o'r etholaethau | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Cynhaliwyd Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2019 ar 12 Rhagfyr 2019, dwy flynedd a hanner wedi'r etholiad diwethaf. Hon oedd yr etholiad cyntaf i'w chynnal yn Rhagfyr ers 1923.[2] Cafodd y Ceidwadwyr fwyafrif clir a gwelwyd yr SNP yn cipio cyfanswm o 48 o seddi; yng Ngogledd Iwerddon, cipiwyd mwyafrif y seddau gan bleidiau gweriniaethol, oddi wrth yr unoliaethwyr. Cadwodd Plaid Cymru eu pedair sedd. Hwn oedd yr etholiad gwaethaf i'r Blaid Lafur ers 1935.[3][4]
Galwyd yr etholiad yn dilyn methiant y llywodraeth Doriaidd i basio deddfau ynglŷn â Brexit a'u methiant i symud ymlaen dros gyfnod o 3 blynedd. Cafodd y cynnig i gynnal yr etholiad hon ei basio gan fwyafrif llethol gyda 438 o blaid ac 20 yn erbyn.[5] Bu i'r SNP ymatal eu pleidlais, ond fe bleidleisiodd ASau Plaid Cymru yn erbyn y cynnig, gan ddweud mai cynnal refferendwm y bobl ar adael yr Undeb Ewropeaidd ddylai ddod yn gyntaf.
Cymru
[golygu | golygu cod]Ar 7 Tachwedd 2019 cyhoeddwyd fod cynghrair rhwng tair plaid, sy'n gwrthwynebu unrhyw fath o Brecsit: Plaid Cymru, y Blaid Werdd a'r Democratiaid Rhyddfrydol.[6] Bydd hyn yn effeithio 11 sedd yng Nghymru. Drwy wledydd Prydain bydd y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Blaid Werdd yn cydweithio mewn 49 o seddau. Mae cynsail i'r cynghreirio yma, sef Is-etholiad Brycheiniog a Sir Faesyfed, 2019, lle ildiodd Plaid Cymru eu hymgeisydd er mwyn i'r Democratiaid Rhyddfrydol ennill y sedd. Cafwyd cynghrair cyn hynny hefyd 2016 pan ddaeth Plaid Cymru, yr SNP a'r Blaid Werdd yn Lloegr at ei gilydd.[7]
- Seddi:
- Plaid Cymru: Arfon, Caerffili, Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Dwyfor Meirionnydd, Llanelli, Pontypridd ac Ynys Môn.
- Y Blaid Werdd - Bro Morgannwg; dyma sedd Alun Cairns
- Y Democratiaid Rhyddfrydol - Brycheiniog a Sir Faesyfed, Caerdydd a Maldwyn
Trefniadau
[golygu | golygu cod]Gosodwyd isafswm oedran yr etholwyr yn 18, fel sy'n arferol mewn Etholiadau Cyffredinol, yn hytrach na 16 fel sy'n digwydd yn etholiadau Senedd yr Alban a rhai gwledydd eraill.
Bydd pob etholaeth seneddol yn y Deyrnas Gyfunol yn ethol un Aelod Seneddol (AS) i Dŷ’r Cyffredin gan ddefnyddio’r system bleidleisio 'y cyntaf heibio'r postyn'. Ceir 650 etholaeth ac mae 40 o'r rheiny yng Nghymru, 59 yn yr Alban a 18 yng Ngogledd Iwerddon. Roedd bwriad i leihau nifer yr etholaethau i 600 (a 29 o'r rheiny yng Nghymru) yn etholiad 2020, ond nid oedd y trefniadau i wneud hynny wedi eu cwbwlhau. Yn ôl arfer cyfansoddiadol, bydd yr arweinydd plaid neu glymblaid sy'n hawlio mwyafrif o aelodau etholedig yn cael gwahoddiad gan Frenhines Lloegr i ddod yn Brif Weinidog.
Y diwrnod cau ar gyfer yr ymgeiswyr oedd 14 Tachwedd 2019.[8]
Y polau piniwn cyn yr etholiad
[golygu | golygu cod]Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Refferendwm y Deyrnas Unedig ar aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, 2016
- Ôl-Brexit a'r cynlluniau i adael yr Undeb Ewropeaidd
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Results of the 2019 General Election". BBC News.
- ↑ Chris Hanretty (29 Hydref 2019). "Why UK election outcome is impossible to predict". Politico Europe. Cyrchwyd 29 Hydref 2019.
- ↑ Stewart, Heather (12 December 2019). "Exit poll predicts 86-seat majority for Boris Johnson and Conservatives". The Guardian.
- ↑ "Jeremy Corbyn: 'I will not lead Labour at next election'". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 13 Rhagfyr 2019.
- ↑ BBC Cymru Fyw; adalwyd 6 Tachwedd 2019.
- ↑ Nation Cymru; adalwyd 7 Tachwedd 2019.
- ↑ golwg360.cymru; adalwyd 7 Tachwedd 2019.
- ↑ "Timetable for UK Parliamentary general election - Thursday 12 Rhagfyr 2019". Electoral Commission. Cyrchwyd 1 Tachwedd 2019.
Troednodiadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Mae Sturgeon yn aelod o Lywodraeth yr Alban, nid San Steffan. Ian Blackford, AS dros Ross, Skye and Lochaber yw arweinydd y SNP yn San Steffan.