Deodoro da Fonseca
Gwedd
Deodoro da Fonseca | |
---|---|
Ganwyd | 5 Awst 1827 Marechal Deodoro |
Bu farw | 23 Awst 1892 Barra Mansa |
Dinasyddiaeth | Brasil |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, person milwrol |
Swydd | Arlywydd Brasil, governor of Rio Grande do Sul |
Plaid Wleidyddol | Annibynnwr |
Mam | Rosa Paulina da Fonseca |
Priod | Mariana da Fonseca |
Perthnasau | Hermes da Fonseca |
Gwobr/au | Urdd Croes y De |
llofnod | |
Milwr a gwleidydd o Frasil oedd Manuel Deodoro da Fonseca (5 Awst 1827 – 23 Awst 1892) a oedd yn Arlywydd cyntaf Brasil.
Ganwyd yn Alagoas yn fab i swyddog milwrol. Gwasanaethodd yn Rhyfel Paragwâi (1864–70), ac yn ddiweddarach cafodd ei ddyrchafu'n gadfridog. Cyrhaeddodd rheng maeslywydd ym 1884, ac ym 1886 daeth yn gadlywydd ac yn bennaeth gweinyddol ar dalaith Rio Grande do Sul.
Fe arweiniodd wrthryfel milwrol ar 15 Tachwedd 1889 i ddymchwel yr Ymerawdwr Pedro II a sefydlu gweriniaeth. Gwasanaethodd yn swydd arlywydd dros dro hyd 24 Chwefror 1891, pan gafodd ei ethol yn arlywydd gan y cynulliad cyfansoddiadol. Ceisiodd rheol fel unben drwy ordinhad, ond cafodd ei orfodi i ymddiswyddo ar 24 Tachwedd 1891.