Cyflwr cyfarchol
Y Cyflwr Cyfarchol (weithiau modd cyfarchol) yw'r term gramadegol ar yr arfer o gryfhau neu dynnu sylw arbennig at berson, anifail neu wrthrych o fewn brawddeg; gwneir hyn yn y Gymraeg drwy dreiglo. Roedd yn arfer yn yr ieithoedd Indo-Ewropeaidd ac yn Lladin; bellach, fe arddelir y cyflwr cyfarchol yn y Gymraeg a'r ieithoedd Celtaidd (heblaw Llydaweg), yn yr ieithoedd Slafonig (heblaw Rwsieg) ac yn y Lithwaneg a'r Latfieg. Mae wedi ei golli yn yr ieithoedd Germanaidd gan gynnwys y Saesneg.
Cyflwr Cyfarchol mewn ieithoedd Celtaidd
[golygu | golygu cod]Cymraeg
[golygu | golygu cod]Yr enghraifft amlwg, syml yn y Gymraeg yw pan fydd siaradwr yn treiglo "boneddigion" i foneddigion[1] ar ddechrau brawddeg er mwyn denu sylw'r gynulleidfa; neu'r athro yn gweiddi "blant" ar ddisgyblion er mwyn cadw trefn. Ceir yn y gân 'O Gymru' gan Eleri Llwyd.[2]
Efallai mai un o'r enghreifftiau amlycaf o ddefnydd o'r cyflwr cyfarchiol a hynny'n treiglo enw person (sy'n anghyffredin bellach yn y Gymraeg) yw'r cwpled o gerdd 'Fy Ngwlad (Cerddi'r Cywilydd) gan Gerallt Lloyd Owen lle treiglir yr enw Llywelyn:[3]
- Wylit, wylit, Lywelyn,
- Wylit waed pe gwelit hyn
Gwelir y cyflwr cyfarchol yn yr ieithoedd Gwyddeleg a Gaeleg. Yn wahanol i'r Gymraeg, mae'r ddwy iaith hyn yn dal i dreiglo enwau pobl, ac mae'r enwau "Hamish" yn ffurf gyfarchol (a sillafiad Saesneg) ar Seumas a'r enw Mháiri (a ynganer yn gywir fel 'Fari') yn ffurf gyfarchol ar M��iri. Yn wahanol i'r Gymraeg mae'r ieithoedd Goideleg yn dal i arddel y cyflwr genidol.
Treigladau oherwydd Cyflwr Cyfarchol yn y Wyddeleg
[golygu | golygu cod]Cenedl Enw | Gwrywaidd | Benywaidd | |||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
Un. | Goddrychol | an fear mór | an buachaill mór | Seán | an bhean mhór | an deirfiúr mhór | Máire |
Genidol | an fhir mhóir | an bhuachalla mhóir | Sheáin | na mná móire | na deirféar móire | Mháire | |
Cyfarchol | a fhir mhóir | a bhuachaill mhóir | a Sheáin | a bhean mhór | a dheirfiúr mhór | a Mháire | |
Llu. | Goddrychol | na fir móra | na buachaillí móra | na mná móra | na deirfiúracha móra | ||
Genidol | na bhfear mór | na mbuachaillí móra | na mban mór | na ndeirfiúracha móra | |||
Cyfarchol | a fheara móra | a bhuachaillí móra | a mhná móra | a dheirfiúracha móra | |||
Cymraeg | y dyn mawr | y bachgen mawr | Siôn | y dynes fawr | y chwaer fawr | Mari |
Gaeleg - Cyflwr Cyfarchol, Treiglo Enwau Pobl
[golygu | golygu cod]Defnyddir treigliadau yn yr iaith Aeleg yn yr Alban i ddynodi'r cyflwr cyfarchol hefyd:
Goddrych | Cyflwr Cyfarchol |
---|---|
Caitrìona | a Chaitrìona |
Dòmhnall | a Dhòmhnaill |
Màiri | a Mhàiri |
Seumas | a Sheumais |
Ùna | Ùna |
cù | a choin |
Ieithoedd Slafonig
[golygu | golygu cod]Ceir y cyflwr cyfarchol mewn sawl iaith Slafonig, a dynodir hi fel terfyniad gair.
Bwlgareg
[golygu | golygu cod]Yn wahanol i ieithoedd Slafaidd eraill ac eithrio Macedoneg, mae Bwlgareg wedi colli dynodiad cyflyrau ar gyfer enwau. Fodd bynnag, mae Bwlgareg yn cadw'r cyflwr cyfarchol. Mae gan enwau gwrywaidd traddodiadol â diwedd cyfarchol fel rheol.
Nominative | Cyfarchol |
---|---|
Петър Petar | Петре Petre |
Тодор Todor | Тодоре Todore |
Иван Ivan | Иване Ivane |
Fe all fod gan enwau mwy diweddar neu thramor gyflwr cyfarchol ond bur anaml y defnyddir hyn (mae Ричарде, yn hytrach na'n syml Ричард Richard, yn swnio'n anarferol i siaradwyr cynhenid).
Mae ymadrodd cyfarchol megis господин министре (Mr Minister) bron wedi eu llwyr dileu gan y cyflyrau nominative forms, yn arbennig mewn ysgrifennu swyddogol. Mae gan enawu priod hefyd fel rheol ffurf cyfarchol, ond fe;u defnyddir yn llai aml. Ceir rhai enwau pris a ddefnyddir yn aml yn y cyflwr cyfarchol:
Gair Cymraeg | Enw Priod | Cyfarchol |
---|---|---|
Duw | Бог Bog | Боже Bozhe |
Arglwydd | Господ Gospod | Господи Gospodi |
Iesu Grist | Исус Христос Isus Hristos | Исусе Христе Isuse Hriste |
Cymrawd | другар drugar | другарю drugaryu |
Esgob | поп pop | попе pope |
Broga | жаба zhaba | жабо zhabo |
ffŵl | глупак glupak | глупако glupako |
Bydd y cyflwr cyfarchol yn bodoli fel rheol ar gyfer enwau i ferched:
Enw priod | Cyfarchol |
---|---|
Елена Elena | Елено Eleno |
Пена Pena | Пено Peno |
Елица Elitsa | Елице Elitse |
Радка Radka | Радке Radke |
Heblaw am ffurfiau sy'n gorffen gydag -е, fe'i ystyrir yn sarhaus ac fel rheoli fe'u hosgoir. Ar gyfer ffurfiau annwyl, defnyddir y cyflwr cyfarchol:
Gair Cymraeg | Enw priod | Cyfarchol |
---|---|---|
Nain | Баба Baba | Бабо Babo |
Mam | Майка Mayka Мама Mama |
Майко Mayko Мамо Mamo |
Modryb | Леля Lelya | Лельо Lelyo |
Chwaer | Сестра Sestra | Сестро Sestro |
Pwyleg
[golygu | golygu cod]Yn yr iaith Bwyleg mae'r cyflwr cyfarchol (wołacz mewn Pwyleg) yn peri i enwau benywaidd dderbyn -o (heblaw geiriau sy'n diweddu gyda -sia, -cia, -nia, a -dzia, sy'n derbyn -u, a'r rhai sy'n diweddu gyda -ść, dderbyn -i.
Mae enwau gwrywaidd yn dilyn patrwm cymhleth y cyflwr lleoliadol, ac eithro llond llaw o eiriau megus Bóg → Boże ("Duw"), ojciec → ojcze ("tâd") a chłopiec → chłopcze ("bachgen"). Mae enwau di-genedl a lluosog yn dilyn yr un ffurf yn y cyflwr enwadol ag yn y cyflwr cyfarchol.:
Goddrych | Cyflwr Cyfarchol |
---|---|
Benywaidd | |
Pani Ewa (Mrs. Eve) | Pani Ewo! (Mrs. Eve!) |
Ewusia (bychanig Ewa) | Ewusiu! |
ciemność (tywyllwch) | ciemności! |
książka (llyfr) | książko! |
Gwrywaidd | |
Pan profesor (Mr. Professor) | Panie profesorze! (Mr. Brofessor!) |
Krzysztof (Christopher) | Krzysztofie! (Christopher!) |
Krzyś (Chris) | Krzysiu! (Chris!) |
wilk (blaidd) | wilku! (flaidd!) |
człowiek (dyn/person) | człowieku! / człowiecze! (ddyn!) |
Slofaceg
[golygu | golygu cod]Hyd at yr 1908au roedd cyflwr cyfarchol arbennig gan yr iaith Slofaceg a adnabuwyd ac a ddysgwyd yn yr ysgolion. Bellach, nid ystyrir y cyflwr yn un byw ac arddelir hi ond mewn ffurfiau hynafol gan mwyaf ym maes crefydd neu lenyddiaeth neu mewn cyd-destun eironig.
Lithwaneg
[golygu | golygu cod]Ceir yn cyflwr cyfarchol yn ieithoedd byw y Baltig, Lithwaneg a Latfieg. Yn Lithwaneg:
- vyras → vyre ("gwas")
- brolis → broli" ("brawd")
Ieithoedd Romáwns
[golygu | golygu cod]Arferid y cyflwr cyfarchol yn y Lladin - gweler dyfyniad enwog, "Et tu Brute" gyda Brute yn ffurf gyfarchol ar yr enw "Brutus". Prin yr arddelir y cyfarchol yn y Ffrangeg ond mae'n bodoli mewn gwahanol ffurfiau mewn ieithoedd Romáwns eraill.
Rwmaneg
[golygu | golygu cod]Fel yn y Lladin a'r ieithoedd Slafonig cyfagos, gwelir y cyfarchol ar ddiwedd y gair yn yr iaith Rwmaneg:
- terfyniad "-e" i eiriau gwrywaidd:
- om → omule! ("dyn/gŵr")
- băiat → băiete! pe băiatule! ("bachgen - fachgen!")
- văr → vere! ("cefnder")
- Ion → Ioane!("Ioan")
- terfyniad -o" i eiriau benywaidd:
- soră → soro! ("chwaer")
- nebună → nebuno! ("dynes wallgo")
- Ileana → Ileano! ("Helen")
- terfyniad"-lor" i'r lluosog:
- fraţi → fraţilor! ("brodyr - frodyr!")
Catalaneg
[golygu | golygu cod]Bydd y Gatalaneg yn gollwng y fannod er mwyn ffurfio'r cyflwr cyfarchol. Yr arfer yw denfnyddio'r fannod wrth gyfeirio ar bobl ym mhob achos arall, er enghraifft. Mae hepgor y fannod yn dynodi sylw a pharch.
Dolenni
[golygu | golygu cod]- O Gymru gan Rhys Meirion ac Alys Williams enghraifft o'r cyflwr cyfarchol