Cwpan Hwngari
Cwpan Hwngari, (Hwngareg Magyar Kupa), yw'r gystadleuaeth gwpan genedlaethol ar gyfer timau clwb yn Hwngari. Trefnir hi gan Ffederasiwn Pêl-droed Hwngari (yn Magyar, Labdarúgó Szövetség) a sefydlwyd yn 1909-10, gyda'r ffeinal ym mis Medi 1019 rhwng MTK Budapest a Budapesti TC, gydag MTK yn ennill 4-1 yn y gêm ail-chwarae oherwydd mai 1-1 oedd sgôr y gêm gyntaf. Roedd hyn wyth mlynedd wedi i'r Ffederasiwn gynnal Cynghrair pêl-droed y wlad yn 1901.
Yn ogystal â chlybiau proffesiynol Hwngari, bydd nifer o glybiau amatur yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth. Bydd rhaid i'r clybiau llai hyn ennill rowndiau lleol cyn cyrraedd cymalau cenedlaethol.
Hanes
[golygu | golygu cod]Bu'n rhaid aros nes 1930 am y tro cyntaf i dîm o'r tu allan i'r brifddinas, Budapest ennill y ffeinal. Y tîm hwnnw oedd Bocskai FC o ddinas Debrecen.
Ar rhai adegau yn ei hanes, methwyd a chynnal y gystadleuaeth. Digwyddodd hyn yn 1956, oherwydd Gwrthryfel gwrth-Gomiwnyddol Hwngari y flwyddyn honno. Bu'n rhaid cynnal y rownd derfynol yn 1958 oherwydd hynny. Yn 1977 bu'n rhaid ail-chwarae'r ffeinal bedair gwaith. Rhwng 1993 ac 1997 ac yna eto yn 2008 a 2009 bu'n rhaid chwarae ail gêm oherwydd nid oedd enillydd y tro cyntaf.
Cwpan Newydd
[golygu | golygu cod]Yn 2017-08 cyflwynwyd cystadleuaeth cwpan newydd, sef y Ligakupa ("Cwpan y Gynghrair").
Llwyddiant
[golygu | golygu cod]Y clwb mwyaf llwyddiannus yn y gystadleuaeth hon yw Ferencvárosi T.C. sydd wedi ennill 23 gwaith. Yr ail dîm mwyaf llwyddiannus yw Budapest FC MTK gyda 12 teitl. Deiliad presennol y teitl (2018) yw Újpest Budapest.
Rhestr Enillwyr Cwpan Hwngari
[golygu | golygu cod]Clwb | Ennill | Ail | Blwyddyn |
---|---|---|---|
Ferencvárosi T.C. (gelwir hefyd yn Ferencváros) | 23 | 9 | 1913, 1922, 1927, 1928, 1933, 1935, 1942, 1943, 1944, 1958, 1972, 1974, 1976, 1978, 1991, 1993, 1994, 1995, 2003, 2004, 2015, 2016, 2017 |
MTK Budapest F.C. (MTK Hungária) | 12 | 3 | 1910, 1911, 1912, 1914, 1923, 1925, 1932, 1952, 1968, 1997, 1998, 2000 |
Újpest F.C. (Újpest Dózsa) | 10 | 7 | 1969, 1970, 1975, 1982, 1983, 1987, 1992, 2002, 2014, 2018 |
Budapest Honvéd F. C. (Kispest) | 7 | 10 | 1926, 1964, 1985, 1989, 1996, 2007, 2009 |
Debreceni V.S.C. | 6 | 2 | 1999, 2001, 2008, 2010, 2012, 2013 |
Győri ETO F.C. | 4 | 4 | 1965, 1966, 1967, 1979 |
Vasas Budapest S.C. | 4 | 4 | 1955, 1973, 1981, 1986 |
Diósgyőri V.T.K. | 2 | 4 | 1977, 1980 |
Videoton F. C. (F. C. Fehérvár) | 1 | 4 | 2006 |
Pécsi Mecsek F. C. | 1 | 2 | 1990 |
Bocskai FC Debrecen | 1 | - | 1930 |
III. Kerületi TVE | 1 | - | 1931 |
Soroksár Erzsébet | 1 | - | 1934 |
Szolnoki MÁV | 1 | - | 1941 |
Siófoki Bányász | 1 | - | 1984 |
Békéscsaba Előre S. C. | 1 | - | 1988 |
MATÁV Sopron | 1 | - | 2005 |
Kecskeméti TE | 1 | - | 2011 |
Salgótarján | – | ||
Szombathelyi Haladás | – | ||
Tatabánya F. C. | – | ||
Dunakanyar-Vác F. C. | – | ||
Budapesti Vasutas Sport Club | – | ||
Koml��i Bányász S. K. | – | ||
Magyar A. C. | – | ||
Miskolci Attila A. K. | – | ||
Budapesti A. K. | – | ||
Szegedi Bástya A. K. | – | ||
Budapesti E. A. C. | – | ||
BKV Előre S. C. | – | ||
Budapesti T. C. | – | ||
Dorogi F. C. | – | ||
Zalaegerszeg T. E. | – | ||
Kolozsvár | – | ||
Puskás Akadémia F. C. | – |