Cerddorfa Siambr Ewrop
Enghraifft o'r canlynol | cerddorfa |
---|---|
Dod i'r brig | 1981 |
Dechrau/Sefydlu | 1981 |
Lleoliad | Llundain |
Enw brodorol | Chamber Orchestra of Europe |
Gwefan | https://www.coeurope.org |
Mae Cerddorfa Siambr Ewrop, yn gerddorfa siambr, a grëwyd yn Llundain ym 1981. Mae'r gerddorfa yn cael ei ffurfio gan oddeutu 60 o aelodau o bob rhan o'r Gymuned Ewropeaidd.
Hanes
[golygu | golygu cod]Mae Cerddorfa Siambr Ewrop, a sefydlwyd ym 1981, wedi'i leoli'n weinyddol yn Llundain. Mae'r gerddorfa yn cynnwys tua 60 o aelodau yn dod o bob rhan o Ewrop. Mae'r cerddorion yn dilyn gyrfaoedd cyfochrog fel unawdwyr rhyngwladol, aelodau o grwpiau siambr amlwg, ac fel tiwtoriaid ac athrawon cerddoriaeth. Mae'r gerddorfa'n derbyn cefnogaeth sylweddol gan Sefydliad Elusennol Gatsby ac Ymddiriedolaeth Underwood;[1] nid oes ganddynt neuadd breswyl nac arweinydd preswyl penodedig. Mae'r gerddorfa yn elusen gofrestredig o dan gyfraith Lloegr.[2]
Daeth y syniad o greu'r gerddorfa gan gerddorion yng Ngherddorfa Ieuenctid y Gymuned Ewropeaidd, gan aelodau oedd dros y terfyn oedran ar gyfer y Gerddorfa Ieuenctid ac a oedd am barhau i weithio gyda'i gilydd mewn cyd-destun cerddorfa siambr. Roedd yr aelodau sylfaenol yn cynnwys Douglas Boyd oböydd, a wasanaethodd fel prif oböydd Cerddorfa Siambr Ewrop o 1981 i 2002. Dros y blynyddoedd mae Cerddorfa Siambr Ewrop wedi datblygu perthynas gref â Claudio Abbado, Bernard Haitink a'r diweddar Nikolaus Harnoncourt, ynghyd â Thomas Adès, Pierre-Laurent Aimard, Emanuel Ax, Lisa Batiashvili, Joshua Bell, y diweddar Paavo Berglund, Renaud Capuçon a Gautier Capuçon, Isabelle Faust, Janine Jansen, Vladimir Jurowski, Leonidas Kavakos, Radu Lupu, Yannick Nézet-Séguin, Sakari Oramo, Murray Perahia, Maria João Pires, Syr András Schiff a Rolando Villazon.
Mae Cerddorfa Siambr Ewrop yn perfformio'n rheolaidd ym mhrif ddinasoedd Ewrop, gydag ymweliadau achlysurol i'r Unol Daleithiau, Hong Cong, Japan ac Awstralia. Mae gan Gerddorfa Siambr Ewrop gysylltiadau cryf â'r Alte Oper yn Frankfurt, Gŵyl Styriarte yn Graz, Gŵyl Lucerne, yn ogystal â'r Kölner Philharmonie (de) yn Cologne, y Philharmonie de Paris a'r Concertgebouw yn Amsterdam. O 2007 i 2013, penodwyd Cerddorfa Siambr Ewrop yn Llysgennad Diwylliannol gan yr Undeb Ewropeaidd yn ei Rhaglen Ddiwylliant. Creodd Cerddorfa Siambr Ewrop Academi Cerddorfa Siambr Ewrop yn 2009 er mwyn darparu cyfleoedd i fyfyrwyr cerddoriaeth dawnus astudio gyda cherddorion Cerddorfa Siambr Ewrop.
Effaith Brexit
[golygu | golygu cod]Yn dilyn canlyniad y refferendwm Brexit yn y DU, cyhoeddwyd yn 2018 mai cartref newydd Cerddorfa Siambr Ewrop fydd y Casals Forum a leolir yn Kronberg im Taunus, yr Almaen, o 2021.[3]
Recordiau
[golygu | golygu cod]Mae'r gerddorfa wedi gwneud dros 250 o recordiadau masnachol ar gyfer yr holl gwmnïau recordio mawr gyda nifer amrywiol o arweinyddion, gan gynnwys Claudio Abbado,[4] y diweddar Paavo Berglund,[5] Nikolaus Harnoncourt,[6][7] a Yannick Nézet-Séguin. Mae'r gerddorfa wedi ennill nifer o wobrau am ei recordiadau gan gynnwys tair Gwobr Gramophone ar gyfer Record y Flwyddyn a dau Grammy. Cerddorfa Siambr Ewrop oedd y gerddorfa gyntaf i greu ei label ei hun, "COE Records", mewn cydweithrediad â Recordiau ASV, a ddosbarthir bellach gan Sanctuary / Universal Music.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Geoffrey Norris (2006-04-27). "The best chamber orchestra in the world". Telegraph. Cyrchwyd 2009-12-27.
- ↑ "Comisiwn Elusenau Cymru a Lloegr Elusen Rhif 283484 - THE CHAMBER ORCHESTRA OF EUROPE". Comisiwn Elusenau Cymru a Lloegr. 25 Gorffennaf 2018. Cyrchwyd 18 Tachwedd 2018.
- ↑ Bachmann, Jan (2018-10-25). "Das einzig Positive am Brexit". faz.net (yn Almaeneg). Frankfurter Allgemeine. Cyrchwyd 2018-10-28.
- ↑ Andrew Clements (2003-06-27). "Schubert: Lieder, orchestrated by Berlioz, Offenbach, Liszt, Brahms, Reger, Webern and Britten: Von Otter/Quasthoff/Chamber Orchestra of Europe/Abbado". The Guardian. Cyrchwyd 2009-12-27.
- ↑ Andrew Clements (2001-07-20). "Chamber of wonders". The Guardian. Cyrchwyd 2009-12-27.
- ↑ Andrew Clements (2003-02-28). "Beethoven: Piano Concertos Nos 1 -5: Aimard/Chamber Orchestra of Europe/Harnoncourt". The Guardian. Cyrchwyd 2009-12-27.
- ↑ Andrew Clements (2009-11-19). "Gershwin: Porgy and Bess: Lemalu/Kabatu/Nwobilo/Forest/Arnold Schoenberg Choir/Chamber Orchestra of Europe/Harnoncourt". The Guardian. Cyrchwyd 2009-12-27.