Cerdd Dant
Diwylliant Cymru |
---|
Traddodiad |
Llenyddiaeth |
Cerddoriaeth |
Bwyd |
Dathliadau a gwyliau |
Chwaraeon |
Crefydd |
Hanes |
WiciBrosiect Cymru |
Math draddodiadol o gerddoriaeth sy'n unigryw i Gymru yw Cerdd Dant (weithiau Cerdd Dannau) neu canu penillion.
Hanes
[golygu | golygu cod]Yn yr Oesoedd Canol roedd Cerdd Dant yn sefyll ochr yn ochr â Cherdd Dafod ac yn cynrychioli crefft y cerddor o'i gwahaniaethu oddi wrth crefft y bardd. Roeddynt yn perthyn yn agos i'w gilydd. Credir fod y beirdd - neu'r datgeiniaid - yn arfer datgan eu cerddi i gyfeiliant cerddorol, ond mae'r manylion yn ansicr.
Heddiw, gellir diffinio'r grefft Cerdd Dant fel: y canwr (neu grŵp o gantorion) yn canu barddoniaeth mewn gwrthbwynt ag alaw neu gainc a chwaraeir fel arfer ar y delyn. Mae llawer o gystadleuthau cerdd dant mewn eisteddfodau, a chynhelir yr Ŵyl Gerdd Dant yn flynyddol. Mae Cerdd Dant, bellach, yn llawer mwy caeth i reolau nag ydoedd gan mlynedd yn ôl; gellir dweud mai effaith cystadlu yw hyn.
Sefydlwyd y Gymdeithas Cerdd Dant yn 1934.[1]
Nodweddion
[golygu | golygu cod]Mae cerdd dant yn cynnwys canu'r delyn a chanwr/chantorion. Cenir y geiriau dros gyfeiliant y delyn. Mae’r delyn yn cychwyn drwy chwarae cainc ac wedyn ymuna'r canwr/cantorion gan ganu barddoniaeth ar alaw hollol wahanol, ac mae'r ddau yn gorffen ar union yr un pryd. O'r 20g daw’r recordiau cynharaf o ganu cerdd ddant. Dyma enghraifft o ddarn o farddoniaeth sy’n cyd-fynd gyda'r delyn:
- Y gŵr a garo grwth a thelyn,
- Sain cynghanedd cân ac englyn,
- A gâf y pethau mwyaf tirion,
- Sy’n y nef ymhlith angylion.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Aled Lloyd Davies, Hud a Hanes Cerdd Dannau (1984)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Gŵyl Cerdd Dant". Gwefan Cymdeithas Cerdd Dant. Cyrchwyd 17 Ebrill 2024.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Cerdd Dafod
- Lewis Thomas (1877-1955)
- Cymdeithas Cerdd Dant Cymru