Bywyd
Enghraifft o'r canlynol | nodwedd, ffenomen naturiol, proses fiolegol |
---|---|
Math | bodolaeth, lyfe |
Yn cynnwys | proses fiolegol, metabolaeth |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Bywyd yw'r hyn sy'n galluogi organeb fyw i gymhwyso deunydd heb fywyd o'i hamgylchedd a'i ddefnyddio i dyfu mewn maint a chymhlethder, i adnewyddu ei deunydd biolegol ei hun ac i atgynhyrchu organebau eraill annibynnol sydd hefyd yn meddu ar nodweddion bywyd.
Credir fod bywyd ar y Ddaear wedi dechrau tua 4,500,000,000 o flynyddoedd yn ôl (mae amcangyfrifon mwy ceidwadol yn ei dyddio i o gwmpas 3,000 miliwn o flynyddoedd yn ôl). Y pryd hynny roedd yr awyr wedi'i chyfansoddi o nwyon methan, hydrogen, amonia a stêm dŵr. Credir i organebau moleciwlaidd syml gael eu ffurfio mewn canlyniad i'r grym a ollyngid gan belydrau'r haul, mellt a ffrwydriadau llosgfynyddoedd. Organebau ungellog oeddynt.
Mae'n dra thebygol mai yn y môr y datblygodd yr organebau cyntefig hyn i gynnwys enseimau (enzymes) a datblygu'n organebau amlgellog a gynhyrchai RNA a DNA. Gyda threigliad maith iawn amser - tua 1,500,000,000 neu ragor o flynyddoedd - arweiniodd hyn at y planhigion cyntefig cyntaf oedd yn gallu dal grym y goleuni a datblygu ffotosynthesis.
Y canlyniad oedd i ocsigen gael ei rhyddhau i'r awyr ar raddfa cynyddol, proses a ddechreuodd tua 2,000 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Erbyn tua 400 miliwn roedd yr haen oson yn yr awyrgylch yn ddigon trwchus i gysgodi'r tir rhag ymbelydredd uwchfioled gan ei gwneud yn haws o lawer i blanhigion mwy cymhleth a'r anifeiliad cyntefig cyntaf oroesi. Daeth y rhan fwyaf o bethau byw i ddefnyddio anadlu aerobig a dechreuodd bywyd amlhau ar wyneb y ddaear.
Y genyn yw'r uned etifeddol, a'r gell yw'r uned adeileddol a swyddogaethol bywyd.[1][2] Mae dau fath o gell, procaryotig ac ewcaryotig, ac mae'r ddau ohonynt yn cynnwys cytoplasm wedi'i amgáu o fewn pilen ac yn cynnwys llawer o fiomoleciwlau megis protin ac asid niwclëig. Mae celloedd yn atgenhedlu trwy broses o gellraniad, lle mae'r rhiant-gell yn rhannu'n ddwy neu fwy epilgell ac yn trosglwyddo ei genynnau i genhedlaeth newydd, gan gynhyrchu amrywiad genetig weithiau.
Yn gyffredinol, credir bod organebau yn systemau agored sy'n cynnal homeostasis, sy'n cynnwys celloedd, sydd â chylch bywyd, sydd a metaboledd, sy'n gallu tyfu, addasu i'w hamgylchedd, ymateb i ysgogiadau, atgenhedlu ac esblygu dros sawl cenhedlaeth. Mae diffiniadau eraill weithiau'n cynnwys ffurfiau bywyd angellog fel firysau a firoidau, ond maent fel arfer yn cael eu heithrio oherwydd nad ydynt yn gweithredu ar eu pen eu hunain; yn hytrach, maent yn manteisio ar brosesau biolegol gwesteiwyr.[3][4]
Marwolaeth yw terfyniad parhaol yr holl brosesau biolegol sy'n cynnal organeb, ac felly, marwolaeth yw diwedd ei fywyd. Difodiant yw'r term sy'n disgrifio marwolaeth grŵp, tacson, neu rywogaeth fel arfer. Unwaith y byddant wedi darfod, ni all y rhywogaeth neu'r tacson diflanedig ddod yn ôl yn fyw. Gweddillion neu olion organebau sydd wedi'u cadw yw ffosilau.
Diffiniadau
[golygu | golygu cod]Mae diffiniad bywyd wedi bod yn her i wyddonwyr ac athronwyr ers tro.[5][6][7] Mae hyn yn rhannol oherwydd bod bywyd yn broses, nid yn sylwedd.[8][9][10] Cymhlethir hyn gan ddiffyg gwybodaeth am nodweddion endidau byw, os o gwbl, a allai fod wedi datblygu y tu allan i'r Ddaear.[11][12] Mae diffiniadau athronyddol o fywyd hefyd wedi'u cyflwyno, gydag anawsterau tebyg ar sut i wahaniaethu rhwng pethau byw a phethau anfyw.[13] Mae diffiniadau cyfreithiol o fywyd hefyd wedi’u disgrifio a’u trafod, er bod y rhain yn canolbwyntio’n gyffredinol ar y penderfyniad i ddatgan fod person wedi marw, a goblygiadau cyfreithiol y penderfyniad hwn.[14] Ceir cymaint â 123 o ddiffiniadau o fywyd wedi'u llunio.[15]
Bioleg
[golygu | golygu cod]Gan nad oes consensws ar gyfer y diffiniad o fywyd, mae'r rhan fwyaf o ddiffiniadau cyfredol mewn bioleg yn ddisgrifiadol. Ystyrir bod bywyd yn nodwedd o rywbeth sy'n cadw, yn hybu neu'n atgyfnerthu ei fodolaeth yn yr amgylchedd penodol. Mae'r nodwedd hon yn arddangos y cyfan neu'r rhan fwyaf o'r nodweddion canlynol:[7][16][17][18][19][20][21]
- Homeostasis: rheoleiddio'r amgylchedd mewnol i gynnal cyflwr cyson; er enghraifft, chwysu i ostwng tymheredd
- Trefniadaeth: bod wedi'i gyfansoddi'n strwythurol o un neu fwy o gelloedd – unedau sylfaenol bywyd
- Metabolaeth: trawsnewid egni trwy drosi cemegau ac egni yn gydrannau cellog (anaboliaeth) a dadelfennu mater organig (catabolism). Mae angen egni ar bethau byw i gynnal trefniadaeth fewnol (homeostasis) ac i gynhyrchu'r ffenomenau eraill sy'n gysylltiedig â bywyd.
- Twf: cynnal cyfradd uwch o anaboliaeth na cataboliaeth. Mae organeb sy'n tyfu yn cynyddu mewn maint yn ei holl rannau, yn hytrach na dim ond cronni mater.
- Addasu: y broses esblygiadol lle mae organeb yn dod yn fwy abl i fyw yn ei gynefin neu ei gynefinoedd.[22][23][24]
- Ymateb i ysgogiadau: gall ymateb fod ar sawl ffurf, o gyfangiad organeb ungellog i gemegau allanol, i adweithiau cymhleth sy'n cynnwys holl synhwyrau organebau amlgellog. Mae ymateb yn aml yn cael ei fynegi trwy gynnig; er enghraifft, dail planhigyn yn troi tuag at yr haul (ffototropiaeth), a chemotaxis.
- Atgenhedlu: y gallu i gynhyrchu organebau unigol newydd, naill ai'n anrhywiol o organeb un rhiant neu'n rhywiol o organebau dau riant.
Mae gan y prosesau cymhleth hyn, a elwir yn swyddogaethau ffisiolegol, seiliau ffisegol a chemegol sylfaenol, yn ogystal â mecanweithiau signalau a rheoli sy'n hanfodol i gynnal bywyd.
Firysau
[golygu | golygu cod]Mae'n ddadleuol a ddylid ystyried bod firysau'n fyw ai peidio. Cant eu hystyried gan amlaf fel dim ond atgynhyrchwyr codio genynnau yn hytrach na mathau o fywyd.[25] Disgrifir nhw fel "organebau ar gyrion bywyd"[26] oherwydd bod ganddynt enynnau a gan eu bod yn esblygu trwy ddetholiad naturiol,[27][28] ac yn atgynhyrchu trwy wneud copïau lluosog ohonynt eu hunain. Fodd bynnag, nid yw firysau yn metaboleiddio ac mae angen cell letyol arnynt i wneud copiau ohonynt eu hunain.[29][30][31]
Tarddiad
[golygu | golygu cod]Mae oedran y Ddaear tua 4.54 biliwn o flynyddoedd.[32][33][34] Ceir tystiolaeth sy'n awgrymu bod bywyd ar y Ddaear wedi bodoli am o leiaf 3.5 biliwn o flynyddoedd,[35][36][37][38][39][40][41]gyda'r olion corfforol hynaf o fywyd yn dyddio'n ôl 3.7 biliwn o flynyddoedd; [42] [43] [44] fodd bynnag, mae rhai damcaniaethau yn awgrymu y gallai bywyd ar y Ddaear fod wedi dechrau hyd yn oed yn gynharach na hynny, mor gynnar â 4.1–4.4 biliwn o flynyddoedd yn ôl,[35][36][37][38][39] ac efallai bod y cemeg sy'n arwain at fywyd wedi dechrau yn fuan ar ôl y Glec Fawr, 13.8<span typeof="mw:Entity" id="mwAm4"> </span>biliwn o flynyddoedd yn ôl, yn ystod epoc pan oedd y bydysawd yn ddim ond 10-17 miliwn o flynyddoedd oed.[45][46][47] Yn gyffredinol, mae amcangyfrifon amser o glociau moleciwlaidd yn gosod tarddiad bywyd tua 4.0 biliwn o flynyddoedd yn ôl neu'n gynharach.[48]
Amcangyfrifir bod mwy na 99% o'r holl rywogaethau, sef dros bum biliwn o rywogaethau, [49] sydd wedi byw ar y Ddaear ers dechrau amser, wedi eu difodi.[50][51]
Er bod nifer y rhywogaethau sydd wedi'u catalogio ar y Ddaear rhwng 1.2 miliwn a 2 filiwn, [52] [53] mae cyfanswm y rhywogaethau ar y blaned yn ansicr. ceir amcangyfrifon sy'n amrywio o 8 miliwn i 100 miliwn,[52][53] gydag amrediad arall, mwy cul rhwng 10 a 14 miliwn,[52] ond gall fod mor uchel ag 1 triliwn (gyda dim ond un filfed o un y cant o'r rhywogaethau a ddisgrifiwyd) yn ôl astudiaethau a gyhoeddwyd ym Mai 2016.[54][55] Amcangyfrifir bod cyfanswm y parau o fasau DNA (DNA base pairs) cysylltiedig ar y Ddaear yn 5.0 x 1037 ac yn pwyso 50 biliwn tunelli.[56] Mewn cymhariaeth, amcangyfrifwyd bod cyfanswm màs y biosffer cymaint â 4 TtC (triliwn tunnell o garbon).[57] Yng Ngorffennaf 2016, nododd gwyddonwyr eu bod wedi nodi set o 355 o enynnau o'r Hynafiaid Cyffredin Olaf (Last Universal Ancestor (LUCA)) o'r holl organebau sy'n byw ar y Ddaear.[58]
Nid oes consensws gwyddonol ar hyn o bryd ynghylch sut y tarddodd bywyd. Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o fodelau gwyddonol a dderbynnir yn adeiladu ar arbrawf Miller-Urey a gwaith Sidney Fox, sy'n dangos bod amodau ar y Ddaear cyntefig yn ffafrio adweithiau cemegol sy'n syntheseiddio asidau amino a chyfansoddion organig eraill o ragflaenwyr anorganig,[59] a ffosffolipidau yn ffurfio haenau lipid, adeiledd sylfaenol y cellbilen.
Dosbarthiad
[golygu | golygu cod]Hynafiaeth
[golygu | golygu cod]Cynhaliwyd yr ymgais gyntaf y gwyddys amdani i ddosbarthu organebau gan yr athronydd Groegaidd Aristotle (384–322 CC), a ddosbarthodd yr holl organebau byw a adnabyddir bryd hynny naill ai fel planhigyn neu anifail, yn seiliedig yn bennaf ar eu gallu i symud. Gwahaniaethodd hefyd anifeiliaid â gwaed oddi wrth anifeiliaid heb waed (neu o leiaf heb waed coch), y gellir eu cymharu â'r cysyniadau o fertebratau ac infertebratau yn y drefn honno, a rhannodd yr anifeiliaid gwaed yn bum grŵp: mamaliaid, ymlusgiaid ac amffibiaid, adar, pysgod a morfilod. Rhannwyd yr anifeiliaid di-waed hefyd yn bum grŵp: sef seffalopodau, cramenogion, trychfilod (a oedd yn cynnwys y pryfed cop, sgorpionau, a nadroedd cantroed, yn ychwanegol at yr hyn a ddiffiniwn fel pryfed heddiw), anifeiliaid cregyn (fel y rhan fwyaf o folysgiaid ac echinodermau), a sŵoffytau (sef anifeiliaid sy'n debyg i blanhigion). Er nad oedd gwaith Aristotle mewn sŵoleg yn ddi-wall, dyma oedd synthesis biolegol mwyaf mawreddog y cyfnod a pharhaodd yr awdurdod eithaf am ganrifoedd lawer ar ôl ei farwolaeth.[60]
Carolus Linnaeus
[golygu | golygu cod]Datgelodd archwilio'r Americas niferoedd mawr o blanhigion ac anifeiliaid newydd yr oedd angen disgrifiadau a dosbarthiad arnynt. Yn rhan olaf yr 16g a dechrau'r 17g, dechreuwyd astudio anifeiliaid yn ofalus ac ymestynnwyd hyn yn raddol nes iddo ffurfio corff digonol o wybodaeth i wasanaethu fel sail anatomegol ar gyfer dosbarthu.
Ar ddiwedd y 1740au, cyflwynodd Carolus Linnaeus ei system o enwau deuenwol ar gyfer dosbarthu rhywogaethau. Ceisiodd Linnaeus
- gyflwyno termau disgrifiadol newydd a diffinio'u hystyr yn fanwl gywir.[61] Mae gan y dosbarthiad Linnaean wyth lefel: parthau, teyrnasoedd, ffyla, dosbarth, trefn, teulu, genws, a rhywogaeth.
- wella'r cyfansoddiad a lleihau hyd yr enwau aml-eiriog a ddefnyddiwyd yn flaenorol.
Yn wreiddiol, roedd ffyngau'n cael eu trin fel planhigion. Am gyfnod byr roedd Linnaeus wedi eu dosbarthu yn y tacson Vermes yn Animalia, ond yn ddiweddarach gosodwyd nhw yn ôl yn Plantae. Dosbarthodd Copeland y Ffyngau yn ei Protoctista, gan osgoi'r broblem yn rhannol ond gan gydnabod eu statws arbennig.[62] Datryswyd y broblem yn y diwedd gan Whittaker, pan roddodd eu teyrnas eu hunain iddynt yn ei system pum teyrnas. Mae hanes esblygiadol yn dangos bod y ffyngau yn perthyn yn nes i anifeiliaid nag i blanhigion.[63]
Celloedd
[golygu | golygu cod]Uned sylfaenol o adeiledd ym mhob peth byw yw celloedd. Ffurfiwyd y theori celloedd gan Henri Dutrochet, Theodor Schwann, Rudolf Virchow ac eraill yn gynnar yn 19g, ac wedi hynny daeth yn dderbyniol iawn.[64] Mae gweithgaredd organeb yn dibynnu ar gyfanswm gweithgaredd ei gelloedd, gyda llif egni'n digwydd oddi mewn iddynt a rhyngddynt. Mae celloedd yn cynnwys gwybodaeth etifeddol a gaiff ei basio ymlaen fel cod genetig yn ystod cellraniad.[65]
Artiffisial
[golygu | golygu cod]Mae bywyd artiffisial yn efelychiad o unrhyw agwedd ar fywyd, megis trwy gyfrifiaduron, roboteg, neu fiocemeg.[66] Mae astudio bywyd artiffisial yn dynwared bioleg draddodiadol trwy ail-greu rhai agweddau ar ffenomenau biolegol. Astudia'r gwyddonydd y systemau byw trwy greu amgylcheddau artiffisial - gan geisio deall y prosesu gwybodaeth cymhleth sy'n diffinio systemau o'r fath. Tra bod bywyd, trwy ddiffiniad, yn fyw, cyfeirir at fywyd artiffisial yn gyffredinol fel data sydd wedi'i gyfyngu i amgylchedd digidol a bodolaeth.
Mae bioleg synthetig yn faes biotechnoleg newydd sy'n cyfuno gwyddoniaeth a pheirianneg fiolegol. Y nod cyffredin yw dylunio ac adeiladu swyddogaethau a systemau biolegol newydd nad ydynt i'w cael ym myd natur. Mae bioleg synthetig yn cynnwys ailddiffinio ac ehangu biotechnoleg yn eang, gyda'r nodau eithaf o allu dylunio ac adeiladu systemau biolegol peirianyddol sy'n prosesu gwybodaeth, trin cemegau, gwneud deunyddiau a strwythurau, cynhyrchu ynni, darparu bwyd, a chynnal a gwella iechyd dynol a'r Amgylchedd.[67]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Parth Glas - ardal ddemograffig a/neu ddaearyddol yn y byd lle y mae llawer o bobl yn byw bywydau hir.
- Astrofioleg
- Esblygiad
- Marwolaeth
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "2.2: The Basic Structural and Functional Unit of Life: The Cell". LibreTexts. 2 June 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 March 2020. Cyrchwyd 29 March 2020.
- ↑ Bose, Debopriya (14 May 2019). "Six Main Cell Functions". Leaf Group Ltd./Leaf Group Media. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 March 2020. Cyrchwyd 29 March 2020.
- ↑ "Virus". Genome.gov (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 May 2022. Cyrchwyd 25 July 2022.
- ↑ "Are Viruses Alive?". Yellowstone Thermal Viruses (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 June 2022. Cyrchwyd 25 July 2022.
- ↑ Tsokolov, Serhiy A. (May 2009). "Why Is the Definition of Life So Elusive? Epistemological Considerations". Astrobiology 9 (4): 401–12. Bibcode 2009AsBio...9..401T. doi:10.1089/ast.2007.0201. PMID 19519215.
- ↑ Emmeche, Claus (1997). "Defining Life, Explaining Emergence". Niels Bohr Institute. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 March 2012. Cyrchwyd 25 May 2012.
- ↑ 7.0 7.1 McKay, Chris P. (14 September 2004). "What Is Life—and How Do We Search for It in Other Worlds?". PLOS Biology 2 (9): 302. doi:10.1371/journal.pbio.0020302. PMC 516796. PMID 15367939. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=516796.
- ↑ Mautner, Michael N. (1997). "Directed panspermia. 3. Strategies and motivation for seeding star-forming clouds". Journal of the British Interplanetary Society 50: 93–102. Bibcode 1997JBIS...50...93M. http://www.astro-ecology.com/PDFDirectedPanspermia3JBIS1997Paper.pdf.
- ↑ Mautner, Michael N. (2000). Seeding the Universe with Life: Securing Our Cosmological Future (PDF). Washington D.C. ISBN 978-0-476-00330-9.
- ↑ McKay, Chris (18 September 2014). "What is life? It's a Tricky, Often Confusing Question". Astrobiology Magazine.
- ↑ Nealson, K.H.; Conrad, P.G. (December 1999). "Life: past, present and future". Philosophical Transactions of the Royal Society of London B 354 (1392): 1923–39. doi:10.1098/rstb.1999.0532. PMC 1692713. PMID 10670014. https://royalsociety.org/journals/.
- ↑ Mautner, Michael N. (2009). "Life-centered ethics, and the human future in space". Bioethics 23 (8): 433–40. doi:10.1111/j.1467-8519.2008.00688.x. PMID 19077128. http://www.astro-ecology.com/PDFLifeCenteredBioethics2009Paper.pdf.
- ↑ Jeuken M (1975). "The biological and philosophical defitions of life". Acta Biotheoretica 24 (1–2): 14–21. doi:10.1007/BF01556737. PMID 811024.
- ↑ Capron AM (1978). "Legal definition of death". Annals of the New York Academy of Sciences 315 (1): 349–62. Bibcode 1978NYASA.315..349C. doi:10.1111/j.1749-6632.1978.tb50352.x. PMID 284746.
- ↑ Trifonov, Edward N. (17 March 2011). "Vocabulary of Definitions of Life Suggests a Definition". Journal of Biomolecular Structure and Dynamics 29 (2): 259–266. doi:10.1080/073911011010524992. PMID 21875147.
- ↑ Koshland, Daniel E. Jr. (22 March 2002). "The Seven Pillars of Life". Science 295 (5563): 2215–16. doi:10.1126/science.1068489. PMID 11910092. https://archive.org/details/sim_science_2002-03-22_295_5563/page/2215.
- ↑ "life". The American Heritage Dictionary of the English Language (arg. 4th). Houghton Mifflin. 2006. ISBN 978-0-618-70173-5.
- ↑ "Life". Merriam-Webster Dictionary. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 December 2021. Cyrchwyd 25 July 2022.
- ↑ "Habitability and Biology: What are the Properties of Life?". Phoenix Mars Mission. The University of Arizona. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 April 2014. Cyrchwyd 6 June 2013.
- ↑ Trifonov, Edward N. (2012). "Definition of Life: Navigation through Uncertainties". Journal of Biomolecular Structure & Dynamics 29 (4): 647–50. doi:10.1080/073911012010525017. ISSN 0739-1102. PMID 22208269. http://www.jbsdonline.com/mc_images/category/4317/21-trifonov-jbsd_29_4_2012.pdf. Adalwyd 12 January 2012.
- ↑ Zimmer, Carl (11 January 2012). "Can scientists define 'life' ... using just three words?". NBC News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 April 2016. Cyrchwyd 12 November 2016.
- ↑ Dobzhansky, Theodosius (1968). "On Some Fundamental Concepts of Darwinian Biology". Evolutionary Biology. Boston, MA: Springer US. tt. 1–34. doi:10.1007/978-1-4684-8094-8_1. ISBN 978-1-4684-8096-2.
|access-date=
requires|url=
(help) - ↑ Wang, Guanyu (2014). Analysis of complex diseases : a mathematical perspective. Boca Raton. ISBN 978-1-4665-7223-2. OCLC 868928102. Cyrchwyd 23 July 2022.
- ↑ Sejian, Veerasamy; Gaughan, John; Baumgard, Lance; Prasad, C. S., gol. (2015). Climate change impact on livestock : adaptation and mitigation. New Delhi. ISBN 978-81-322-2265-1. OCLC 906025831. Cyrchwyd 23 July 2022.
- ↑ Koonin, E.V.; Starokadomskyy, P. (7 March 2016). "Are viruses alive? The replicator paradigm sheds decisive light on an old but misguided question". Stud Hist Philos Biol Biomed Sci 59: 125–34. doi:10.1016/j.shpsc.2016.02.016. PMC 5406846. PMID 26965225. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=5406846.
- ↑ Rybicki, EP (1990). "The classification of organisms at the edge of life, or problems with virus systematics". S Afr J Sci 86: 182–86. https://archive.org/details/sim_south-african-journal-of-science_1990-04_86_4/page/182.
- ↑ Holmes, E.C. (October 2007). "Viral evolution in the genomic age". PLOS Biol. 5 (10): e278. doi:10.1371/journal.pbio.0050278. PMC 1994994. PMID 17914905. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=1994994.
- ↑ Forterre, Patrick (3 March 2010). "Defining Life: The Virus Viewpoint". Orig Life Evol Biosph 40 (2): 151–60. Bibcode 2010OLEB...40..151F. doi:10.1007/s11084-010-9194-1. PMC 2837877. PMID 20198436. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2837877.
- ↑ Koonin, E.V.; Senkevich, T.G.; Dolja, V.V. (2006). "The ancient Virus World and evolution of cells". Biology Direct 1: 29. doi:10.1186/1745-6150-1-29. PMC 1594570. PMID 16984643. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=1594570.
- ↑ Rybicki, Ed (November 1997). "Origins of Viruses". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 May 2009. Cyrchwyd 12 April 2009.
- ↑ "Giant Viruses Shake Up Tree of Life". Astrobiology Magazine. 15 September 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 September 2012. Cyrchwyd 13 November 2016.
- ↑ "Age of the Earth". U.S. Geological Survey. 1997. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 December 2005. Cyrchwyd 10 January 2006.
- ↑ Dalrymple, G. Brent (2001). "The age of the Earth in the twentieth century: a problem (mostly) solved". Special Publications, Geological Society of London 190 (1): 205–21. Bibcode 2001GSLSP.190..205D. doi:10.1144/GSL.SP.2001.190.01.14.
- ↑ Manhesa, Gérard; Allègre, Claude J.; Dupréa, Bernard; Hamelin, Bruno (1980). "Lead isotope study of basic-ultrabasic layered complexes: Speculations about the age of the earth and primitive mantle characteristics". Earth and Planetary Science Letters 47 (3): 370–82. Bibcode 1980E&PSL..47..370M. doi:10.1016/0012-821X(80)90024-2. https://archive.org/details/sim_earth-and-planetary-science-letters_1980-05_47_3/page/370.
- ↑ 35.0 35.1 Tenenbaum, David (14 October 2002). "When Did Life on Earth Begin? Ask a Rock". Astrobiology Magazine. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 May 2013. Cyrchwyd 13 April 2014.
- ↑ 36.0 36.1 Borenstein, Seth (19 October 2015). "Hints of life on what was thought to be desolate early Earth". Associated Press. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 April 2019. Cyrchwyd 9 October 2018.
- ↑ 37.0 37.1 Bell, Elizabeth A.; Boehnike, Patrick; Harrison, T. Mark; Mao, Wendy L. (19 October 2015). "Potentially biogenic carbon preserved in a 4.1 billion-year-old zircon". Proc. Natl. Acad. Sci. U.S.A. 112 (47): 14518–21. arXiv:3. Bibcode 2015PNAS..11214518B. doi:10.1073/pnas.1517557112. ISSN 1091-6490. PMC 4664351. PMID 26483481. http://www.pnas.org/content/early/2015/10/14/1517557112.full.pdf. Adalwyd 20 October 2015.
- ↑ 38.0 38.1 Courtland, Rachel (2 July 2008). "Did newborn Earth harbour life?". New Scientist. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 November 2016. Cyrchwyd 14 November 2016.
- ↑ 39.0 39.1 Steenhuysen, Julie (20 May 2009). "Study turns back clock on origins of life on Earth". Reuters. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 November 2016. Cyrchwyd 14 November 2016.
- ↑ Schopf, J. William; Kudryavtsev, Anatoliy B; Czaja, Andrew D; Tripathi, Abhishek B (2007). "Evidence of Archean life: Stromatolites and microfossils". Precambrian Research 158 (3–4): 141. Bibcode 2007PreR..158..141S. doi:10.1016/j.precamres.2007.04.009.
- ↑ Schopf, JW (June 2006). "Fossil evidence of Archaean life". Philos. Trans. R. Soc. Lond. B Biol. Sci. 361 (1470): 869–85. doi:10.1098/rstb.2006.1834. PMC 1578735. PMID 16754604. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=1578735.
- ↑ Ohtomo, Yoko; Kakegawa, Takeshi; Ishida, Akizumi; Nagase, Toshiro; Rosing, Minik T. (8 December 2013). "Evidence for biogenic graphite in early Archaean Isua metasedimentary rocks". Nature Geoscience 7 (1): 25–28. Bibcode 2014NatGe...7...25O. doi:10.1038/ngeo2025.
- ↑ Borenstein, Seth (13 November 2013). "Oldest fossil found: Meet your microbial mom". Associated Press. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 June 2015.
- ↑ Noffke, Nora; Christian, Daniel; Wacey, David; Hazen, Robert M. (8 November 2013). "Microbially Induced Sedimentary Structures Recording an Ancient Ecosystem in the ca. 3.48 Billion-Year-Old Dresser Formation, Pilbara, Western Australia". Astrobiology 13 (12): 1103–24. Bibcode 2013AsBio..13.1103N. doi:10.1089/ast.2013.1030. PMC 3870916. PMID 24205812. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3870916.
- ↑ Loeb, Abraham (October 2014). "The Habitable Epoch of the Early Universe". International Journal of Astrobiology 13 (4): 337–39. arXiv:1312.0613. Bibcode 2014IJAsB..13..337L. doi:10.1017/S1473550414000196.
- ↑ Loeb, Abraham (2 December 2013). "The Habitable Epoch of the Early Universe". International Journal of Astrobiology 13 (4): 337–39. arXiv:1312.0613. Bibcode 2014IJAsB..13..337L. doi:10.1017/S1473550414000196.
- ↑ Dreifus, Claudia (2 December 2014). "Much-Discussed Views That Go Way Back – Avi Loeb Ponders the Early Universe, Nature and Life". The New York Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 December 2014. Cyrchwyd 3 December 2014.
- ↑ S. B. Hedges.
- ↑ McKinney, Michael L. (31 December 1996). "How do rare species avoid extinction? A paleontological view". In Kunin, W.E.; Gaston, Kevin (gol.). The Biology of Rarity: Causes and consequences of rare—common differences. ISBN 978-0-412-63380-5. Cyrchwyd 26 May 2015.
- ↑ Stearns, Beverly Peterson; Stearns, Stephen C. (2000). Watching, from the Edge of Extinction. Yale University Press. t. preface x. ISBN 978-0-300-08469-6. Cyrchwyd 30 May 2017.
- ↑ Novacek, Michael J. (8 November 2014). "Prehistory's Brilliant Future". The New York Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 December 2014. Cyrchwyd 25 December 2014.
- ↑ 52.0 52.1 52.2 G. Miller; Scott Spoolman (2012). Environmental Science – Biodiversity Is a Crucial Part of the Earth's Natural Capital. Cengage Learning. t. 62. ISBN 978-1-133-70787-5. Cyrchwyd 27 December 2014.
We do not know how many species there are on the earth. Estimates range from 8 million to 100 million. The best guess is that there are 10–14 million species. So far, biologists have identified almost 2 million species.
- ↑ 53.0 53.1 Mora, C.; Tittensor, D.P.; Adl, S.; Simpson, A.G.; Worm, B. (23 August 2011). "How many species are there on Earth and in the ocean?". PLOS Biology 9 (8): e1001127. doi:10.1371/journal.pbio.1001127. PMC 3160336. PMID 21886479. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3160336. "In spite of 250 years of taxonomic classification and over 1.2 million species already catalogued in a central database, our results suggest that some 86% of existing species on Earth and 91% of species in the ocean still await description."
- ↑ Staff (2 May 2016). "Researchers find that Earth may be home to 1 trillion species". National Science Foundation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 May 2016. Cyrchwyd 6 May 2016.
- ↑ Pappas, Stephanie (5 May 2016). "There Might Be 1 Trillion Species on Earth". LiveScience. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 June 2017. Cyrchwyd 7 June 2017.
- ↑ Nuwer, Rachel (18 July 2015). "Counting All the DNA on Earth". The New York Times. New York. ISSN 0362-4331. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 July 2015. Cyrchwyd 18 July 2015.
- ↑ "The Biosphere: Diversity of Life". Aspen Global Change Institute. Basalt, CO. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 November 2014. Cyrchwyd 19 July 2015.
- ↑ Wade, Nicholas (25 July 2016). "Meet Luca, the Ancestor of All Living Things". The New York Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 July 2016. Cyrchwyd 25 July 2016.
- ↑ "Habitability and Biology: What are the Properties of Life?". Phoenix Mars Mission. The University of Arizona. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 April 2014. Cyrchwyd 6 June 2013.
- ↑ "Aristotle". University of California Museum of Paleontology. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 November 2016. Cyrchwyd 15 November 2016.
- ↑ "Stability or stasis in the names of organisms: the evolving codes of nomenclature". Philosophical Transactions of the Royal Society of London B 359 (1444): 611–22. April 2004. doi:10.1098/rstb.2003.1445. PMC 1693349. PMID 15253348. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=1693349.
- ↑ Copeland, Herbert F. (1938). "The Kingdoms of Organisms". Quarterly Review of Biology 13 (4): 383. doi:10.1086/394568. https://archive.org/details/sim_quarterly-review-of-biology_1938-12_13_4/page/383.
- ↑ Whittaker, R.H. (January 1969). "New concepts of kingdoms or organisms. Evolutionary relations are better represented by new classifications than by the traditional two kingdoms". Science 163 (3863): 150–60. Bibcode 1969Sci...163..150W. doi:10.1126/science.163.3863.150. PMID 5762760.
- ↑ Sapp, Jan (2003). Genesis: The Evolution of Biology. Oxford University Press. tt. 75–78. ISBN 978-0-19-515619-5.
- ↑ Lintilhac, P.M. (Jan 1999). "Thinking of biology: toward a theory of cellularity—speculations on the nature of the living cell". BioScience 49 (1): 59–68. doi:10.2307/1313494. JSTOR 1313494. PMID 11543344. https://www.rz.uni-karlsruhe.de/~db45/Studiendekanat/Lehre/Master/Module/Botanik_1/M1401/Evolution_Zellbiologie/Lintilhac%202003.pdf. Adalwyd 2 June 2012.
- ↑ "Artificial life". Dictionary.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 November 2016. Cyrchwyd 15 November 2016.
- ↑ Chopra, Paras; Akhil Kamma. "Engineering life through Synthetic Biology". In Silico Biology 6. http://www.bioinfo.de/isb/2006/06/0038/. Adalwyd 9 June 2008.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Bywyd (Systema Naturae 2000)
- Vitae (BioLib)
- Biota (Tacsonomeg)
- Wikispecies - cyfeiriadur bywyd am ddim
- Adnoddau ar gyfer bywyd yng Nghysawd yr Haul ac mewn galaeth, a chwmpas posibl bywyd yn y dyfodol cosmolegol
- "Y Posibl Cyfagos: Sgwrs gyda Stuart Kauffman"
- cofnod Gwyddoniadur Athroniaeth Stanford
- Teyrnasoedd Bywyd