Bryn Alyn
Math | bryn, copa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 408.3 metr |
Cyfesurynnau | 53.1213°N 3.201°W |
Cod OS | SJ2008258752 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 100.9 metr |
Rhiant gopa | Cyrn-y-Brain |
Cadwyn fynydd | Bryniau Clwyd |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
Manylion | |
Mae Bryn Alyn yn gopa mynydd a geir ym Mryniau Clwyd rhwng Rhuthun a'r Wyddgrug; cyfeiriad grid SJ200587. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 307 metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf. Mae'n enwog am ei balmant calchfaen, yr ail fwyf yng Nghymru. Mae yma olion mwyngloddio a llosgi calch, gwiberod ac ogofâu eitha hir. Ceir tri chopa: gyda'r un agosaf i bentref Eryrys yn 408 metr, a'r ddau arall, gerllaw yn 403 metr.
Cofrestrwyd y mynydd (y tri chopa a'r ardal o'u cwmpas) fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Yn 1981 cafwyd hyd i arteffactau o'r Oes efydd: dwy freichled aur, talp o aur a bwyellt gyda soced: credir fod cysylltiad crefyddol i'r darganfyddiad yma a gelwir mynydd Bryn Alyn o'r herwydd yn 'Fynydd Cysegredig'.[1]
Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n HuMP. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[2] Uchder y copa o lefel y môr ydy 408 metr (1339 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 8 Mehefin 2009.
Awyrluniau o'r calchbalmant
[golygu | golygu cod]Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Rhestri copaon a sut y cânt eu dosbarthu
- Rhestr mynyddoedd Cymru
- Rhestr o gopaon Cymru
- Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 2,000'
Dolennau allanol
[golygu | golygu cod]- Clwb Mynydda Cymru
- Lleoliad ar wefan Streetmap Archifwyd 2016-03-07 yn y Peiriant Wayback
- Lleoliad ar wefan Get-a-map[dolen farw]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ www.academia.edu; rhan o bapur academig (rhaid talu am y gweddill); adalwyd 15 Gorffennaf 2023.
- ↑ “Database of British and Irish hills”