Neidio i'r cynnwys

Bill McLaren

Oddi ar Wicipedia
Bill McLaren
Ganwyd16 Hydref 1923 Edit this on Wikidata
Hawick Edit this on Wikidata
Bu farw19 Ionawr 2010 Edit this on Wikidata
o clefyd Alzheimer Edit this on Wikidata
Hawick Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethnewyddiadurwr, chwaraewr rygbi'r undeb, radio pundit Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • BBC Sport Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Safleblaenasgellwr Edit this on Wikidata

Sylwebydd o Albanwr oedd Bill McLaren (16 Hydref 192319 Ionawr 2010) a ystyriwyd fel 'llais rygbi' ledled y byd tan ei ymddeoliad yn 2002.

Cafodd ei eni yn Hawick. Roedd yn chwaraewr talentog yn safle'r Blaenasgellwr ar y ca. Chwaraeodd dros dîm 'Hawick first XV' cyn yr Ail Ryfel Byd pan wasanaethodd yn y Royal Artillery yn yr Eidal.

Cafodd dreial ar gyfer tîm cenedlaethol yr Alban yn 1947. Roedd ar fin ennill ei gap cyntaf pan aeth yn sâl gyda'r diciâu a fu bron a'i ladd a gorfodwyd ef i rhoi'r gorau i chwarae. Treuliodd 19 mis mewn sanitaorium cyn derbyn cyffur arbrofol a achubodd ei fywyd.

Astudiodd McLaren ymarfer corff yn Aberdeen, a bu'n dysgu mewn amryw o ysgolion o gwmpas Hawick hyd 1987, gan hyfforddi nifer o chwaraewyr a aeth ymlaen i chwarae dros yr Alban megis Jim Renwick, Colin Deans a Tony Stanger.

Trwy ei adroddiadau ar y gemau iau ar gyfer bapur y 'Hawick Express' llwyddodd i lansio ei hun i yrfa sylwebaeth, gan wneud hynny yn genedlaethol am y tro cyntaf ar Radio'r BBC yn 1953, pan gurwyd yr Alban 12-0 gan Gymru.

Aeth ymlaen i sylwebu ar y teledu chwe mlynedd yn ddiweddarach. Derbynodd gydnabyddiaeth o'i gyfraniad ym mis Tachwedd 2001 pan ddaeth ef y cyntaf nad oedd yn rhyngwladol i gael ei sefydlu yn yr International Rugby Hall of Fame.

Baner yr AlbanEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Albanwr neu Albanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.