Astrid Lindgren
Astrid Lindgren | |
---|---|
Ganwyd | Astrid Anna Emilia Ericsson 14 Tachwedd 1907 Vimmerby Parish, Vimmerby |
Bu farw | 28 Ionawr 2002 Gustav Vasa, Stockholm |
Dinasyddiaeth | Sweden |
Galwedigaeth | sgriptiwr, awdur plant, nofelydd, llenor |
Adnabyddus am | Pippi Longstocking, Emil i Lönneberga, Karlsson-on-the-Roof, The Six Bullerby Children, Bill Bergson, Ronia the Robber's Daughter, The Brothers Lionheart, Mio, My Son |
Arddull | llenyddiaeth plant, stori dylwyth teg |
Plaid Wleidyddol | Parti Ddemocrataidd Sosialaidd Sweden |
Tad | Samuel August Ericsson |
Mam | Hanna Ericsson |
Priod | Sture Lindgren |
Plant | Lars Lindgren, Karin Nyman |
Gwobr/au | Medal Diwylliant ac Addysg, Swediad Rhyngwladol y Flwyddyn, Deutscher Jugendliteraturpreis, Plac Nils Holgersson, Gwobr Lenyddol Svenska Dagbladet, Expressens Heffaklump, Gwobr Selma Lagerlöf, Gwobr 'Right Livelihood', Gwobr Heddwch y Fasnach Lyfrau Almaeneg, Gwobr Zilveren Griffel, Gwobr Hans Christian Andersen, Officier des Arts et des Lettres, Gwobr Illis Quorum, Urdd y Wên, Member of the Order of Vasa, Lisebergsapplåden, Urdd ryddid |
Gwefan | https://www.astridlindgren.com |
llofnod | |
Awdur llyfrau plant o Sweden oedd Astrid Anna Emilia Lindgren (née Ericsson), neu fel arfer, Astrid Lindgren, ynganiad (14 Tachwedd 1907 - 28 Ionawr 2002). Mae'n fwyaf adnabyddus am ei chyfres Pippi Hosan-hir (Pippi Långstrump; 1945 ymlaen) a'r canlynol: Emil i Lönneberga (1963 a 1997), Karlsson på taket (Saesneg: Karlsson-on-the-Roof; 1955 ymlaen), a Barnen i Bullerbyn ('Chwe Phlentyn Bullerby', Six Bullerby Children neu The Children of Noisy Village yn UDA); 1947. Cyhoeddwyd cyfieithiad Cymraeg Siân Edwards o Pippi Hosan-hir gan Wasg y Dref Wen yn 1978.[1]
Gweithiai Lindgren ar Fwrdd Golygyddol Llenyddiaeth Plant yn Nhŷ Cyhoeddi Rabén a Sjögren yn Stockholm ac ysgrifennodd dros 30 o lyfrau i blant. Yn Ionawr 2017, credir mai hi yw'r awdur a gyfieithwyd fwyaf yn y byd, a'r pedwerydd awdur mwyaf awdurdodol ar ôl Enid Blyton, H. C. Andersen a'r Brodyr Grimm. Hyd yma (2019) mae Lindgren wedi gwerthu tua 165 miliwn o lyfrau ledled y byd.[2][3] [4][5][6]
Magwraeth
[golygu | golygu cod]Fe'i ganed yn Näs, ger Vimmerby, Småland, Sweden ar 14 Tachwedd 1907 a bu farw yn Stockholm. Mae llawer o'i llyfrau wedi'u seilio ar ei hatgofion o'r ardal lle'i ganed.
Roedd Lindgren yn ferch i Samuel Awst Ericsson (1875-1969) a Hanna Jonsson (1879-1961). Roedd ganddi ddwy chwaer, Stina ac Ingegerd, a brawd, Gunnar Ericsson, a ddaeth yn aelod o senedd Sweden.
Ar ôl cwbwlhau ei chyfnod yn yr ysgol, cymerodd Lindgren swydd gyda phapur newydd lleol yn Vimmerby. Cafodd berthynas â'r prif olygydd (a oedd eisoes yn briod, ac yn dad) ac yn 1926 ar ôl iddi feichiogi, gofynodd iddi ei briodi. Gwrthododd a symudodd i brifddinas Stockholm, gan ddod yn deipydd a stenograffydd (ysgrifennodd y rhan fwyaf o'r llyfrau mewn stenograffi). Ymhen amser, rhoddodd enedigaeth i'w mab, Lars, yn Copenhagen a'i adael yng ngofal teulu maeth.[7][8][9][10][11][12][13]
Wedi cyfnod o deithio, daeth a Lars adref at ei rhieni, a fagodd ef, tra bod Lindgren yn gweithio.
Yn 1932 priododd ei chyflogwr, Sture Lindgren (1898-1952), wedi iddo adael ei wraig. Dair blynedd yn ddiweddarach, ym 1934, rhoddodd Lindgren enedigaeth i ail blentyn, Karin, a fyddai'n dod yn gyfieithydd. Dyfeisiwyd y cymeriad Pippi Longstocking i ddifyrru Karin pan oedd hi'n sâl yn y gwely. Yn ddiweddarach, nododd Lindgren fod Karin wedi gofyn yn sydyn iddi am stori am gymeriad o'r enw "Pippi Longstocking," a chrëwyd y stori fel ymateb i'r cais hwnnw.
Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o Blaid Ddemocrataidd Sosialaidd Sweden ac roedd ei brawg Gunnar yn aelod o senedd Sweden.
Yn 1941 symudodd Astrid Lindgren a'i theulu i fflat yn Dalagatan, ac yno y bu hyd at ei marwolaeth yn 94 oed.
Gweithiau
[golygu | golygu cod]Aelodaeth
[golygu | golygu cod]Bu'n aelod o 'Gymdeithas Y Naw' am rai blynyddoedd.
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Medal Diwylliant ac Addysg (1975), Swediad Rhyngwladol y Flwyddyn (1997), Deutscher Jugendliteraturpreis (1956), Plac Nils Holgersson (1950), Gwobr Lenyddol Svenska Dagbladet (1945), Expressens Heffaklump (1970), Gwobr Selma Lagerlöf (1986), Gwobr 'Right Livelihood' (1994), Gwobr Heddwch y Fasnach Lyfrau Almaeneg (1978), Gwobr Zilveren Griffel (1983), Gwobr Hans Christian Andersen (1958), Officier des Arts et des Lettres (1991), Gwobr Illis Quorum (1985), Urdd y Wên, Member of the Order of Vasa (1968), Lisebergsapplåden (1985), Urdd ryddid (1995)[14][15][16][17] .
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ cyfieithiadau.wordpress.com; adalwyd 31 Mawrth 2019.
- ↑ "UNESCO's statistics on whole Index Translationum database". Databases.unesco.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-28. Cyrchwyd 22 Chwefror 2014.
- ↑ FAQ at Astrid Lindgren official site Nodyn:Sv icon.
- ↑ Galwedigaeth: https://cs.isabart.org/person/110718. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021. dynodwr abART (person): 110718.
- ↑ Aelodaeth: http://www.samfundetdenio.se/.
- ↑ Anrhydeddau: "Friedenspreis 1978 Astrid Lindgren". https://phaleristica.com/2016/03/08/kvinnliga-ordens-och-medaljmottagare/. dyddiad cyrchiad: 15 Tachwedd 2023. https://phaleristica.wordpress.com/2015/10/21/drottning-louise-slog-upp-portarna/. dyddiad cyrchiad: 11 Medi 2023. "Lisebergsapplåden" (yn Swedeg). Cyrchwyd 4 Mai 2022.
- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Disgrifiwyd yn: "strid Anna Emilia Lindgren". dyddiad cyrchiad: 4 Awst 2020. "Astrid Lindgren (1907-2002)". dyddiad cyrchiad: 4 Awst 2020. https://link.springer.com/chapter/10.1007/978-3-476-03702-2_216. dyddiad cyrchiad: 31 Gorffennaf 2022.
- ↑ Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 4 Gorffennaf 2024.
- ↑ Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 9 Ebrill 2014 ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Astrid Lindgren". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Astrid Lindgren". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Astrid Lindgren". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Astrid Lindgren". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Astrid LINDGREN". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Astrid Lindgren". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Astrid Lindgren". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Astrid Lindgren". "Astrid Lindgren". https://cs.isabart.org/person/110718. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021. dynodwr abART (person): 110718.
- ↑ Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 9 Ebrill 2014 ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Astrid Lindgren". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Astrid Lindgren". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Astrid Lindgren". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Astrid Lindgren". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Astrid LINDGREN". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Astrid Lindgren". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Astrid Lindgren". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Astrid Lindgren". "Astrid Lindgren". https://cs.isabart.org/person/110718. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021. dynodwr abART (person): 110718.
- ↑ Man geni: "Astrid Lindgren". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Astrid Lindgren". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Astrid Lindgren". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Man claddu: "Minnet lever efter Astrid Lindgren". 26 Awst 2002. Cyrchwyd 11 Awst 2021. "I Astrids fotspår" (PDF). Cyrchwyd 11 Awst 2021.
- ↑ "Friedenspreis 1978 Astrid Lindgren".
- ↑ https://phaleristica.com/2016/03/08/kvinnliga-ordens-och-medaljmottagare/. dyddiad cyrchiad: 15 Tachwedd 2023.
- ↑ https://phaleristica.wordpress.com/2015/10/21/drottning-louise-slog-upp-portarna/. dyddiad cyrchiad: 11 Medi 2023.
- ↑ "Lisebergsapplåden" (yn Swedeg). Cyrchwyd 4 Mai 2022.