Arthur Balfour
Arthur Balfour | |
---|---|
Ganwyd | 25 Gorffennaf 1848 Whittingehame |
Bu farw | 19 Mawrth 1930 Woking |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, llenor, athronydd |
Swydd | Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Arglwydd Lywydd y Cyngor, Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Tramor a'r Gymanwlad, aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Arglwydd y Sêl Gyfrin, Arweinydd y Blaid Geidwadol, Prif Ysgrifennydd dros Iwerddon, Ysgrifennydd Gwladol yr Alban, Aelod o Gyfrin Gyngor yr Iwerddon, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 29fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig, Prif Arglwydd y Morlys, Arweinydd y Tŷ Cyffredin, Arweinydd y Tŷ Cyffredin, Arweinydd yr Wrthblaid, Arweinydd yr Wrthblaid, Arweinydd yr Wrthblaid |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Tad | James Maitland Balfour |
Mam | Blanche Gascoyne-Cecil |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Cymrawd yr Academi Brydeinig, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Urdd y Gardas, Urdd Teilyngdod, Croes Rhyddid |
llofnod | |
Gwleidydd a gwladweinydd o'r Alban a oedd yn aelod o'r Blaid Geidwadol oedd Arthur James Balfour, KG, OM, PC, DL (25 Gorffennaf 1848 – 19 Mawrth 1930). Bu'n Brif Weinidog y Deyrnas Unedig o Orffennaf 1902 tan Rhagfyr 1905, ac fel Arweinydd y Blaid Geidwadol o pan gafodd ei apwyntio'n Brif Weinidog tan fis Tachwedd 1911. Bu'n Aelod Seneddol o 1874–1922 a gwasanaethodd fel Ysgrifennydd Tramor yn llywodraeth glymbeidiol David Lloyd George rhwng 1916-1919.
Ym 1917, ysgrifennodd Datganiad Balfour oedd yn rhoi cefnogaeth i gartref i'r Iddewon ym Mhalesteina. Nid yw'r rhesymau dros gefnogaeth Balfour i Seioniaeth yn gwbl amlwg. Yn 1905, pan gyfarfu am y tro cyntaf â'r arweinydd Seionaidd Chaim Weizmann i drafod Seioniaeth a dyfodol Palesteina, rhoddodd Balfour ei gefnogaeth i'r Ddeddf Estroniaid (Aliens Act) ei nod oedd rhwystro'r mewnlifiad o Iddewon o ddwyrain Ewrop yn sgil y pogromau. Wrth geisio perswadio arweinwyr ym Mhrydain a'r Almaen o rinweddau Seioniaeth, byddai Theodor Herzl yn dadlau y byddai sefydlu gwladwriaeth Iddewig ym Mhalesteina yn datrys y "broblem Iddewig" drwy ddargyfeirio'r llif o Iddewon o ddwyrain Ewrop i orllewin Ewrop i Balesteina.[1] Cyfarfu Weizmann a Balfour eto yn 1906 ac yn ôl Weizmann, nid ymdrechodd Balfour i guddio ei wrthsemitiaeth, ond deallodd Weizmann hynny fel gelyniaeth at fathau penodol o Iddew - teimlad roedd Weizmann ei hun yn ei rannu.[2]
Ar sail y Datganiad enwog, cafodd Balfour ei anrhydeddu yn Israel drwy enwi gwladychfa (Balfouria) ym Marj ibn Amir / dyffryn Jezreel ar ei ôl ac mae nifer o strydoedd yn Israel wedi eu henwi ar ei ôl e.e. yn Tel Aviv.[3]
- ↑ Pappe, Ilan (2024). Lobbying for Zionism on Both Sides of the Atlantic. London: Oneworld. t. 32. ISBN 978-0-86154-402-8.
- ↑ Pappe, Ilan (2024). Lobbying for Zionism on Both Sides of the Atlantic. London: Oneworld. tt. 33–34. ISBN 978-0-86154-402-8.
- ↑ Sand, Shlomo (2014). The Invention of the Land of israel. London: Verso. tt. 156. ISBN 9781781680834.