Arogldarth
Math | arteffact, gwrthrych crefyddol, meddyginiaeth |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae arogldarth (Lladin: incendere, "llosgi")[1] yn cynnwys defnyddiau biotig aromatig, megis gymiau planhigol a pherlysiau, sy'n rhyddhau mwg persawrus wrth losgi. Mae'r term "arogldarth" yn cyfeirio at y sylwedd ei hun, yn hytrach na'r arogl ei fod e'n cynhyrchu. Fe'i defnyddir o fewn seremonïau crefyddol, puredigaeth ddefodol, aromatherapi, myfyrdod, am greu hwyl, i guddio aroglau drewi, ac mewn meddygaeth.[2][3][4] Mae'i ddefnydd efallai'n tarddu o Hen Aifft, lle mewnforiwyd gymiau a resinau o goed aromatig o arfordiroedd o Arabia a Somalia er mwyn ei ddefnyddio mewn seremonïau crefyddol.
Fel arfer, mae arogldarth yn cynnwys deunydd planhigyn aromatig ac olewau hanfodol.[5] Mae dau brif fath o losgi arogldarth, sef "llosgi'n anuniongyrchol" a "llosgi'n uniongyrchol." Mae angen ffynhonnell wres ar wahân ar losgi arogldarth yn anuniongyrchol, hefyd a elwir "arogldarth an-hylosg," oherwydd nid yw'n gallu llosgi ar ei ben ei hunain. Llosgir arogldarth gyda fflam ac yn cael ei wyntyllu wrth losgi arogldarth yn uniongyrchol, hefyd a elwir "arogldarth hylosg." Bydd y marworyn tywyn sydd ar yr arogldarth yn mudlosgi a rhyddhau persawr. Mae enghreifftiau o losgi'n uniongyrchol yn cynnwys ffyn arogldarth (ffyn jos) a chonau neu byramidiau.
Hanes
[golygu | golygu cod]Mae'r defnydd o arogldarth yn dyddio'n ôl i gyfnodau'r Beibl ac efallai wedi tarddu yn yr Aifft, lle mewnforiwyd y gymiau a resinau o goed aromatig o arfordiroedd Arabia a Somalia er mwyn cael eu defnyddio o fewn seremonïau crefyddol. Defnyddiwyd hefyd gan Pharoaid, nid i wrthweithio aroglau amhleserus yn unig, ond hefyd i alltudio cythreuliaid ac i foddhau presenoldeb y duwiau a duwiesau, fel y credasant.[2]
Defnyddiwch y Babiloniaid arogldarth wrth gynnig gweddïau i oraclau dwyfol.[6] Defnyddiwyd Gwareiddiad Dyffryn Indus llosgyddion arogldarth.[7] Mae tystiolaeth yn awgrymu y defnyddiwyd olewau yn bennaf oherwydd eu harogl. Lledaenwyd arogldarth o hynny i Roed a Rhufain. Daeth mynachod Bwdhaidd Tsieineaidd ag arogldarth i Japan yn y 6ed canrif, sydd wedi defnyddio'r aroglau cyfriniol o fewn eu defodau puredigaeth; daeth yr aroglau cain o Koh (arogldarth Japaneaidd o ansawdd uchel) yn ffynhonnell o ddifyrrwch ac adloniant gyda phobl fonheddig yn Llys yr Ymerodraeth yn ystod y cyfnod Heiaidd 200 mlynedd yn ddiweddarach.
Yn ystod y 14g, fydd rhyfelwyr samurai'n perarogli eu helmedi ac arfogaeth gydag arogldarth er mwyn ennill awra o anorchfygolwydd. Nid oedd tan gyfnod Muromachi yn ystod y 15fed ac 16eg canrif y lledaenodd arbrisiant ar gyfer arogldarth (Kōdō) i ddosbarthiadau uchaf a chanol o gymdeithas Japaneaidd.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Llwybr Arogldarth
- Kyphi
- Ffordd y Sidan
- Ffon smwtsio
- kōdō Celfau Arogldarth
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ The History of Incense. www.socyberty.com.
- ↑ 2.0 2.1 Maria Lis-Balchin (2006). Aromatherapy science: a guide for healthcare professionals. Pharmaceutical Press. ISBN 0853695784. URL
- ↑ Gina Hyams, Susie Cushner (2004). Incense: Rituals, Mystery, Lore. Chronicle Books. ISBN 0811839931. URL
- ↑ Carl Neal (2003). Incense: Crafting & Use of Magickal Scents. Llewellyn Worldwide. ISBN 0738703362. URL
- ↑ (2000) Cunningham's Encyclopedia of magical herbs. Llewellyn Worldwide. ISBN 0875421229. URL
- ↑ (1960) Foreign trade in the old Babylonian period: as revealed by texts from southern Mesopotamia. Brill Archive. URL
- ↑ John Marshall (1996). Mohenjo Daro And The Indus Civilization 3 Vols. Asian Educational Services. ISBN 8120611799. URL
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- Silvio A. Bedini. The Trail of Time: Time Measurement with Incense in East Asia. Cambridge University Press, 1994. ISBN 0-521-37482-0