Neidio i'r cynnwys

Abracadabra

Oddi ar Wicipedia
Abracadabra
Enghraifft o'r canlynolbarbarous name Edit this on Wikidata

Fformiwla hud boblogaidd sydd a'i gwreiddiau yn yr Henfyd yw Abracadabra. Mae'n deillio yn ôl pob tebyg o air Aramaeg sy'n golygu "creodd fel y dywedodd" (abra-ka-dabra). Ond cafwyd sawl ymgais i egluro'r enw yn cynnwys yr ymadrodd Hebraeg "Ha brakha dabra" (הברכה דברה) sy'n golygu "mae'r fendith wedi siarad".[1]

Ceir enghraifft o'r fformiwla yn y De medicina præcepta, gwaith Lladin o'r 3g yr awdur Rhufeinig Quintus Serenus Sammonicus. Gair benthyg o'r iaith Roeg sydd gan Sammonicus, yn tarddu mae'n debyg o air a geir mewn ymbiliadau neu weddïau i Abraxas, duw'r Flwyddyn yn system y Gnostigiaid.

Roedd yn arfer ei dweud neu ei ysgrifennu fel amddiffyn trwy hud a lledrith yn erbyn afiechydon o bob math. Ceir tystiolaeth fod rhai o Ddynion Hysbys Cymru yn defnyddio'r fformiwla fel swyn yn erbyn rheibio anifeiliaid a phobl.

Mewn gweithiau Cabalaidd, fe'i cheir fel fformiwla a lefarir i orffen y gwaith o greu Golem, creadur o glai sy'n dod yn fyw.

Heddiw mae'n air cyfarwydd gan ledrithwyr ar y llwyfan cyn perfformio eu "hud a lledrith".

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Parry, John (1889). "Abracadabra". Y Gwyddoniadur Cymreig Cyfrol I (PDF). Dinbych: Gwasg Gee. t. 19.