How Green Was My Valley (ffilm)
Ffilm gan John Ford sy'n seiliedig ar y nofel o'r un enw gan Richard Llewellyn yw How Green Was My Valley (Pa mor wyrdd oedd fy nghwm) (1941).
Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | John Ford |
Cynhyrchydd | Darryl F. Zunick |
Ysgrifennwr | Richard Llewellyn Phillip Dunne |
Serennu | Walter Pidgeon Maureen O'Hara Anna Lee Donald Crisp Roddy McDowall |
Cerddoriaeth | Alfred Newman |
Sinematograffeg | Arthur C. Miller |
Sain | Eugene Grossman Roger Heman Sr. |
Dylunio | Richard Day Nathan Juran |
Cwmni cynhyrchu | 20th Century Fox |
Dyddiad rhyddhau | 28 Hydref 1941 |
Amser rhedeg | 118 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg Cymraeg |
(Saesneg) Proffil IMDb | |
Crynodeb
golyguHanes un teulu yng nghymoedd glofaol de Cymru yn ystod teyrnasiad Brenhines Fictoria, sef y Morganiaid, sydd yn ganolog i’r stori yn y ffilm hon ac fe’i hadroddir trwy lygaid y mab ieuengaf, Huw. Darlunir uned deuluol glos, gweithgar a chapelgar. Dan ofal y tad, Gwilym, a’r fam, Beth, mae chwech o feibion, Ivor, Davy, Ianto, Gwilym, Owen a Huw ac un ferch, Angharad. Dilynir eu hanes trwy gyfnodau llawen megis priodasau, a hefyd trwy gyfnodau llawn tristwch a chaledi megis damweiniau a streiciau yn y lofa. Yn gefnlun i’r cyfan, mae dadfeiliad y gymuned a llygredigaeth y cwm.
Defnyddir hen emyn-donau fel ‘I Galfaria Trof fy Wyneb’, ‘Calon Lân’ a ‘Cwm Rhondda’ ac alawon gwerin Cymraeg megis ‘Mentra Gwen’ a ‘Claddu’r Mochyn Du’ yn y ffilm.
Cast a chriw
golyguPrif gast
golygu- Walter Pigeon (Mr Gruffydd)
- Maureen O'Hara (Angharad Morgan)
- Donald Crisp (Mr Gwilym Morgan)
- Roddy McDowall (Huw Morgan)
- Anna Lee (Bronwyn)
- John Loder (Ianto)
- Sara Allgood (Mrs Beth Morgan)
Cast cefnogol
golygu- Barry Fitzgerald (Cyfarthfa)
- Patric Knowles (Ivor)
- Morton Lowry (Mr Jonas)
- Arthur Shields (Mr Parry)
- Ann E. Todd (Ceinwen)
- Frederick Worlock (Dr Richards)
- Richard Fraser (Davy)
- Evan S. Evans (Gwilym)
- James Monks (Owen)
- Rhys Williams (Dai Bando)
- Lionel Pape (Evans)
- Ethel Griffies (Mrs Nicholas)
- Marten Lamont (Iestyn Evans)
- Cantorion Cymreig (eu hunain)
Cydnabyddiaethau eraill
golygu- Dylunio gwisgoedd – Gwen Wakeling
- Adran goluro – Guy Pearce
- Rheolwr cynhyrchu – Gene Bryant
- Cyfarwyddwr cynorthwyol – Edward O'Fearna
- Cyfarwyddwr Ail Uned – Wingate Smith
- Effeithiau arbennig – Fred Sersen
Manylion technegol
golyguTystysgrif ffilm: U
Fformat saethu: 35mm
Lliw: Du a Gwyn
Lleoliadau saethu: Adeiladwyd y pentref a’r lofa ffuglennol ar ransh Twentieth Century-Fox yn Nyffryn San Fernando, Califfornia. Ffilmiwyd hefyd ym Mynyddoedd Santa Monica ac ar Lwyfan 15 Stiwdios Twentieth century-Fox yn Los Angeles.
Gwobrau:
Gŵyl ffilmiau | Blwyddyn | Gwobr / enwebiad | Derbynnydd |
---|---|---|---|
Academi Americanaidd Celfyddydau a Gwyddorau Lluniau Symudol (yr Oscars) | 1941 | ||
Ffilm Orau | |||
Cyfarwyddwr Gorau | John Ford | ||
Actor Cynorthwyol Gorau i | Donald Crisp | ||
Sinematograffi Du a Gwyn Gorau | Arthur C. Miller | ||
Cyfarwyddwyr Celf Gorau | Richard Day Nathan Juran Thomas Little | ||
Enwebiad am wobr y Sgript Orau | Philip Dunne | ||
Enwebiad am wobr yr Actores Gynorthwyol | Sara Allgood | ||
Enwebiad am wobr y Golygydd Orau | James B. Clarke | ||
Enwebiad am wobr y Trefniant Cerddorol Gorau | Alfred Newman | ||
Enwebiad am y gwaith sain | Edmund H. Hansen (Pennaeth Uned Sain Twentieth-Century Fox) | ||
New York Film Critics | 1941 | Gwobr Cyfarwyddwr | John Ford |
National Board of Review Magazine | 1941 | ail ar restr o ddeg ffilm orau 1941 | |
Gwobrau Cymdeithas Beirniaid Ffilm yr Ariannin | 1943 | Y Condor Arian am y Ffilm Dramor Orau | |
Cofrestr Ffilm Cenedlaethol America | 1990 | Ychwanegwyd i'r gofrestr |
Galeri
golyguLlyfryddiaeth
golyguLlyfrau
golygu- David Berry, Wales and Cinema: the first hundred years (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1994)
- Ronald L. Davis, John Ford – Hollywood’s Old Master (University Press of Oklahoma, 1995)
- Philip Dunne, Take Two: A Life in Movies and Politics (New York, 1980)
- Philip Dunne, How Green Was My Valley – The Screenplay (Santa Barbara, 1990)
- Gwenno Ffrancon, Cyfaredd y Cysgodion: Delweddu Cymru a’i Phobl ar Ffilm 1935–51 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2003)
- Gwenno Ffrancon, 'Y Graith Las ar Gynfas Arian: Delweddu'r Glöwr Cymreig ar Ffilm' yn G.H. Jenkins (gol.), Cof Cenedl XIX: Ysgrifau ar Hanes Cymru (Gomer, Llandysul, 2004), tt. 164–92.
- Dan Ford, The Unquiet Man – The Life of John Ford (London, 1979)
- Tag Gallagher, John Ford – The Man and his Films (Los Angeles, 1986)
- Mel Gussow, Zanuck: Don’t Say Yes Until I Finish Talking (London, 1971)
- Leonard Mosley, Zanuck – The Rise and Fall of Hollywood‘s Last Tycoon (London, 1985)
- Jeffrey Richards, Films and British National Identity (London, 1997)
- Peter Stead, ‘Wales in the Movies’ yn Tony Curtis (gol.), Wales – The Imagined Nation (Penybont ar Ogwr, 1986)
- Peter Stead, ‘Wales and Film’ yn T. Herbert a G. E. Jones (goln), Wales Between The Wars (Cardiff, 1988)
- Kate Woodward, ‘Gwyrdroi a Gweddnewid: datblygiadau diweddar yn y portread o Gymru ar ffilm’, Cyfrwng: Cyfnodolyn Cyfryngau Cymru, 3 (2006)
Adolygiadau
golygu- Bosley Crowther, ‘How Green Was My Valley’, New York Times, 29 Hydref 1941, t. 27.
- Dienw, ‘How Green was My Valley’, Monthly Film Bulletin, Cyf. 9, rhif 98, 28 Chwefror 1942, t. 18.
- ‘Welsh Film Arrives’, Western Mail, 19 Ebrill 1942, t. 2.
- Richard Mallet, ‘At the Pictures’, Punch, 202, rhif 5280, 13 Mai 1942, t. 392.
- Herman G. Weinberg, ‘News From New York’, Sight and Sound, 10, rhif 40, Gwanwyn 1942, t. 72.
- Hesgin, ‘Ffilm Gymreig Enwog’, Y Faner, 100, rhif 34, 26 Awst 1942, t. 7.
- Adolygiad Dilys Powell yn George Perry (gol.), Dilys Powell – The Golden Screen (London, 1989), tt. 30–1.
- George J. Mitchell, ‘How Green Was My Valley – A Verdant Classic’, American Cinematographer, 9, rhif 72 (Medi 1991).
Erthyglau
golygu- David Berry, ‘How green was my gall’, Radical Wales, 29 (1991), tt. 24–5.
- Gwenno Ffrancon, ‘Glan. Gofalus. Gwallgof: Datblygiad y portread ar sgrîn o’r Fam Gymreig’, Cyfrwng: Cyfnodolyn Cyfryngau Cymru, 4 (GPC, Ebrill 2007), tt. 71–86.
- Peter Stead, ‘How Green is My Valley Now?’, New Welsh Review, 4, rhif 3 (1991–2), tt. 4–9.
Gwefannau
golygu- (Saesneg) How Green Was My Valley (ffilm) ar wefan Internet Movie Database
- (Saesneg) Reel Classics Archifwyd 2008-05-17 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Filmsite