Diglosia
Mewn ieithyddiaeth mae diglosia yn derm ar gyfer y defnydd o ddwy iaith (neu ddau fersiwn o’r un iaith) o fewn yr un gymuned - ac mynd o'r naill i'r llall yn ôl y sefyllfa.
Math | Dwyieithrwydd |
---|---|
Olynwyd gan | triglossia |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mewn llawer o enghreifftiau o ddiglosia mae siaradwr yn newid o iaith lafar pob dydd i fath arall o iaith ar gyfer sefyllfaoedd mwy ffurfiol.
Yr Iaith 'H' a’r iaith 'L'
golyguMae’r iaith lafar pob dydd yn cael ei dynodi fel yr iaith "L" (o’r gair Saesneg "low"). Fel arfer mae’r iaith "L" yn cael ei defnyddio yn y cartref ac ymhlith cymdogion, cyd-weithwyr etc.
Mae’r iaith "H" (o’r Saesneg "high") yn cael ei defnyddio mewn sefyllfaoedd mwy ffurfiol fel addysg, ysgrifennu neu ddelio gydag awdurdodau a phobl mewn awdurdod.
Mae siaradwyr Cymraeg yn defnyddio Cymraeg llafar yn eu tafodiaith leol ymhlith ei gilydd fel yr iaith "L" gan newid i Saesneg neu Gymraeg Llenyddol fel yr iaith "H" ar gyfer ysgrifennu a darllen.
Mae diglosia hefyd yn bodoli'n helaeth o amgylch y byd. Er enghraifft, fel arfer mae pobl Tsieina yn siarad eu tafodiaith leol fel yr iaith "L" gan newid i'r iaith "H" - Mandarin ar gyfer llythrennedd.
Siarad yn Wyn
golyguMae diglosia/newid cod wedi dod yn bwnc dadleuol yn yr Unol Dalaithau ymhlith bobl o dras Affro-Americaniadd. Maent yn teimlo o dan bwysau i newid eu ffordd arferol o siarad wrth ddeilio gyda phobl gwyn.
Mae'r ffilm 2018 Sorry to Bother You yn gomedi am ddyn du sydd yn gweithio mewn canolfan galwadau ac yn 'siarad yn wyn' er mwyn llwyddo ein ei waith. [1]
Roedd Barack Obama yn aml yn dangos ei allu i newid ei ffordd o gyfathrebu yn seiliedig ar y gymuned roedd yn ymweld â hi. Mewn un esiampl adnabyddus mae Obama yn llongyfarch aelodau tîm pêl-fasged gan ysgwyd llaw ac yn siarad yn barchus gyda'r hyfforddwr gwyn ond yn siarad yn fwy anffurfiol ac yn cwtsio’r chwaraewyr du. [2]
Gweler hefyd
golygu- Newid cod - ble mae'r un person yn defnyddio dwy iaith yn yr un sgwrs.
- Cywair Iaith - amrywiaethau yr un iaith yn ôl y cyd-destunau.
- Ieithyddiaeth disgrifiadol - disgrifio’n fanwl gywir sut mae iaith yn cael ei defnyddio
- Cyd-ddeallusrwydd iaith
- Continiwm tafodiaith
- Sosiolect - amrywiaeth iaith sy'n arbennig i ddosbarth cymdeithasol penodol
- Iaith macaronig - siarad gan gynnwys geiriau dwy neu fwy iaith
Ffynonellau
golygu- Crystal, D. 2005. How Language Works Penguin Books. ISBN 0-14-051538-0
- https://en.wikipedia.org/wiki/Charles_A._Ferguson
- Ferguson, Charles A. 1959. Diglossia. Word 15: 325-340. http://www.mapageweb.umontreal.ca/tuitekj/cours/2611pdf/Ferguson-Diglossia.pdf
- LangFocus "What is Diglossia?" Ffilm fer ar YouTube https://www.youtube.com/watch?v=KL9ku7c7UTs
Dolenni allanol
golygu- 'Cyflwyniad i Ieithyddiaeth Golygyddion: Sarah Cooper a Laura Arman ar Porth Coleg Cymraeg Cenedlaethol