Y Bwrdd Gwybodau Celtaidd
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1921 |
Lleoliad yr archif | Llyfrgell Genedlaethol Cymru |
Pencadlys | Cymru |
Sefydlwyd Y Bwrdd Gwybodau Celtaidd gan Brifysgol Cymru yn 1921 er mwyn hyrwyddo a chyfundrefnu Astudiaethau Celtaidd (Gwybodau Celtaidd) yng Nghymru.
Hanes a threfn
[golygu | golygu cod]Roedd y penderfyniad i sefydlu'r Bwrdd yn dilyn esiampl yr Ysgol Ysgolheictod Gwyddelig a sefydlwyd yn ninas Dulyn yn 1903 ac Adroddodiad y Comisiwn Brenhinol ar Addysg yng Nghymru 1918. Ffurfwyd tri phwyllgor i rannu'r gwaith, sef y Pwyllgor Iaith a Llên, Hanes a Chyfraith ac Archaeoleg a Chelfyddyd. Ychwanegwyd Pwyllgor Gwyddor Cymdeithas yn 1969.
Roedd y rhan fwyaf o aelodau'r Bwrdd yn staff academaidd ym mhrifysgolion Cymru. Roedd y Bwrdd yn cyhoeddi nifer o lyfrau a sawl cylchgrawn, yn cynnwys Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, yn Gymraeg a Saesneg, a lawnsiwyd yn 1921.
Prosiect mwyaf uchelgeisiol y Bwrdd efallai yw Geiriadur Prifysgol Cymru, geiriadur hanesyddol safonol y Gymraeg.
Yn 2007 penderfynwyd diddymu'r Bwrdd a throsglwyddo ei gyfrifoldebau i ddau gorff arall, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn Aberystwyth a Gwasg Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd.
Cylchgronau
[golygu | golygu cod]- Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd (Cymraeg a Saesneg)
- Cylchgrawn Hanes Cymru (Saesneg yn bennaf)
- Llên Cymru (Cymraeg)
- Studia Celtica (Saesneg yn bennaf)