Canu'r Tir Glas
Is-genre o ganu gwlad Americanaidd oedd â'i hoes aur yn y 1940au[1] yw canu'r Tir Glas[2] (Saesneg: bluegrass music). Prif nodweddion y math hwn o gerddoriaeth yw tempo cyflym, a defnydd blaenllaw o'r ffidl, y banjo, a'r mandolin.[1] Ystyrid Bill Monroe yn brif arloeswr canu'r Tir Glas,[1] a daw enw'r genre o'i fand y Blue Grass Boys.[3]
Datblygwyd yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, gyda'i gwreiddiau yng ngherddoriaeth bandiau llinynnol hen ffasiwn megis y Teulu Carter.[3] Ei phrif wahaniaethau ar ei ffurfiau cynt yw rhythm trawsacennog, prif lais tenor uwch ei draw, ei harmonïau cyfyngedig, a dylanwadau cryf gan cerddoriaeth Affro-Americanaidd,[4] drwy jazz a'r felan.[5],[3] Mae canu'r Tir Glas yn cyfuno elfennau o ddawns, adloniant y cartref, a cherddoriaeth werin grefyddol ucheldiroedd De Ddwyrain yr Unol Daleithiau, ond â'i gwreiddiau'n ddwfn yn nhraddodiadau'r Alban, Iwerddon a gogledd Lloegr.
Chwaraeir offeryn amlycaf y genre, y banjo, yn y dull tri bys a ddatblygwyd gan Earl Scruggs.[3] Caneuon gwerin traddodiadol,[4] gan gynnwys alawon dawnsio sgwâr, caneuon crefyddol, a baledi, yw'r mwyafrif o repertoire y Tir Glas,[3] ond ceir hefyd caneuon newydd, gwreiddiol.[4]
Yn y 1970au ymddangosodd grwpiau newgrass (neu ganu'r Tir Glas blaengar) a wnaeth cyfuno dulliau traddodiadol canu'r Tir Glas â thechnegau cerddoriaeth roc.[4]
Grwpiau ac unigolion enwog
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 (2002) gol. Alison Latham: The Oxford Companion to Music. Gwasg Prifysgol Rhydychen
- ↑ Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 147 [Blue Grass music].
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 (Saesneg) Britannica Online: bluegrass (cofnod llawn, angen tanysgrifo)
(Saesneg) Britannica Concise Encyclopedia: bluegrass (cofnod cryno) - ↑ 4.0 4.1 4.2 4.3 (Saesneg) Music Encyclopedia: bluegrass
- ↑ Nemerov, Bruce (2009). "Field Recordings of Southern Black Music". A Tennessee folklore sampler: selections from the Tennessee folklore society. Univ. of Tennessee Press. tt. 323–324. Cyrchwyd 2011-09-22.