Ben Lake
Gwedd
Ben Lake | |
---|---|
Ganwyd | 22 Ionawr 1993 Ceredigion |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o Senedd 57 y Deyrnas Unedig, Aelod o 58ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 59ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Cymru |
Gwleidydd Plaid Cymru ac Aelod Seneddol dros Geredigion yw Ben Lake (ganwyd 22 Ionawr 1993). Yn etholiad Mehefin 2017 daeth yn Aelod Seneddol ieuengaf Plaid Cymru a'r aelod ieuengaf o Gymru. Cadwodd ei sedd yn etholiad Rhagfyr 2019.
Fe'i ganwyd yn Llanbedr Pont Steffan. Cafodd ei addysg yn Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan. Roedd yn brif fachgen yr ysgol yn 2011, ac astudiodd Ffrangeg, Saesneg, Hanes a Daearyddiaeth ar gyfer Lefel A.[1] Enillodd le yng Ngholeg y Drindod, Rhydychen i astudio Hanes a Gwleidyddiaeth
Wedi graddio o Brifysgol Rhydychen, gweithiodd fel swyddog y wasg i Elin Jones AC a bu'n swyddog ymchwil yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru .[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Clonc, Ysgol Campws Llanbedr Pont Steffan (Mawrth 2011). Adalwyd ar 14 Ebrill 2017.
- ↑ (Saesneg) Wales’ battlegrounds: Ceredigion (7 Mehefin 2017). Adalwyd ar 9 Mehefin 2017.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Mark Williams |
Aelod Seneddol dros Geredigion 2017 – presennol |
Olynydd: presennol |