Ffosfforws gwyn
Cemegyn a geir o alotrop o ffosfforws ac sy'n cael ei ddefnyddio fel prif gynhwysyn dyfais fflamychol sy'n cynhyrchu mwg a fflamau, ac a ddefnyddir gan rai byddinoedd i greu sgrin mwg ar faes y gad yw ffosfforws gwyn. Cyfeirir ato weithiau fel "WP" neu "Willie Pete" (o'r enw Saesneg, white phosphorus), gair a fachwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Ond mae gan ffosfforws gwyn sgîl-effaith. Mae'n llosgi'n ffyrnig ac yn gallu rhoi dillad, tanwydd a deunyddiau eraill ar dân. Er nad yw'n fod i gael ei ddefnyddio felly, mae'n gallu gweithio fel arf wrth-bersonel hefyd, gan losgi trwy'r cnawd a chreu llosgiadau difrifol sy'n gallu peri marwolaeth. Fe'i defnyddir mewn bomiau o bob math a thaflegrau i'w defnyddio'n agos sy'n ffrwydro yn ddeilchion llosg. Mae defnyddio arfau ffosfforws gwyn yn ddadleuol. Ar faes y gad ni chaniateir eu defnyddio yn erbyn milwyr yn uniongyrchol. Cytunir na ddylent gael eu defnyddio yn erbyn sifiliaid o gwbl. Er nad yw'r Confensiwn Arfau Cemegol yn galw "WP" yn arf gemegol fel y cyfryw, mae sawl grŵp ac asiantaeth yn ei ddisgrifio felly.
Hanes
[golygu | golygu cod]Mae lluoedd arfog yr Unol Daleithiau, Israel, a Rwsia wedi defnyddio ffosfforws gwyn. Cafodd ei ddefnyddio gan yr Unol Daleithiau yn Rhyfel Fietnam. Yn Rhyfel Irac yn 2004, defnyddiodd yr Americanwyr fomiau ffosfforws gwyn yn uniongyrchol yn erbyn milwyr y gwrthsafiad pan ymosodwyd ar ddinas Fallujah a lleoedd eraill. Roedd hyn yn groes i reolau ymladd Byddin yr Unol Daleithiau ei hun, sy'n nodi "Mae yn erbyn cyfraith rhyfel ar dir i ddefnyddio WP yn erbyn targedau dynol."[1]
Yn Rhyfel Libanus 2006, defnyddiwyd bomiau "WP" gan Llu Amddiffyn Israel "yn erbyn targedau milwrol ar dir agored".
Defnyddio ffosfforws gwyn gan Israel yn Gaza
[golygu | golygu cod]Mae Israel wedi cael ei beirniadu gan sawl grŵp hawliau dynol, asiantaethau dyngarol ac eraill am ddefnyddio arfau anghonfensiynol yn erbyn sifiliaid Gaza yn ei ymosodiadau ar y ddinas yn rhyfel 2008-2009. Mae hyn yn cynnwys y defnydd o fomiau ffosfforws gwyn ar ardaloedd dinesig.[2] Yn ôl y meddygon yn Ysbyty Al-Shifa yn ninas Gaza, roedd nifer uchel o'r sifiliaid anafiedig yno yn dioddef o anafiadau llosg dwfn. Mae dafnau o'r cemegyn ffosfforws gwyn yn llosgi trwy'r cnawd i'r asgwrn. Yn ôl llygad-dystion sifilaidd, defnyddiwyd bomiau ffosfforws gwyn dros ddinas Gaza a Jabaliya yn ail wythnos y rhyfel. Roedd y bomiau'n tasgu cannoedd o ddafnau llosg dros ardaloedd lle mae nifer o bobl yn byw yn agos iawn i'w gilydd yn Jabaliya. Roedd y mwg gwyn trwchus yn drewi'n ofnadwy ac yn tagu pobl a'i gwneud yn anodd i bobl anadlu. Adroddodd llygad-dyst arall ei bod hi wedi gweld "fflach llachar ac wedyn syrthiodd nifer o wreichionau dros y gymdogaeth gan lanio o gwmpas pobl ac ar eu tai." Dywedodd bod matresi yn ei thŷ hi wedi mynd ar dân o ganlyniad i hyn. Mae'r grŵp hawliau dynol Human Rights Watch yn dweud er nad yw defnyddio ffosforws gwyn ar faes y gad yn anghyfreithlon ynddo ei hun, mae ei ddefnyddio yn fwriadol yn erbyn ardaloedd llawn o sifiliaid yn torri cyfraith ryngwladol.[3][4]
Am chwarter i saith amser lleol ar yr 17eg o Ionawr, saethodd tanciau Israelaidd fomiau ffosfforws ar un o ysgolion UNRWA yn Beit Lahiya, fymryn i'r gogledd o Gaza ei hun. Roedd 1,600 o sifiliaid yn cysgodi yno. Aeth rhan o'r adeilad ar dân ac yn fuan ar ôl hynny saethwyd rownd arall a laddodd ddau blentyn. Saethwyd eto wrth i'r ffoaduriaid geisio dianc a lladdwyd pedwar o sifiliad arall. Galwodd John Ging, pennaeth UNRWA, am ymchwiliad llawn i hyn ac ymosodiadau eraill gan Israel yn Gaza fel troseddau rhyfel posibl.[5] Ymwelodd Ban Ki-moon, Ysgrifennydd Cyffredinol y CU, â dinas Gaza a'r gogledd ar yr 20fed o Ionawr. Dywedodd fod yr hyn a welodd yn "ddychrynllyd" a galwodd am ymchwiliad llawn i'r bomio o wersylloedd UNRWA gan yr IDF, a oedd yn "ymosodiad wrthun a hollol annerbyniol ar y CU" gan ychwanegu y byddai'r rhai fu'n gyfrifol yn "atebol" am eu gweithrediadau.[6]
Ar yr 20fed o Ionawr 2009 dywedodd Amnest Rhyngwladol fod defnyddio bomiau ffosfforws gwyn gan Israel yn Gaza "dro ar ôl tro" ac "heb wahaniaethu" ar ardaloedd llawn o sifiliaid "yn drosedd rhyfel."[7]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ FM 100-3 US Army Battle Book Archifwyd 2009-01-29 yn y Peiriant Wayback US Army Command and General Staff College.
- ↑ Fideo: Bomiau ffosfforws gwyn yn ffrwydro dros Gaza Al Jazeera.
- ↑ "'Phosphorus' fears over Gaza wounds" 11.01.2009 Al Jazeera.
- ↑ ""White phosphorus added to Israeli fire" 05.01.2009". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-01-16. Cyrchwyd 2009-01-22.
- ↑ "Israel shells UN school in Gaza" 17.01.2009 Al Jazeera.
- ↑ "Ban demands probe into Gaza attacks" 20.01.2009 Al Jazeera.
- ↑ "Israel accused of war crimes" 20.01.2009 Al Jazeera.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Fideo: Bomiau ffosfforws gwyn yn ffrwydro dros Gaza, ar wefan Al Jazeera.
- (Saesneg) The Legality of the Use of White Phosphorus by the United States Military During the 2004 Fallujah Assaults (Roman Reyhani)
- (Saesneg) Globalsecurity.org ar WP (yn cynnwys Brwydr Fallujah, 2004, a Brwydr Grozny, 1994)
- (Saesneg) UN releases Gaza attack photos, Al Jazeera. Tystiolaeth ffotograffau yn dangos deilchion "WP" yn disgyn ar wersyll UNRWA yn Beit Lahiya, Ionawr 2009.
- (Saesneg) Incendiary weapons: The big white lie Archifwyd 2007-03-25 yn y Peiriant Wayback, yn The Independent (17.11.2005)