Neidio i'r cynnwys

Tivoli

Oddi ar Wicipedia
Dyma ddiwygiad cyfredol y dudalen Tivoli a ddiwygiwyd gan Craigysgafn (sgwrs | cyfraniadau) am 12:02, 9 Tachwedd 2022. Mae'r URL yn y Bar Lleoliad uwchben yn ddolen barhaol i'r fersiwn hwn o'r dudalen hon.
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Tivoli
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth54,916 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iFocșani Edit this on Wikidata
NawddsantLawrens Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDinas Fetropolitan Rhufain Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Eidal Yr Eidal
Arwynebedd68.65 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr235 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawAniene Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaCastel Madama, Guidonia Montecelio, Rhufain, San Gregorio da Sassola, Vicovaro, Marcellina, San Polo dei Cavalieri Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau41.9667°N 12.8°E Edit this on Wikidata
Cod post00010, 00011, 00019 Edit this on Wikidata
Map

Tref a chymuned (comune) yn rhanbarth Lazio, yr Eidal yw Tivoli, Tibur yn y cyfnod clasurol. Saif tua 30 km o ddinas Rhufain, ger rhaeadr lle mae Afon Aniene yn disgyn o'r bryniau.

Yn y cyfnod Etrwscaidd, roedd Tibur yn eiddo'r Sabiniaid, ac yn gatref Sibyl Tibur. Gwnaeth Tibur gynghrair ar Galiaid yn 361 CC, ond gorchfygwyd y dref gan y Rhufeiniaid yn 338 CC. Rhoddwyd dinasyddiaeth Rufeinig i'r trigolion yn 90 CC. Daeth yn fangre boblogaidd i Rufeiniaid cefnog adeiladu fila; roedd gan Maecenas ac Augustus fila yma, ac roedd gan y bardd Horace un lai. Yr enwocaf yw'r Villa Adriana, a adeiladwyd gan yr ymerawdwr Hadrian, sy'n parhau mewn cyflwr da ac a enwyd yn Safle Treftadaeth y Byd. Bu Zenobia, brenhines Palmyra hefyd yn byw mewn fila yma wedi iddi gael ei gorchfygu gan yr ymerawdwr Aurelian yn 272.

Yn 547, yn ystod y rhyfel yn erbyn y Gothiaid, adeiladwyd amddiffynfeydd gan y cadfridog Bysantaidd Belisarius, ond yn ddiweddarach dinistriwyd y dref gan fyddin Totila. Yn y Canol Oesoedd by ymgiprys rhwng Tivoli a Rhufain am reolaeth dros ganolbarth Lazio.

Roedd Tivoli yn parhau yn boblogaidd fel safle i adeiladu filas, ac yn 1549 dechreuwud adeiladu'r Villa d'Este gan Pirro Ligorio ar gyfer y Cardinal Ippolito II d'Este. Enwyd y Villa d'Este hefyd yn Safle Treftadaeth y Byd. Yn 1835 adeiladodd Pab Gregori XVI y Villa Gregoriana yma.

Rhan o Tivoli o'r Villa d'Este.

Roedd y boblogaeth yn 2005 yn 65,999.